BA

Ffrangeg / Llenyddiaeth Saesneg

BA Ffrangeg / Llenyddiaeth Saesneg Cod QR31 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Os hoffech astudio cwrs sy'n trafod yr ystod ehangaf bosibl o destunau a diwylliannau llenyddol o'r canoloesoedd cynnar hyd heddiw, a datblygu eich galluoedd ieithyddol yn Ffrangeg ar yr un pryd, yna mae'r cwrs hwn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn berffaith i chi. Rydym yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu dawn i fynegi eu hunain, meddwl yn feirniadol, a meithrin gwybodaeth arbenigol a sgiliau ymchwil yn y ddau bwnc. Bydd myfyrwyr ar y cwrs diwylliannol gyfoethog hwn yn datblygu dealltwriaeth fanwl ac eang o hanes llenyddiaeth a gwybodaeth gymhwysol am ddamcaniaethau llenyddol ar y cyd â dosbarthiadau iaith safonol yn Ffrangeg. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ffrangeg a Llenyddiaeth Saesneg yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn rhan o Brifysgol sy'n ymdrechu i ddarparu profiad gwerthfawr a chofiadwy i’r myfyriwr. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwerthfawrogi ei myfyrwyr, a’r ethos hwn yw’r rheswm pam y cyrhaeddodd yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol y 3ydd safle ym Mhrydain am ei Chymuned Ddysgu ym maes pwnc Ysgrifennu Dychmygus yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf (NSS 2018). Mae'r Adran Ieithoedd Modern yn 8fed yn y DU am Ddysgu ac Addysgu yn Nhabl Cynghrair y Guardian 2019.
  • Gall myfyrwyr sy'n dymuno astudio Ffrangeg ddechrau'r cwrs hwn ar lefel dechreuwyr neu uwch. 
  • Cewch eich dysgu a'ch mentora gan staff sy'n arwain y byd yn eu meysydd arbenigedd.
  • Rydym yn cynnig cyfleoedd i chi drafod amrywiaeth eang o ddulliau o ymdrin â llenyddiaeth a hanes diwylliannol, gan gyfuno meddwl beirniadol ag ysgolheictod.
  • Bydd cyfle i chi drin a thrafod damcaniaethau llenyddol – y syniadau athronyddol a chysyniadol sy’n herio, yn codi cwestiynau ac yn taflu goleuni ar y modd yr ydym ni’n darllen. 
  • Yn ystod eich blwyddyn olaf bydd gennych yr opsiwn i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng nghanolbarth Cymru - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth. 
  • Mae'n destun balchder i’r ddwy adran eu bod yn cynnig awyrgylch hynod gyfeillgar lle mae’r cyswllt â staff yn rheolaidd. 
  • Mae gennym un o'r llyfrgelloedd mwyaf yn y byd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar garreg ein drws. Mae'r sefydliad hawlfraint hwn yn cael copi o bob llyfr a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae'r adran yn gartref i’r New Welsh Review, cylchgrawn llenyddol mwyaf blaenllaw Cymru - gallai hwn fod yn gyfle cyffrous i chi gymryd rhan.
  • Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr llenyddol, ac ysgolheigion cyhoeddedig o bob maes.
Ein Staff

Mae'r holl staff academaidd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ysgolheigion ac arbenigwyr gweithgar yn eu meysydd. Maent naill ai'n gymwys i lefel PhD neu mae ganddynt brofiad cymesur.  Mae gan ein darlithwyr naill ai gymhwyster dysgu Addysg Uwch neu'n maent yn gweithio tuag ato, ac mae gan y rhan fwyaf o’r staff academaidd hefyd Gymrodoriaethau gyda’r Academi Addysg Uwch.  

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Rhagolygon o ran Gyrfa

Gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg yw'r “safon aur” ar gyfer unrhyw weithle sy'n gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfathrebu. Mae ein holl fodiwlau yn darparu sgiliau allweddol sy'n golygu y gallwch feithrin C.V. cynhwysfawr sy'n tystio i amrywiaeth eang eich galluoedd.

Mae ein graddedigion wedi llwyddo ar draws yr ystod ehangaf posib o yrfaoedd:

  • Darlledu;
  • Newyddiaduraeth;
  • Hysbysebu;
  • Cyhoeddi;
  • Addysg;
  • y Gwasanaeth Sifil;
  • Byd Busnes;
  • Cyllid;
  • y Cyfryngau Newydd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Bydd astudio ar gyfer gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae'r rhain yn cynnwys:
  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
  • Y gallu i weithio'n annibynnol;
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser;
  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun;
  • Gweithio mewn tîm a'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb;
  • Sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio llenyddiaeth o bob genre ac o bob cyfnod yng nghyd-destun y dehongliad ehangaf posib o lenyddiaeth Saesneg. Byddwch yn meithrin sgiliau dehongli a dadansoddi testunau llenyddol, a byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau beirniadol cyfredol.

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr o waith iaith bob wythnos, a fydd yn cynnwys:

Llafar:

Ysgrifenedig;

Clywedol;

Cyfieithu.

Yn eich blwyddyn gyntaf, gallech ddysgu am:

  • Technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
  • Rhai ffigurau allweddol o hanes llenyddiaeth (o Shakespeare i’r chwiorydd Brontë)
  • Gyfnodau sylfaenol diwylliant Ffrainc;
  • Yr iaith Ffrangeg drwy ffilm, diwylliant a hunaniaeth;
  • Testunau llai adnabyddus, ac awduron sy'n newydd i chi
  • Amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" a rhai ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
  • Barddoniaeth, rhyddiaith, drama, llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol a llawer mwy.

Yn eich ail flwyddyn, gallech astudio:

  • Ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
  • Llenyddiaeth Ffrengig;
  • Hanes celf Ffrengig;
  • Ystod o destunau craidd dethol o'r cyfnod canoloesol hyd at yr unfed ganrif ar hugain
  • Diwylliannau Ffrainc gyfoes;
  • Nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "lle").

Yn ystod eich trydedd flwyddyn byddwch yn:

  • Ymgymryd â’ch blwyddyn o astudio dramor neu leoliadau gwaith.

Yn y flwyddyn olaf, gallech feistroli:

  • Damcaniaeth lenyddol a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddi llenyddol
  • Gwaith ysgrifennu ac ymchwil annibynnol estynedig yn eich prosiect traethawd hir blwyddyn olaf (ar bwnc a ddewisir ac a ddiffinnir gennych chi)
  • Agweddau o'r iaith Ffrangeg, gan gynnwys: Llenyddiaeth, Busnes, Ffilm;
  • Eich arbenigeddau eich hun wedi’u dewis o blith ystod amrywiol o fodiwlau dewisol* a ddysgir gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny.
  • Yn ystod eich blwyddyn olaf cewch gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng nghanolbarth Cymru - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Caiff ein cwrs gradd ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau un i un. Rydym hefyd yn annog dysgu hunan-gyfeiriedig, sydd â’r nod o ysgogi eich diddordeb academaidd mewn Llenyddiaeth Saesneg a meithrin eich datblygiad personol a deallusol.

Cewch eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol, nad ydynt yn cael eu hasesu, a gweithio gydag eraill ar dasgau penodol.

Rhagor o Wybodaeth

Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fanteisiol i chi mewn astudiaethau pellach neu unrhyw weithle i raddedigion. Byddwch yn dysgu i: ddefnyddio technegau beirniadol amrywiol wrth drin testunau; datblygu ymarfer myfyriol mewn darllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiadau beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, steil a dawn.

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

 


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BBC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|