BA

Ffilm a Theledu / Llenyddiaeth Saesneg

BA Ffilm a Theledu / Llenyddiaeth Saesneg Cod QW36 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Wrth ddewis astudio'r radd Ffilm a Theledu / Llenyddiaeth Saesneg hon, byddwch yn ymgolli mewn disgyblaeth drwyadl a heriol sy'n cyfuno cydrannau ymarferol a damcaniaethol. Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cydweithio'n agos â'r BBC, S4C, a chwmni Boomerang. Gan ganolbwyntio ar ddatblygu'r cymwyseddau a'r galluoedd hanfodol a fynnir gan gyflogwyr allweddol y diwydiant, bydd y radd Ffilm a Theledu / Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi'r sgiliau a'r nodweddion sydd eu hangen yn y ddisgyblaeth i chi. Ar ben hynny, byddwch yn cael eich addysgu yn un o gyfleusterau mwyaf blaenllaw gwledydd Prydain gan staff brwdfrydig ac ymroddgar. Yn ogystal, byddwch yn dilyn maes llafur craidd sy'n cydberthyn mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ffilm a Theledu / Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Byddwch yn ymuno ag adran fywiog a chreadigol lle mae drama, theatr, ffilm a chyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn cyd-daro.
  • Yn y ddwy ddisgyblaeth, byddwch yn elwa ar dirweddau dysgu sy'n cydblethu lle mae theori ac ymarfer wedi'u cynllunio i ategu ei gilydd. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn graddio gyda gradd safon aur sy'n cael ei gwerthfawrogi a'i chydnabod gan bob cyflogwr. 
  • Ar draws y ddau bwnc a thrwy gydol y cwrs hwn, bydd gennych yr opsiwn i ddewis o blith ystod amrywiol o fodiwlau ymarferol a damcaniaethol mewn ffilm a theledu, o ffuglennol i ddogfennol, ac o brif ffrwd i arbrofol.
  • Yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig gwych.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan staff rhagorol a fydd yn eich arwain a'ch mentora yn ystod y cwrs hwn. Mae eich arbenigwyr addysgu yn ymchwilwyr gweithgar sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau allanol.
  • Mae'r adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn gartref i New Welsh Review, cylchgrawn llenyddol Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru - gallai hwn fod yn gyfle cyffrous i chi gymryd rhan. Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr llenyddol, ac ysgolheigion cyhoeddedig o bob maes.
  • Bydd gan bob myfyriwr fynediad i'n cyfleusterau a'n hadnoddau gwych ar gyfer gwaith ymarferol mewn ffilm a theledu: Stiwdio deledu a galeri Manylder Uwch gyda thri chamera ac adnoddau allwedd croma ac awtociw; 30 o systemau golygu – meddalwedd Avid Media Composer, Adobe Premiere Pro a Final Cut Pro; 50 o gamerâu HD o safon a ddefnyddir yn y diwydiant – fformatau P2 ac AVCHD; a chamerâu DSLR a GoPro ar gael.
  • Gan fod y Llyfrgell Genedlaethol ar garreg ein drws, mae gennym fynediad diderfyn i'r archif Sgrin a Sain yn y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan y Celfyddydau. Bydd hyn yn fuddiol i chi drwy gydol eich cwrs, yn enwedig yn eich blwyddyn olaf. 


Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Ffilm a Theledu gyda Llenyddiaeth Saesneg?

Mae llawer o'n graddedigion wedi llwyddo i ddod o hyd i gyflogaeth yn y meysydd canlynol:

  • ymchwilio, golygu, rheoli'r llawr, gweithredu camera, dylunio neu gyfarwyddo gyda chwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu
  • dosbarthu ffilmiau
  • gwneud ffilmiau ar eu liwt eu hunain
  • marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • rhaglennu gwyliau ffilm
  • hysbysebu
  • gweinyddu'r celfyddydau
  • addysg.

Pa sgiliau bydda i'n eu hennill o'r radd?

Mae myfyrwyr yn ein hadran yn ennill y sgiliau trosglwyddadwy canlynol y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys gallu:

  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfleu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu eich amser yn effeithiol a defnyddio'ch sgiliau
  • gwrando ar gyngor beirniadol a gwneud defnydd ohono
  • ysgogi a disgyblu'ch hun
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

A oes unrhyw gyfleoedd profiad gwaith wrth astudio?

Mae gan yr adran bartneriaethau a chysylltiadau cryf gyda llawer o sefydliadau ee y BBC, Fiction Factory a Boom Pictures, y mae ein myfyrwyr wedi cael cynnig lleoliadau gwaith gyda nhw.

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech archwilio:

  • modiwlau cyflwyniadol craidd ar hanes, theori a dadansoddi cynhyrchion ffilm a theledu
  • modiwlau ymarferol sy'n datblygu sgiliau ym mhob cam o'r broses gynhyrchu: sgriptio, ffilmio, cyfarwyddo, a golygu'r gwaith terfynol
  • dewis o fodiwlau mewn sinema Brydeinig, sinema glasurol Hollywood ac astudio'r Cyfryngau
  • technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
  • barddoniaeth, rhyddiaith, drama, llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol. 

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech gael cyfle i wneud y canlynol:

  • datblygu sgiliau mewn cynhyrchu stiwdio, gwneud ffilmiau dogfennol ac ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu
  • dysgu gwybodaeth a sgiliau hanfodol allweddol mewn ystod o fodiwlau damcaniaethol sy'n cydblethu ac sy'n rhychwantu sinema Hollywood, gwneud ffilmiau dogfennol, sinema celf a materion cyfoes mewn diwylliant digidol
  • astudio'r agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar feirniadaeth lenyddol
  • astudio ystod o destunau craidd dethol o'r canoloesoedd hyd at yr unfed ganrif ar hugain
  • astudio nifer o bynciau arbenigol a ddewiswyd gennych chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel Oes Fictoria), neu thema (fel "lle")
  • cynyddu eich cyfleoedd cyflogaeth a'ch sgiliau trosglwyddadwy drwy'r modiwl lleoliad gwaith gorfodol.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, bydd modd i chi:

  • arbenigo mewn cynhyrchu dogfennau, ffilm ffuglen, cyfryngau arbrofol neu sgriptio a meithrin sgiliau uwch yn y maes hwn
  • astudio meysydd pwnc arbenigol sy'n ymdrin â hanes technoleg, ffilm arbrofol, sinema cwlt, teledu a chymdeithas yn yr ugeinfed ganrif, ac enwogrwydd
  • astudio damcaniaeth lenyddol a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddi llenyddol
  • cyflawni gwaith ysgrifennu ac ymchwil annibynnol estynedig yn eich prosiect traethawd hir blwyddyn olaf (ar bwnc a ddewisir ac a ddiffinnir gennych chi)
  • dewis eich arbenigeddau eich hun o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol a addysgir gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elizabethaidd, y stori ysbryd, y nofel Saesneg gynnar, ffuglen queer, llenyddiaeth plant, rhamantiaeth, a llawer mwy.

Cewch gychwyn ar brosiect ymchwil annibynnol, gan arwain at draethawd hir ar bwnc o'ch dewis sy'n ymwneud â ffilm a theledu;

Cewch elwa ar gymorth ac arweiniad helaeth waeth pa lwybr bynnag y penderfynwch ei ddilyn.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy amrywiaeth o ddulliau, yn cynnwys darlithoedd, seminarau, dangosiadau, arddangosiadau technegol a gwaith prosiect grŵp. Mae cynnig amrywiaeth yn y gweithgarwch yn rhan hanfodol o'n hathroniaeth, ac mae'n creu amgylchedd dysgu sy'n gyffrous a chynhyrchiol mewn modd unigryw.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy:

  • cynyrchiadau dyfeisio mewn grŵp
  • prosiectau ffilm a fideo unigol
  • dadansoddiadau ymarferol
  • dyddiaduron cynhyrchu a sgriptio creadigol
  • traethodau ac arholiadau ffurfiol
  • blogiau, Wicis a dyddlyfrau myfyriol
  • cyflwyniadau seminar.

Gallai asesiadau ychwanegol gynnwys:

  • byrddau stori
  • sgriptiau ffilm
  • cynigion.

Gallech ddefnyddio'r holl ddeunyddiau hyn i greu portffolio gwaith i'w gyflwyno i ddarpar gyflogwyr.

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Yr hyn dw i'n ei hoffi fwyaf am Ffilm a Theledu yw'r staff addysgu. Maen nhw'n weithwyr proffesiynol profiadol sy'n ddynamig, yn frwdfrydig, ac yn bwysicaf oll, yn hawdd mynd atyn nhw; mae'n golygu bod y profiad dysgu yn hwyliog, ac mae fy hyder wedi cynyddu o ganlyniad i hyn. Dw i hefyd yn mwynhau'r modiwlau amrywiol sydd i'w cael. Mae'r sesiynau ymarferol yn wych gan eu bod yn caniatáu i fi arbrofi gyda fy syniadau fy hun, ond dw i hefyd yn dysgu sgiliau gwerthfawr ar yr un pryd. Fy hoff fodiwlau hyd yma yw Ysgrifennu Sgript; Dychmygu'r Ffilm Fer; ac Ysgrifennu ar gyfer Ffilm a Theledu. Dw i wrth fy modd yn ysgrifennu'n greadigol, ac mae'r modiwlau yma yn fy ngalluogi i ddatblygu fy nychymyg. Angela Wendy Rumble

Mae Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn anhygoel. Mae gan y cwrs awyrgylch gwych, sy'n amlwg i'w weld o'r cyswllt sydd rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr. Mae ochr academaidd y cwrs yn agoriad llygad; mae'n cyffwrdd ag ystod eang o bynciau ac yn ymdrin â phob un o'r rhain yn fanwl, ac mae hyn yn gweithio'n dda hyd yn oed ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n dymuno canolbwyntio ar y modiwlau mwy ymarferol. Yn ogystal, mae'r adran yn cynnig digonedd o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, yn ogystal â chyfleoedd i fyfyrwyr fireinio'u sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth gydag offer yr adran. Mae yna hefyd gymdeithas ffilm boblogaidd. Joe Williams

Yr hyn dw i'n ei fwynhau ynghylch Ffilm a Theledu yw'r amrywiaeth o feysydd dw i wedi cael cyfle i fod yn rhan ohonyn nhw. Llynedd, fydden i byth wedi bod â'r hyder na'r ddealltwriaeth i drefnu tîm cynhyrchu, i greu a marchnata ffilmiau byrion nac i weithio mewn stiwdio tri chamera. Yr hyn ro'n i'n chwilio amdano gan Brifysgol Aberystwyth oedd y sgiliau i ddod yn wneuthurwr ffilm; a'r hyn ges i oedd sgiliau ymarferol, dealltwriaeth o ddadleuon academaidd, a chysylltiadau sydd wedi rhoi cipolwg i fi ar y diwydiant ffilm a theledu. Peter Gosiewski

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|