Beth fydda i’n ei ddysgu?
Bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio llenyddiaeth o bob genre ac o bob cyfnod yng nghyd-destun y dehongliad ehangaf posib o lenyddiaeth Saesneg. Byddwch yn meithrin sgiliau dehongli a dadansoddi testunau llenyddol, a byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau beirniadol cyfredol.
Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr o waith iaith bob wythnos, a fydd yn cynnwys:
Llafar:
Ysgrifenedig;
Clywedol;
Cyfieithu.
Yn eich blwyddyn gyntaf, gallech ddysgu am:
- Technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
- Rhai ffigurau allweddol o hanes llenyddiaeth (o Shakespeare i’r chwiorydd Brontë)
- Gyfnodau sylfaenol diwylliant Ffrainc;
- Yr iaith Ffrangeg drwy ffilm, diwylliant a hunaniaeth;
- Testunau llai adnabyddus, ac awduron sy'n newydd i chi
- Amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" a rhai ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
- Barddoniaeth, rhyddiaith, drama, llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol a llawer mwy.
Yn eich ail flwyddyn, gallech astudio:
- Ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
- Llenyddiaeth Ffrengig;
- Hanes celf Ffrengig;
- Ystod o destunau craidd dethol o'r cyfnod canoloesol hyd at yr unfed ganrif ar hugain
- Diwylliannau Ffrainc gyfoes;
- Nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "lle").
Yn ystod eich trydedd flwyddyn byddwch yn:
- Ymgymryd â’ch blwyddyn o astudio dramor neu leoliadau gwaith.
Yn y flwyddyn olaf, gallech feistroli:
- Damcaniaeth lenyddol a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddi llenyddol
- Gwaith ysgrifennu ac ymchwil annibynnol estynedig yn eich prosiect traethawd hir blwyddyn olaf (ar bwnc a ddewisir ac a ddiffinnir gennych chi)
- Agweddau o'r iaith Ffrangeg, gan gynnwys: Llenyddiaeth, Busnes, Ffilm;
- Eich arbenigeddau eich hun wedi’u dewis o blith ystod amrywiol o fodiwlau dewisol* a ddysgir gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny.
- Yn ystod eich blwyddyn olaf cewch gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng nghanolbarth Cymru - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth.
Sut fydda i'n cael fy nysgu?
Caiff ein cwrs gradd ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau un i un. Rydym hefyd yn annog dysgu hunan-gyfeiriedig, sydd â’r nod o ysgogi eich diddordeb academaidd mewn Llenyddiaeth Saesneg a meithrin eich datblygiad personol a deallusol.
Cewch eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol, nad ydynt yn cael eu hasesu, a gweithio gydag eraill ar dasgau penodol.
Rhagor o Wybodaeth
Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fanteisiol i chi mewn astudiaethau pellach neu unrhyw weithle i raddedigion. Byddwch yn dysgu i: ddefnyddio technegau beirniadol amrywiol wrth drin testunau; datblygu ymarfer myfyriol mewn darllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiadau beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, steil a dawn.
Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.