BSc

Mathemateg Gyllidol

Drwy ddewis astudio'r radd hon mewn Mathemateg Gyllidol, byddwch yn datgelu disgyblaeth ddiddorol a heriol. Mae mathemateg yn hanfodol bwysig i gymdeithas fodern, yn enwedig drwy ei chyfraniad i'r byd ariannol.

Trosolwg o'r Cwrs

Sefydlwyd y cwrs gradd Mathemateg Gyllidol mewn ymateb i'r galw cynyddol ymhlith cyflogwyr yn y sector cyllidol am raddedigion sydd â dealltwriaeth o fathemateg. Bydd craidd mathemategol y radd yn addysgu sgiliau allweddol ym maes algebra, calcwlws ac ystadegau, er enghraifft. Yn ogystal, byddwch yn astudio mathemateg mewn cyd-destun ariannol, er enghraifft modelu stocastig y farchnad stoc, ac yn meithrin dealltwriaeth gadarn o egwyddorion economeg ac egwyddorion cyfrifo a rheolaeth ariannol.

Pam astudio Mathemateg Gyllidol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn archwilio disgyblaeth sy'n heriol yn ddeallusol ac yn ddefnyddiol yn alwedigaethol, gan roi sgiliau i chi sy'n berthnasol i ystod eang o ddewisiadau gyrfaol.
  • Byddwch yn astudio o dan arbenigwyr mewn ystod eang o ddisgyblaethau. Mae ein darlithwyr yn athrawon ymroddedig; mae rhai'n dod o gefndir proffesiynol, gan wreiddio eich astudiaeth mewn cyd-destun proffesiynol go iawn, ac mae llawer ohonynt yn ymchwilwyr gweithgar, sy'n ehangu ffiniau eu gwybodaeth.
  • Mae'r radd hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA), sef cymdeithas broffesiynol a dysgedig gwledydd Prydain ar gyfer mathemateg, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol ar eich cydnabyddiaeth fel Mathemategydd Siartredig.
  • Mae'r Adran hefyd yn cynnig nifer o fodiwlau a gaiff eu haddysgu'n gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr Adran.
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Accounting and Finance for Specialists AB11220 20
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd MT10110 10
Hafaliadau Differol MT11210 10
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Tebygoleg MT10310 10
Ystadegaeth MT11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Statistics MA26620 20
Corporate Finance and Financial Markets AB21420 20
Distributions and Estimation MA26010 10
Intermediate Financial Accounting AB21120 20
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau MT25220 20
Algebra Llinol MT21410 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Dadansoddiad Real MT20110 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Dadansoddiad Real MT20110 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Investments and Financial Instruments AB31320 20
Probability and Stochastic Processes MA37410 10
Stochastic Models in Finance MA37810 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Financial Accounting AB31120 20
Comparative Statistical Inference MA36010 10
Graffiau a Rhwydweithiau MT32410 10
Graphs and Networks MA32410 10
Hafaliadau Differol Rhannol MT34110 10
Linear Statistical Models MA36510 10
Normau a Hafaliadau Differol MT30210 10
Norms and Differential Equations MA30210 10
Partial Differential Equations MA34110 10
Taxation AB31520 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Mathemateg Gyllidol?

Bydd gradd mewn Mathemateg Gyllidol yn eich rhoi mewn sefyllfa i ateb galw cynyddol yn y sector cyllidol am raddedigion sydd â dealltwriaeth gadarn o fathemateg. Yn ogystal, yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth, byddwch yn cael nifer o gyfleoedd i wella eich cyflogadwyedd neu i gael profiad gwaith gwerthfawr. Mae ein graddedigion wedi cael gwaith ym maes cyfrifo, bancio, dadansoddi risg, gwaith actiwaraidd, rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Bydd astudio am radd mewn Mathemateg Gyllidol yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • ssgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio:

  • algebra a chalcwlws
  • hafaliadau differol a dadansoddi mathemategol
  • tebygolrwydd ac ystadegau
  • egwyddorion economeg a chyfrifo ariannol

Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, bydd modd i chi ddewis modiwlau o blith ystod eang o opsiynau, gan gynnwys:

  • econometreg a dadansoddi buddsoddiadau
  • dulliau stocastig ac ystadegau cymhwysol a phur

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a dosbarthiadau ymarferol.

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Does dim pwnc diflas byth, ac mae'r cwrs yn mynd yn llawer dyfnach i fathemateg nag o'n i'n ei ddisgwyl. Mae cymaint o wahanol fodiwlau i ddewis ohonynt, felly bydd rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi bob amser. Mae'r darlithwyr bob amser yn barod i helpu. Elin Wyn Hughes

Mae Mathemateg Gyllidol yn gwrs gwych gyda darlithwyr cyfeillgar ac agos-atoch. Mae'r cynnwys bob amser yn ddiddorol iawn, ond yn heriol i'r graddau cywir. Mae'r adran gyfan yn gweithio'n effeithiol i gynnig yr holl gyfleusterau sydd eu hangen i gael gradd dda. Jennifer O'Neil

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DMM-DDM with B in A level Mathematics

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|