Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae gradd LLB Cyfraith Ewropeaidd yn Aberystwyth, a addysgir yn Adran y Gyfraith hynaf a mwyaf hirsefydlog Cymru, yn gwrs heriol a diddorol.
Mae Bwrdd Safonau'r Bar a'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn cydnabod y radd – sy'n cynnig llwybr uniongyrchol i'r maes cyfreithiol.
Byddwch yn elwa ar brofiad a brwdfrydedd ein staff arbenigol, y mae llawer ohonynt wedi gweithio fel cyfreithwyr – gan gynnig cymhwysiad ymarferol i'ch astudiaethau damcaniaethol.
Drwy feithrin dyfeisgarwch a ffordd o feddwl "y tu allan i'r bocs", byddwch yn gorffen y radd gyda sgiliau ar gyfer y byd go iawn, gan eich galluogi i bennu eich dyfodol a datblygu'r yrfa rydych chi'n ei haeddu.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
91% boddhad cyffredinol i Adran y Gyfraith a Throseddeg (ACF 2020).
Mae'n radd ymarferol yn y gyfraith sydd wedi'i chynllunio i fodloni anghenion cyflogwyr, ac fe'i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith.
Ar ôl ei gorffen, byddwch yn gymwys i barhau â hyfforddiant galwedigaethol ar Gwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC), neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar (BPTC).
Os byddwch yn cwblhau modiwlau penodol yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich eithrio rhag rhai arholiadau proffesiynol penodol.
Fe'i haddysgir gan staff proffesiynol sy'n gweithio â sefydliadau mawr e.e. GRETA, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Swyddfa Cenhedloedd Unedig yr Uchel Gomisiynydd ar gyfer Hawliau Dynol.
Bydd cyfleoedd proffesiynol a chymdeithasol ardderchog, a chewch ymweld â Ffeiriau'r Gyfraith a'r Inns of Court yn Llundain.
Bydd opsiwn i wneud modiwl lleoliad gwaith mewn gwahanol feysydd o'r gyfraith.
Bydd opsiwn i astudio dramor yn ystod yr ail flwyddyn yn un o'n prifysgolion partner niferus yn Ewrop, Unol Daleithiau America, Canada ac Awstralia.
Bydd opsiwn i gymryd rhan gyda'n Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau cyfreitha ac eirioli allweddol. Rydym hefyd yn cynnig cystadleuaeth Ymryson Gymraeg ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno ymrysona drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r Ysgol yn cynnig nifer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o fanylion ar gael gan yr Ysgol.
Bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio gan yr Adran tuag at fodiwlau opsiynol sy'n berthnasol i thema'r cynllun. Bydd y traethawd hir hefyd yn berthnasol i themâu penodol y cynllun.
Ein Staff
Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae eich gradd LLB mewn Cyfraith Ewropeaidd yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous i chi.
Byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer hyfforddiant i ddod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr
Mae eich gradd LLB y Gyfraith yn cynnig posibilrwydd i chi lwyddo mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys troseddeg, rheoli ariannol, busnes, adnoddau dynol, cysylltiadau rhyngwladol, newyddiaduraeth ac addysg
Mae eich dyfodol yn bwysig i ni, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:
yr hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol
y gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth
y gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir
y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
y gallu i weithio'n annibynnol
sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
sgiliau ymchwil.
Pa gyfleoedd sydd i fyfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch:
yn cael hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau, ee Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol a Chyfraith Camwedd, y mae'n rhaid eu hastudio a'u pasio er mwyn cael eithriad rhag cam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith
yn gallu archwilio strwythur a datblygiad system gyfreithiol Cymru a Lloegr
yn gallu astudio'r gydberthynas rhwng cynsail farnwrol a'r gyfundrefn lysoedd
yn gallu dadansoddi'r broses o greu deddfwriaeth, a sut caiff ei dehongli gan farnwyr.
Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, gallech gael eich cyflwyno i'r pynciau canlynol:
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
Cyfraith Gyhoeddus
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau, a Chyfraith Tir.
Bydd hefyd modd i chi deilwra'ch astudiaeth drwy ddewis yn ofalus o ystod o fodiwlau opsiynol.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, sy'n arloesol ac o ansawdd uchel, a fydd yn caniatáu i chi wireddu'ch potensial.
Yn eich darlithoedd, byddwch yn cael eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Bydd gennych fynediad hefyd at fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd.
Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, er mwyn gwerthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau, cofnodion astudio neu bortffolios, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi ar gyfer eich amser yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth. Eich tiwtor personol fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol a datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Crefft o drin geiriau yw'r gyfraith - arf wedi'i ategu gan sgiliau meddwl beirniadol wrth hyrwyddo neu amddiffyn pwynt neu ddadl, yn ogystal â dehongli ystyr gair neu derm penodol. Prydferthwch y gyfraith yw'r ffaith ei bod yn siapio cymdeithas i'r graddau bod ei heffaith yn ymestyn i gynnwys proffesiynau eraill megis meddygaeth, fferylliaeth, busnes ac ati. O ran iawnderau dynol, mae'r gyfraith yn arf sy'n rhoi mantais i rywun siarad a gweithredu'n ddi-ofn. Em Nian Yaw
Mae'r gyfraith yn bwnc heriol sy'n fy ymestyn bob dydd - a dyna'n union pam dw i'n ei fwynhau! Diolch i'r staff gwych a'r adnoddau helaeth sydd ar gael i fyfyrwyr, mae'r her wedi parhau i fod o fewn fy nghyrraedd. Mae Aberystwyth ei hun yn dref wych, yn ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o fyfyrwyr. Mae ganddi rywbeth i'w chynnig i bawb, a does unman gwell er mwyn gwneud ffrindiau agos. Mae'r dref yn hamddenol ac yn groesawgar iawn, a phan fydd hi'n braf, does unman gwell i fod. Andrew James Hall
Fe wnes i ddewis astudio gradd LLB y Gyfraith gan fy mod am fynd ymlaen i hyfforddi fel cyfreithiwr. Un o'r pethau gwych am y radd yw'r ystod eang o fodiwlau opsiynol y gallwch eu dewis, ac os nad ydyn nhw'n cael eu cynnig bob blwyddyn - sy'n wir am ambell un - maen nhw'n cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn, felly rydych yn sicr o gael cyfle i astudio'r rhai rydych chi eisiau. Hefyd, mae'r staff yn gyfeillgar iawn ac yn hawdd siarad â nhw, sy'n golygu y bydd unrhyw broblemau, materion neu gwestiynau sydd gennych yn cael eu hateb yn gyflym ac yn hawdd. Er bod y cwrs yn golygu llawer o waith caled, fel sy'n wir am unrhyw radd, mae'n werth chweil yn y pen draw, a byddwch yn siŵr o gael hwyl ac ennill profiad ar yr un pryd! Katie Jayne Mansell
Mae'r cyfuniad o gwrs gwych gyda thref hardd yn berffaith. Dw i wedi mwynhau astudio'r Gyfraith yn Aberystwyth dros y tair blynedd diwethaf. Er ei fod wedi bod yn waith caled a blinedig, mae wedi bod yn wefreiddiol ac yn heriol hefyd. Mae'r holl ddarlithwyr, tiwtoriaid a staff yn hynod gyfeillgar a chymwynasgar ac yn ymfalchïo yn yr adran a'r ffordd caiff modiwlau eu haddysgu. Mae gan Lyfrgell y Gyfraith bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich gradd, felly does dim angen i chi fynd yn bell. Mae'r cwrs yn denu cymaint o wahanol bersonoliaethau a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd, ac mae treulio tair blynedd gyda nhw yn wych. Mae'r modiwlau'n cynnig dewis gwych. William Pryce