BA

Ffilm a Theledu / Mathemateg

BA Ffilm a Theledu / Mathemateg Cod GW16 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r radd gyd-anrhydedd Ffilm a Theledu / Mathemateg yn cynnig rhaglen astudio amrywiol, drylwyr a heriol.

Mae'n cyfuno ymagweddau ymarferol a damcaniaethol tuag at archwilio cynyrchiadau, sefydliadau, cynulleidfaoedd a hanes ffilm a theledu, gyda disgyblaethau Mathemategol craidd a gwaith nodi a dadansoddi siapau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ffilm a Theledu a Mathemateg yn Aberystwyth?

Yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth yw'r Adran Celfyddydau a Dyniaethau â'r sgôr uchaf yng Nghymru yn ôl canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, gyda 60% o'r ymchwil a gyflwynwyd wedi'i farnu yn ymchwil sy'n arwain y byd.

Mae'r Adran hon yn un o'r mwyaf eu maint a'r uchaf eu parch ym Mhrydain o ran enw da ei staff ac ansawdd profiad y myfyriwr. Mae gennym ystod heb ei ail o ran dewis i fyfyrwyr, arbenigedd staff, a chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer gwaith ymarferol, gyda chamerâu digidol a HD safonol y diwydiant, ystafelloedd golygu, ardaloedd gwylio, a gofodau ar gyfer gwaith ymarferol fel bod modd i chi ddefnyddio'ch sgiliau creadigol yn llawn. 

Mae cyfleusterau eraill ar gael i chi drwy ein partneriaethau strategol gyda Boom Cymru, cwmni cynhyrchu teledu annibynnol mwyaf Cymru; Theatr Arad Goch, theatr gymunedol yn Aberystwyth; a BBC Cymru, sydd â'u swyddfeydd a'u stiwdios lleol wedi'u lleoli yn yr Adran. Mae Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru hefyd wedi'i lleoli drws nesaf i'r campws yn y Llyfrgell Genedlaethol, felly gallwch fanteisio ar ffynhonnell ddihafal o ddeunydd.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, un o'r canolfannau celfyddydau campws mwyaf yng ngwledydd Prydain, wedi'i lleoli ar brif gampws y brifysgol, ac mae'n lleoliad poblogaidd lle gallwch lwyfannu eich gwaith a phrofi perfformiadau a dangosiadau o bob math.

Mae ymchwil blaengar yn ysbrydoli ein haddysgu mathemateg: bu i'r Adran Fathemateg gofrestru bron i 90% o'i staff yn yr asesiad cyfnodol diweddaraf o ymchwil prifysgolion ledled gwledydd Prydain (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014). Dangosodd y canlyniadau fod 1 ymhob 8 o'n papurau ymchwil yn arwain y byd, a bod mwy na 60% ohonynt un ai'n arwain y byd neu'n ardderchog yn rhyngwladol. Barnwyd bod ein holl ymchwil, a'r effaith mae'n ei chael y tu hwnt i'r brifysgol, o safon rhyngwladol. Rydych felly yn sicr o gael eich addysgu gan staff sy'n flaengar yn y maes.

Roedd 100% o'n graddedigion Mathemateg a raddiodd yn 2014 mewn gwaith neu bellach ymhen 6 mis ar ôl graddio.

Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol ym 1872, sy'n golygu mai dyma'r adran Mathemateg hynaf yng Nghymru. Er gwaethaf ein treftadaeth, rydym wedi parhau i arloesi gan sicrhau bod y cynlluniau gradd rydym yn eu cynnig yn darparu'r radd Fathemateg orau y gallwch ei chael.

Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 1 FM11520 20
Studying Film FM10120 20
Studying Television FM10220 20
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd MT10110 10
Hafaliadau Differol MT11210 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10
Tebygoleg MT10310 10
Ystadegaeth MT11310 10
Movements in Film History FM11120 20
Studying Communication FM10720 20
Studying Media FM10620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Algebra Llinol MT21410 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Art Cinema FM24420 20
Creative Documentary FM26520 20
Creative Fiction: Horror FM20920 20
Creative Studio FM25420 20
Digital Culture FM25520 20
Film Stardom and Celebrity FM21520 20
LGBT Film & Television FM20120 20
Media, Politics and Power FM22620 20
The Story of Television FM20420 20
Work in the Film & Television Industries FM23820 20
Writing for Film and Television FM21620 20
Advanced Dynamics MA25710 10
Applied Statistics MA26620 20
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau MT25220 20
Dadansoddiad Real MT20110 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Real Analysis MA20110 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Film and the Break-Up of Britain FM30020 20
Contemporary TV FM30320 20
Cult Cinema: Texts, Histories and Audiences FM38220 20
Experimental Cinema FM34520 20
Independent Research Project FM36040 40
Media Law and Regulation FM36720 20
Screening the Brave New World: television in 20th-century Britain FM31020 20
Videogame Theories FM38420 20
Documentary Production FM33740 40
Experimental Media Production FM33540 40
Fiction Film Production FM34240 40
Scriptwriting 1 FM37020 20
Scriptwriting 2 FM37120 20

Gyrfaoedd

Mae'r cynllun gradd yn cynnig cydbwysedd rhwng ymagweddau beirniadol a phrofiad ymarferol creadigol i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyfleoedd gyrfa yn y diwydiannau creadigol a'r tu hwnt. Cefnogir myfyrwyr ym mhob blwyddyn astudio i wella eu sgiliau cyflogadwyedd, ac fe'u hanogir i ddatblygu eu harfer myfyrio ac ysgogi eu hunain.

Mae myfyrwyr yn dysgu sut i ddod yn gyfathrebwyr effeithiol a sut i weithio fel rhan o dîm wrth gydweithio mewn grwpiau cynhyrchu. Bydd gennych fynediad at gyfleusterau blaengar fel stiwdio deledu ddigidol aml-gamera diffiniad uchel, camerâu fideo digidol diffiniad uchel, a chyfleusterau taflunio fideo a digidol i ddatblygu'ch sgiliau cynhyrchu ymarferol. Trefnir dosbarthiadau meistr arbennig gydag arbenigwyr, gan gynnwys: cystadlaethau cynnig syniadau, gweithdai cynllunio sain, cynllunio cynhyrchiad ar gyfer ffilm, cynllunio gwallt a cholur ac effeithiau arbennig, a chyflwyno eich hun yn broffesiynol. Gall myfyrwyr hefyd ddatblygu eu profiad a'u dealltwriaeth o weithio mewn amgylchedd dwyieithog, a gall myfyrwyr berfformio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.

Mae gan yr Adran gysylltiadau ardderchog gyda chwmnïau cynhyrchu lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gael cipolwg ar y diwydiant a datblygu eu sgiliau rhwydweithio. Mae gennym raglen siaradwyr gwadd sy'n rhoi mynediad i fyfyrwyr at arbenigwyr yn y diwydiant er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o'r diwydiannau creadigol ac arddangos eu gwaith a'u syniadau.

Anogir lleoliadau gwaith er mwyn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a phroffesiynol a fydd yn eu galluogi i lwyddo yn y gweithle. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae myfyrwyr wedi gallu cyflawni lleoliadau gyda'r BBC, Fiction Factory a Boom.

Mae gan yr adran berthynas weithio agos gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a bydd ymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt yn gweithio gyda chi i gefnogi eich datblygiad gyrfaol a'ch trosglwyddiad i'r gweithle. Cynhelir digwyddiadau gyrfaol yn yr adran er mwyn tynnu sylw myfyrwyr at gyfleoedd sydd ar gael iddynt, fel y Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG). Mae'r cynlluniau hyn yn cynnig cyfleoedd i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle a rhoi cynnig ar eich syniadau gyrfa.

Mae llawer o fyfyrwyr yn cael gwaith gyda chwmnïau ffilm a theledu yn gweithio fel ymchwilwyr, golygwyr, rheolwyr llawr, gweithredwyr camera, dylunwyr neu gyfarwyddwyr. Mae llawer o'n graddedigion yn cael gwaith hefyd mewn ystod o wahanol feysydd, gan gynnwys addysgu, gweinyddu, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, a hysbysebu. Bydd eich gradd yn rhoi sgiliau trosglwyddiadwy a rhyngbersonol ardderchog i chi, gan gynnwys profiad gwaith grŵp, arweinyddiaeth, cynllunio, rheoli cyllidebau, a hunan-gymhelliant.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Yn ogystal â dealltwriaeth a sgiliau penodol i bwnc, bydd astudio am radd mewn Ffilm a Theledu a Mathemateg yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu eich amser yn effeithiol a defnyddio'ch sgiliau
  • gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
  • ysgogi a disgyblu'ch hun
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau
  • ymgymryd ag ymchwil a dadansoddi data
  • cymhwyso sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • defnyddio sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • meithrin sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • mynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • cymhwyso hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • gweithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Bydd modd i chi gasglu, dosbarthu a dehongli deunydd deallusol ac esthetig yn annibynnol ac yn feirniadol, gan ddefnyddio sgiliau creadigol a dychmygus a ddatblygwyd drwy wireddu prosiectau ymchwil ac ymarferol yn unigol ac mewn grŵp. Byddwch hefyd wedi profi eich gallu o ran strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithlon ac yn greadigol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a gweledol gydag ystod o gynulleidfaoedd, gwerthuso a threfnu gwybodaeth, gweithio'n effeithiol gydag eraill, a gweithio o fewn amserlenni ac adnoddau penodol ac i derfynau amser penodol.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Mae'r cynlluniau gradd Ffilm a Theledu wedi'u cynllunio'n ofalus i sicrhau profiad academaidd cyfannol a fydd yn cyfoethogi ac yn llywio datblygiad eich sgiliau creadigol, beirniadol a thechnegol drwy waith ymarferol arloesol ac ymchwil ysgolheigaidd heriol.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i astudiaethau o ffilm a theledu, a byddwch yn datblygu'ch sgiliau ymarferol ar bob cam o'r broses cynhyrchu cyfryngau. Byddwch hefyd yn dilyn llwybr clir yn astudio'r disgyblaethau craidd, gan gynnwys algebra, calcwlws, geometreg gyfesurynnol a fector, tebygolrwydd, dadansoddi mathemategol, hafaliadau differol ac ystadegau.

Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, byddwch yn parhau i ddatblygu'ch sgiliau cynhyrchu a meithrin arbenigedd mewn technegau cynhyrchu allweddol. Byddwch hefyd yn astudio hanes a thraddodiadau penodol ffilm a theledu. Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i ganolbwyntio ar faes penodol, gan gynnwys cyfryngau arbrofol, dogfennol, ffuglen naratif neu sgriptio. Fel arall, mae'n bosib y byddwch yn dymuno cynhyrchu darn gwreiddiol o ysgolheictod, y traethawd hir, a bydd gennych gyfle i arbenigo mewn maes sydd o ddiddordeb penodol i chi. 

Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn byddwch hefyd yn astudio dadansoddi real, algebra haniaethol a llinol, dosrannu ac amcangyfrif, dulliau ystadegol a ffiseg fathemategol. Mae modiwlau opsiynol yn cynnwys dadansoddi rhifiadol a chymhleth, dynameg a hydrodynameg, samplu, ac atchweliadau a dadansoddiad amrywiant (ANOVA). Bydd modd i chi arbenigo ymhellach yn ystod y flwyddyn olaf, drwy ddewis o blith ystod eang o fodiwlau yn y ddwy ddisgyblaeth sy'n gweddu i'ch diddordebau.

Byddwch hefyd yn cyflawni modiwl cynllunio gyrfa gorfodol fel rhan o'ch cwrs, a fydd yn cynyddu eich rhagolygon cyflogadwyedd ac yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.

Gallwch hefyd gyflawni profiad gwaith fel rhan o'ch cwrs, a fydd yn cynyddu eich rhagolygon o ran cael swyddi ac yn eich galluogi i feithrin ac atgyfnerthu sgiliau trosglwyddadwy.

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd a seminarau ffurfiol i ddangosiadau, arddangosiadau technegol a gwaith prosiect grŵp. Mae'r amrywiaeth hon yn y gweithgarwch yn rhan hanfodol o athroniaeth yr Adran, ac mae'n creu amgylchedd dysgu sy'n gyffrous a chynhyrchiol mewn modd unigryw.

Byddwch yn cael eich asesu drwy ystod o ddulliau, gan gynnwys cynyrchiadau wedi'u dyfeisio mewn grŵp, prosiectau ffilm a fideo unigol, prosiectau ymchwil, dadansoddiadau ymarferol, dyddiaduron cynhyrchiad a sgriptio creadigol, ynghyd â thraethodau ffurfiol ac arholiadau. Yn ogystal, mae dulliau asesu ychwanegol megis byrddau stori, sgriptiau ffilm, cynigion, triniaethau a ffilmiau wedi'u dylunio er mwyn creu portffolio gwaith o ddeunydd y bydd modd i chi ei gyflwyno i gyflogwyr posib.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, i ddatblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac i ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Yr hyn dw i'n ei hoffi fwyaf am Ffilm a Theledu yw'r staff addysgu. Maen nhw'n weithwyr proffesiynol profiadol sy'n ddynamig, yn frwdfrydig, ac yn bwysicaf oll, yn hawdd mynd atyn nhw; mae'n golygu bod y profiad dysgu yn hwyliog, ac mae fy hyder wedi cynyddu o ganlyniad. Dw i hefyd yn mwynhau'r modiwlau amrywiol sydd ar gael. Mae'r sesiynau ymarferol yn wych gan eu bod yn caniatáu i fi arbrofi gyda fy syniadau fy hun, ond gan ddysgu sgiliau gwerthfawr i fi ar yr un pryd. Fy hoff fodiwlau hyd yma yw Ysgrifennu Sgript; Imagining the Short; ac Ysgrifennu ar gyfer Ffilm a Theledu. Dw i wrth fy modd yn ysgrifennu'n greadigol, ac mae'r modiwlau yma yn fy ngalluogi i ddatblygu fy nychymyg. Angela Wendy Rumble

Mae Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn anhygoel. Mae gan y cwrs awyrgylch gwych, sy'n dangos mor dda yw'r cysylltiad rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr. Mae ochr academaidd y cwrs yn ddadlennol; mae'n cyffwrdd ag ystod eang o bynciau ac yn ymdrin â phob un o'r rhain yn fanwl, ac mae hyn yn gweithio'n dda hyd yn oed ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n dymuno canolbwyntio mwy ar y modiwlau ymarferol. Yn ogystal, mae'r adran yn cynnig digonedd o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, ynghyd â chyfleoedd i fyfyrwyr fireinio'u sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth gydag offer yr adran. Mae yna hefyd gymdeithas ffilm boblogaidd. Joe Williams

Yr hyn dw i'n ei fwynhau ynghylch Ffilm a Theledu yw'r amrywiaeth o feysydd dw i wedi cael cyfle i fod yn rhan ohonyn nhw. Llynedd, fydden i byth wedi bod â'r hyder na'r ddealltwriaeth i drefnu tîm cynhyrchu, i greu a marchnata ffilmiau byrion ac i weithio mewn stiwdio tri chamera. Yr hyn ro'n i'n chwilio amdano gan Brifysgol Aberystwyth oedd y sgiliau i ddod yn wneuthurwr ffilm; a'r hyn ges i oedd sgiliau ymarferol, dealltwriaeth o drafodaethau academaidd, a chysylltiadau sydd wedi rhoi dealltwriaeth o'r diwydiant ffilm a theledu i fi. Peter Gosiewski

Does dim un pwnc diflas, ac mae'r cwrs yn mynd yn llawer dyfnach i fathemateg nag o'n i'n ei ddisgwyl. Mae cymaint o wahanol fodiwlau i ddewis ohonyn nhw, felly bydd rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi bob amser. Mae'r darlithwyr bob amser yn barod i helpu. Elin Wyn Hughes

Mae Mathemateg yn gwrs gwych gyda darlithwyr cyfeillgar iawn. Mae'r cynnwys yn ddiddorol iawn bob amser, ond hefyd yn heriol i'r graddau cywir. Mae'r adran gyfan yn gweithio'n effeithiol i gynnig yr holl gyfleusterau sydd eu hangen i gael gradd dda. Jennifer O'Neil

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|