BSc

Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig

Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig Cod C802 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae’r BSc Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i gael cipolwg ar agweddau beirniadol ar y maes seicoleg gymhwysol hwn, gan gynnwys deall sut mae pobl yn datblygu i fod yn droseddwyr ac ymddygiad troseddol, ymddygiad yn y llysoedd a phroffilio troseddwyr. Mae cymwysterau proffesiynol yn gofyn am sylfaen gadarn yng nghefndir seicoleg fforensig, ac mae llwybr israddedig achrededig Cymdeithas Seicolegol Prydain (y BPS) yn gonglfaen pwysig sy’n arwain at astudiaethau ôl-raddedig yn ddiweddarach. Mae’r astudiaethau hyn yn hanfodol i'r rhai sy'n ystyried ymgyrraedd at Ddoethuriaethau Fforensig a statws Seicolegydd Fforensig Siartredig. Mae gyrfaoedd ym maes seicoleg fforensig ymhlith y rhai mwyaf diddorol a gwerth chweil mewn ystod o gyd-destunau heriol, gan gynnwys carchardai, gwasanaeth yr heddlu a'n llysoedd.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam ddylech chi astudio Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae astudio Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig yn caniatáu ichi archwilio cysyniadau allweddol ac ymchwil gymhwysol drwy fodiwlau pwrpasol a phrosiectau blwyddyn olaf ar thema fforensig dan ofal arolygwr. Byddwch yn astudio seicoleg fforensig ynghyd â modiwlau perthynol ychwanegol, megis Cyffuriau ac Ymddygiad a byddwch yn ysgrifennu traethawd hir ar thema fforensig. Mae llawer o staff yr adran yn cynnal ymchwil mewn lleoliadau fforensig, ac mae’r gwaith ymchwil hwn yn cynnwys prosiectau sydd wedi'u hariannu a’u cynnal ar y cyd â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yr Heddlu a'r Swyddfa Gartref, a hynny mewn pynciau megis troseddau difrifol a threfnedig, cyfiawnder adferol a seiberdroseddu.

Bodlonrwydd Myfyrwyr

  • Yn Aberystwyth, rydym yn gweithio gyda chi i’ch helpu i fod yn wybodus ac yn feddylwyr chwilfrydig. Rydym yn defnyddio ein profiad addysgu ac ymchwil i’ch ysbrydoli ac i roi’r sgiliau a’r hyder i chi wneud beth bynnag yr ydych yn dymuno ei wneud yn y dyfodol.

Eich paratoi chi am oes

  • Mae sgiliau i’r gweithle yn ganolog i’n holl gynlluniau gradd, ac maent wedi'u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain - mae hyn yn berffaith i raddedigion sydd am gychwyn ar yrfa neu ddilyn hyfforddiant uwchraddedig. 

Cyfeillgar a Chynhwysol

  • Mae'n bwysig i chi astudio mewn amgylchedd cefnogol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Mae ein staff yn gweithio'n galed i ddarparu'r arweiniad a'r anogaeth y bydd arnoch eu hangen.

Adnoddau Eithriadol

  • Mae cyfleusterau ymchwil modern yr adran a’r mannau dysgu rhagorol i fyfyrwyr yn ychwanegu’n fawr at gyfleusterau rhagorol y brifysgol yn ganolog. Mae’r adnoddau hyn yn ein galluogi i sicrhau dull arloesol o ddysgu ac addysgu. 

Y Gymraeg

  • Os ydych chi'n siarad Cymraeg cewch gyfle i ddilyn cyfran o’ch astudiaethau yn y Gymraeg. Bydd staff dwyieithog wrth law yn yr Adran Seicoleg i’ch cefnogi yn eich gwaith, a gallant eich tywys gydol eich cyfnod yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. 
Ein Staff

Mae holl staff dysgu'r Adran Seicoleg yn gwneud gwaith ymchwil ac mae gan bob un o’r staff parhaol gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf TUAAU neu maent yn gymrodyr/cymrodyr uwch o'r academi addysg uwch. Mae gan dros hanner y staff hefyd gymhwyster CPsychol, sy'n dynodi safon uchaf y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig o ran gwybodaeth ac arbenigedd mewn seicoleg.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cognitive Psychology PS21820 20
Forensic Psychology PS21220 20
Qualitative Research Methods PS20310 10
Dulliau Ymchwil Meintiol SC21310 10
Social Psychology PS20220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Evolutionary Psychology PS21020 20
Health Psychology PS20720 20
Issues in Clinical Psychology PS21720 20
Seicoleg Iechyd SC20720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behavioural Neuroscience PS32120 20
Developmental Psychology PS34320 20
Drugs and Behaviour PS30820 20
Forensic Psychology Dissertation PS33340 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Child Language: Development and Assessment PS31820 20
Psychology Critical Review PS31520 20
The Psychology of Counselling, Coaching and Mentoring PS31920 20

Gyrfaoedd

Prif gyflogwr seicolegwyr fforensig yw Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi. Fodd bynnag, mae cyfleoedd hefyd ym maes cyfiawnder troseddol yn ehangach ac mewn mannau eraill. Fe allech gael eich cyflogi gan:

·      Y Swyddfa Gartref

·      Y Gwasanaeth Iechyd - mewn ysbytai arbennig ac unedau adsefydlu, gwasanaethau fforensig lleol ac ysbytai diogel

·      Yr Heddlu

·      Gwasanaethau cymdeithasol

·      Prifysgolion - mewn swyddi ymchwil a darlithio.

Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i seicolegwyr fforensig profiadol i weithio ym maes ymgynghori preifat.

Hefyd, drwy gwblhau gradd israddedig sydd wedi’i hachredu gan y BPS mewn Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig yn Aberystwyth, gallwch fynd yn eich blaen i ddilyn graddau meistr fforensig Cam 1 a hyfforddiant uwchraddedig proffesiynol cysylltiedig sy'n rhan o’r llwybr cymhwyso i fod yn seicolegydd fforensig siartredig.

Mae galw mawr gan gyflogwyr am y sgiliau y byddwch yn eu dysgu wrth astudio yma, ac maent yn cynnwys: 

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau datrys problemau yn effeithiol
  • gallu gweithio'n annibynnol a chyflwyno deunydd yn glir ac yn effeithiol
  • yn gallu mynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus
  • yn gallu eich gwthio eich hunan a bod yn annibynnol
  • sgiliau rheoli prosiectau a gweithio mewn tîm
  • sgiliau technoleg gwybodaeth.

Dysgu ac Addysgu

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gweithio drwy’r modiwlau gradd BPS craidd yn gyfochrog â'r modiwl craidd Cyflwyniad i Seicoleg Fforensig. Y nod yw rhoi'r sylfeini i chi ar gyfer y pynciau allweddol ym maes fforensig, a datblygu dealltwriaeth ynglŷn â chyfraniad is-ddisgyblaethau seicoleg at hyn oll.

Yn eich ail flwyddyn, bydd y modiwl Seicoleg Fforensig Gymhwysol yn adeiladu ar sylfeini’r flwyddyn gyntaf. Bydd y cynnwys yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth gliriach am sut y gellir defnyddio seicoleg yn ystod ymchwiliadau ac yn y llys, ynghyd â materion beirniadol sy'n ymwneud ag ymchwil a moeseg.

Bydd y flwyddyn olaf yn dod â llawer o'r cysyniadau a'r pynciau hyn ynghyd er mwyn ichi lunio’ch traethawd hir ar thema fforensig, dan arolygaeth staff sydd â phrofiad o gynnal ymchwil yn y meysydd hyn ac mewn meysydd cysylltiedig. Byddwch yn datblygu pwnc ac yn dadansoddi'r data empirig i gefnogi eich cwestiwn ymchwil. Yn gyfochrog â'r traethawd hir, byddwch yn dilyn y modiwl Cyffuriau ac Ymddygiad sy'n archwilio rhai materion hanfodol o ran troseddu, dibyniaeth ac adsefydlu.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Mae eich datblygiad academaidd a deallusol wrth wraidd eich profiad Seicoleg yn Aberystwyth. Mae ein staff wedi ymrwymo i ddull addysgu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, gan wneud eich anghenion dysgu yn flaenoriaeth o ran yr hyn a addysgir a sut rydym yn eich addysgu. Pan fyddwch yn ymuno â ni, bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn eich cefnogi drwy gydol eich cwrs gradd ac a fydd yno i’ch cynghori a’ch arwain ar ystod o faterion academaidd a phersonol.

Rydym yn addysgu mewn ffordd ysbrydoledig drwy amrywiaeth eang o fformatau gwahanol, o ddarlithoedd traddodiadol i waith mewn grwpiau bychain. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymhwyso’ch gwybodaeth mewn gweithdai ac ymarferion labordy, lle byddwch yn manteisio ar ein hamrywiaeth eang o offer a chyfleusterau ymchwil arbenigol.

Sut fydda i’n cael fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd gan gynnwys arholiadau traddodiadol, traethodau, wicis, blogiau, arsylwadau a chyflwyniadau.

Yn Aberystwyth gallwch fod yn hyderus y byddwch yn cael y profiad dysgu gorau mewn adran sydd ar flaen y gad yn y maes.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|