BA

Astudiaethau Ffilm a Theledu / Drama a Theatr

BA Astudiaethau Ffilm a Theledu / Drama a Theatr Cod WW64 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae gradd gyd-anrhydedd Astudiaethau Ffilm a Theledu / Drama ac Astudiaethau Theatr Prifysgol Aberystwyth yn rhaglen gyffrous, amrywiol a heriol, sy'n cyfuno ymagweddau ymarferol a damcaniaethol tuag at astudio sbectrwm eang o gyfryngau a chelfyddydau perfformio. Byddwch yn dod ar draws ystod eang o fodiwlau ymarferol a damcaniaethol ffilm a theledu, sy'n cynnwys popeth o ffuglen i'r dogfennol, ac o'r prif ffrwd i'r arbrofol. Yn ogystal, bydd gennych gyfle i archwilio ystod eang o arferion theatr gyfoes, o ddrama wedi'i sgriptio i berfformiadau penodol i safle, ac o Shakespeare i arbrofi yn y cyfryngau newydd. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr blaengar ac ymarferwyr profiadol mewn adran sy'n rhoi pwyslais ar ddatblygiad deallusol, hyfedredd technegol, a phartneriaethau yn y diwydiant. Yn ystod y tair blynedd o astudio, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi chi ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y cyfryngau creadigol, y celfyddydau creadigol a'r tu hwnt.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu / Drama ac Astudiaethau Theatr yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan dîm o arbenigwyr ac ymarferwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol. 
  • Mae pob myfyriwr yn elwa ar ein profiadau dysgu ategol, lle mae damcaniaeth ac arfer wedi'u dylunio i fwydo'i gilydd. 
  • Fel adran, mae myfyrwyr yn elwa ar ein cysylltiadau gyda phartneriaid allweddol yn y diwydiant, fel y BBC, S4C, BAFTA Cymru, Gŵyl Ffilmiau Tribeca (Efrog Newydd), Fiction Factory, Tinopolis, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin, yr Archif Ddarlledu Genedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Avid. Mae'r partneriaid hyn yn cynnig cyfle ardderchog i rwydweithio a chysylltu gyda phobl yn y diwydiant cyn graddio. 
  • Mae gan fyfyrwyr yr adran fynediad at ein cyfleusterau ac adnoddau ardderchog ar gyfer gwaith ymarferol: offer sain a chamerâu proffesiynol, meddalwedd i safon y diwydiant, stiwdio deledu broffesiynol, labordy golygu, ystafell ôl-olygu, sinema, safle graddio a dybio, tair stiwdio ymarfer gyda chyfleusterau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer proffesiynol, gyda rigiau goleuo digidol wedi'u rheoli drwy gonsolau Strand Lighting ac ETC Congo, Systemau Sain Yamaha a Soundcraft, Systemau AV Sanyo a goleuo Strand, a dau NXAMP; a chyfleusterau gwisgoedd. 
  • Ar ein campws, a drws nesaf i'r adran, mae un o ganolfannau celfyddydau mwyaf Cymru, sy'n cyflwyno dangosiadau, sgyrsiau, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd a gwyliau ffilm yn rheolaidd. 
  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am fod â nifer fawr o glybiau a chymdeithasau, felly gallwch fod yn sicr y byddwch yn llenwi'ch amser rhwng eich astudiaethau a chymryd rhan yng ngweithgareddau eich clwb/cymdeithas o ddewis. 
  • Os ydych chi'n chwilio am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, bydd gan bob myfyriwr gyfle i gymryd rhan mewn lleoliad astudio dramor gydag un o'n prifysgolion partner yn Ewrop a rhai lleoliadau pellach gyda'n rhaglen Cyfnewid Rhyngwladol. Darganfyddwch lle gallai eich antur fynd â chi.


Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 1 FM11520 20
Studying Film FM10120 20
Studying Television FM10220 20
Theatre in Context 1 TP11020 20
Theatre in Context 2 TP11320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Site-Specific Performance Project TP11420 20
Studio Theatre Project TP11120 20
Body, Voice, Expression. TP10220 20
Body, Voice, Perception TP10120 20
Movements in Film History FM11120 20
Studying Communication FM10720 20
Studying Media FM10620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Acting for Camera TP25920 20
Acting: Process and Performance TP21220 20
Devised Performance Project TP21620 20
Directors' Theatre TP21820 20
New Media Performance TP23820 20
Shakespeare in Performance TP23220 20
Theatre Design Project TP22620 20
Theatre Production Project TP24940 40
Theatre and Contemporary Society TP20820 20
Art Cinema FM24420 20
Creative Documentary FM26520 20
Creative Fiction: Horror FM20920 20
Creative Studio FM25420 20
Digital Culture FM25520 20
LGBT Screens FM20120 20
Media, Politics and Power FM22620 20
Stardom and Celebrity FM21520 20
Television Genre FM20620 20
The Story of Television FM20420 20
Work in the Media Industries FM23820 20
Writing for Film and Television FM21620 20
Youth Cultures FM22320 20

Gyrfaoedd

Beth alla i wneud gyda gradd mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu / Drama ac Astudiaethau Theatr?

Ymhlith ein cyn-fyfyrwyr nodedig mae Ben Thompson, sy'n rhaglennydd ffilmiau byrion ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Tribeca yn Efrog Newydd ar hyn o bryd. Yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd Ben Thompson radd gyd-anrhydedd Astudiaethau Ffilm a Theledu / Drama ac Astudiaethau Theatr. 

Mae llawer o'n myfyrwyr wedi llwyddo i gael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • Actio a pherfformio
  • Cyfarwyddo
  • Cynllunio
  • Gweithredu camerâu
  • Sgriptio
  • Golygu
  • Addysgu a maes addysg
  • Ymchwil
  • Gweinyddu
  • Marchnata
  • Rheoli
  • Cysylltiadau Cyhoeddus.

Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?

Mae myfyrwyr ar y radd hon yn meithrin y sgiliau gwerthfawr canlynol y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gweithio'n effeithiol mewn grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu digwyddiadau byw a ffilm
  • Cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • Ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • Strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o gyfryngau
  • Y gallu i weithio'n annibynnol a gydag eraill
  • Trefnu a rheoli amser yn effeithiol
  • Hunanddibyniaeth a disgyblaeth
  • Sgiliau technoleg gwybodaeth
  • Sgiliau entrepreneuraidd.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • Cyfnodau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol ym maes drama a theatr
  • Modiwlau cyflwyniadol craidd ar hanes, theori a dadansoddiad o gynnyrch ffilm a theledu
  • Sgiliau ymarferol drwy ymgysylltu â phob cam o waith cynhyrchu'r cyfryngau.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • Creu theatr gyfoes drwy ddulliau ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol
  • Sgiliau cynhyrchu mewn stiwdio, creu ffilmiau dogfennol, ac ysgrifennu ar gyfer ffilm, teledu a pherfformio
  • Sgiliau actio, cyfarwyddo, dyfeisio a dylunio
  • Dealltwriaeth a sgiliau beirniadol allweddol mewn modiwlau damcaniaethol sy'n cyd-fynd ac sy'n cwmpasu sinema Hollywood, creu ffilmiau dogfennol, sinema gelf, materion cyfoes mewn diwylliant digidol, perfformio ar gyfryngau newydd, datblygiad theatr fodern Ewropeaidd, a Shakespeare mewn perfformiadau cyfoes.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, bydd gennych gyfle i gyflawni'r canlynol:

  • Arbenigo mewn cynhyrchu dogfennol, ffilmiau ffuglennol, cyfryngau arbrofol neu sgriptio, a meithrin sgiliau uwch yn y maes hwn
  • Ymestyn eich sgiliau mewn prosiectau theatr unigol, ar y cyd a chymwysedig
  • Cyflawni prosiect ymchwil annibynnol sylweddol, gan arwain at draethawd hir ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â ffilm a theledu neu ddrama a theatr
  • Astudio pynciau arbenigol sy'n ymdrin â hanes technoleg, ffilm arbrofol, sinema gwlt, teledu a chymdeithas yn yr ugeinfed ganrif, enwogrwydd, lle, gofod a thirlun, theatr, rhywedd a rhywioldeb, dramayddiaeth theatr gerdd, theatr ddogfennol a drama gyfoes ym Mhrydain
  • Elwa ar gefnogaeth ac arweiniad helaeth waeth pa lwybr rydych chi'n ei ddewis.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Byddwch yn cael eich addysgu drwy ystod o ddarlithoedd, seminarau, dangosiadau, arddangosiadau technegol a gwaith prosiect grŵp. Mae'r amrywiaeth hon yn y gweithgarwch yn rhan hanfodol o'n hathroniaeth, ac mae'n creu amgylchedd dysgu sy'n gyffrous a chynhyrchiol mewn modd unigryw.
  • Byddwch yn cael eich asesu drwy gynyrchiadau dyfeisedig grŵp, prosiectau ffilm a fideo unigol, dadansoddiadau ymarferol, cynyrchiadau ymarferol a phrosiectau perfformio, dyddiaduron cynhyrchu a sgriptio creadigol, traethodau ffurfiol ac wedi'u perfformio ac arholiadau, cofnodion myfyriol, blogiau a wicis, cyflwyniadau seminar, byrddau stori, dramâu a chynigion.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cynllun gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblem neu ymholiad, boed yn fater academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddynamig, heriol, difyr a chyffrous. Mae'n cynnig ystod eang o fodiwlau ymarferol i fyfyrwyr, sy'n cael eu cynnal mewn amgylchedd anogol sydd wedi'i reoli. Mae cyfleusterau adeilad Parry Williams heb eu hail, ac yn cynnig cyfle i berfformio ystod o gysyniadau theatraidd. Mae'r cwrs yn cynnig modiwlau damcaniaethol, sydd hefyd yn ddiddorol ac yn cynnig golwg ddyfnach ar y byd o'n cwmpas, a pherthynas cymdeithas gyda'r celfyddydau. Agwedd fwyaf gwerthfawr y modiwlau academaidd yw'r ffaith bod modd trosglwyddo'r sgiliau rydych chi'n eu dysgu wrth astudio i waith ymarferol. Mae'r gwaith damcaniaethol yn aml yn gwella'r sgiliau ar lefel ymarferol. Drwy gydweithio rhwng modiwlau ymarferol a damcaniaethol, mae'r cwrs yn cynnig llawer o sgiliau defnyddiol i fyfyrwyr.

Daniel Andrew Radbourne

Mae Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn anhygoel. Mae gan y cwrs awyrgylch gwych, sy'n dangos mor dda yw'r cysylltiad rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr. Mae ochr academaidd y cwrs yn ddadlennol; mae'n cyffwrdd ag ystod eang o bynciau ac yn ymdrin â phob un o'r rhain yn fanwl, ac mae hyn yn gweithio'n dda hyd yn oed ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n dymuno canolbwyntio mwy ar y modiwlau ymarferol. Yn ogystal, mae'r adran yn cynnig digonedd o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, ynghyd â chyfleoedd i fyfyrwyr fireinio'u sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth gydag offer yr adran. Mae yna hefyd gymdeithas ffilm boblogaidd. 

Joe Williams

Mae'r ystod eang o fodiwlau, ynghyd â'r amrywiaeth eang o gymdeithasau drama, yn golygu ei bod hi'n hawdd paratoi ar gyfer unrhyw faes ymarfer drama a theatr. Mae'r elfennau academaidd ac ymarferol yn wych, ac yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar un neu'r llall, a/neu gael sylfaen yn y ddamcaniaeth er mwyn gwella ein harchwiliad ymarferol. Mae'r staff yn gyfeillgar ac yn frwdfrydig bob amser, ac maen nhw wastad yn ein hannog ni i wneud mwy ac i archwilio ymhellach.

Jemma Rowlston

Yr hyn dw i'n ei fwynhau ynghylch Astudiaethau Ffilm a Theledu yw'r amrywiaeth o feysydd dw i wedi cael cyfle i fod yn rhan ohonyn nhw. Llynedd, fydden i byth wedi bod â'r hyder na'r ddealltwriaeth i drefnu tîm cynhyrchu, i greu a marchnata ffilmiau byrion ac i weithio mewn stiwdio tri chamera. Yr hyn ro'n i'n chwilio amdano gan Brifysgol Aberystwyth oedd y sgiliau i ddod yn wneuthurwr ffilm; a'r hyn ges i oedd sgiliau ymarferol, dealltwriaeth o drafodaethau academaidd, a chysylltiadau sydd wedi rhoi dealltwriaeth o'r diwydiant ffilm a theledu i fi. 

Peter Gosiewski

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|