BA

Ffrangeg / Almaeneg

Mae'r radd BA Ffrangeg gydag Almaeneg yn eich galluogi i astudio dwy iaith ar yr un pryd. Bydd y radd hon yn eich galluogi i ddatblygu cymhwysedd ieithyddol o ran siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu, a chyfieithu. Yn ogystal, byddwch hefyd yn cael cyfle i edrych ar gymdeithas a diwylliant eich dewis ieithoedd trwy ein hystod eang o opsiynau. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu eich cymwyseddau ieithyddol a thrin a thrafod yr ieithoedd ymhellach o fewn cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol, yna dyma’r cwrs i chi.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ffrangeg gydag Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  •  O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn derbyn 4 awr o waith iaith yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys darllen/ysgrifennu, siarad, gwrando a chyfieithu. Mae'r pedwar maes datblygu ieithyddol hyn yn rhoi sylfaen gadarn i chi wella eich rhuglder yn Ffrangeg ac yn Almaeneg.
  • Mae'r radd hon hefyd ar gael i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio Ffrangeg ac Almaeneg ar lefel dechreuwyr. Ar lefel dechreuwyr, yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cael eich addysgu’n wahanol i'r myfyrwyr sy'n dechrau ar y cwrs ar lefel uwch (Safon Uwch neu gyfwerth). Byddwch yn derbyn dosbarthiadau iaith dwys a fydd yn eich helpu i fod ar yr un lefel ieithyddol â'n myfyrwyr uwch yn y pen draw. Yn eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf, byddwch yn parhau â'r cwrs gyda'r holl fyfyrwyr uwch.
  • Yn ogystal â dosbarthiadau ieithyddol, rydym yn cynnig modiwlau craidd a dewisol i bob myfyriwr sy'n eich cyflwyno i lenyddiaeth, diwylliant, iaith, gwleidyddiaeth a busnes.
  • Mae pob myfyriwr yn ein hadran yn ffynnu yn ein hamgylchedd amlieithog. Fel Prifysgol fywiog, rydym yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd. Mae llawer o'r staff a fydd yn eich addysgu yn siarad yr iaith darged fel iaith frodorol. Rydym hefyd yn addysgu'r rhan fwyaf o'n modiwlau a'n dosbarthiadau trwy gyfrwng yr iaith darged, felly bydd y cyfuniad o fywyd yn yr adran a datblygiad academaidd yn sicrhau eich bod yn dod i gymaint o gysylltiad â phosibl â’r ieithoedd targed yr ydych chi'n eu dysgu.
  • Uchafbwynt y radd hon i'n holl fyfyrwyr yw'r flwyddyn dramor. Gan eich bod yn astudio dwy iaith, bydd gofyn i chi rannu eich blwyddyn dramor (eich trydedd flwyddyn) yn gyfartal rhwng Ffrainc a'r Almaen. Mae rhai myfyrwyr yn dewis treulio eu hamser yn gyfartal yn astudio gyda'n prifysgolion partner yn Ffrainc (neu wlad sy'n siarad Ffrangeg) a’r Almaen neu Awstria. Mae eraill yn dewis treulio eu hamser yn ymgymryd â lleoliad profiad gwaith cyflogedig neu ddi-dâl yn y ddwy wlad. Gallwch weld beth yw eich dewisiadau drwy ymweld â’n tudalen Astudio Dramor.
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beginners French 1 FR10920 20
Beginners French 2 FR11020 20
Beginners German 1 GE11120 20
Beginners German 2 GE11020 20
French Language Advanced FR19930 30
Images of France: The French Family FR12910 10
German Language Advanced GE19930 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Brazilian Portuguese (Basic) EL10720 20
Introduction to European Film EL10520 20
Introduction to French Studies FR11120 20
Language, Culture, and Identity in Europe EL10820 20
Exploring German Cultural Identity GE10810 10

Gyrfaoedd

Rhagolygon o ran Gyrfa

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o'n haddysgu ar draws yr Adran Ieithoedd Modern. Y Flwyddyn Dramor yw'r hyn sy'n gwneud i'n graddedigion sefyll allan ar ôl graddio. Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Dramor yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn dychwelyd gyda set o sgiliau ehangach, mwy o hyfedredd yn yr iaith, a'r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa.  

Mae ein graddedigion wedi llwyddo i ddod o hyd i waith ar ôl graddio. Mae ein graddedigion yn llwyddiannus yn y meysydd hyn (ymhlith eraill):

  • Cyfieithu a dehongli;
  • Darlledu;
  • Addysg;
  • Marchnata;
  • Adnoddau Dynol;
  • Datblygu Gwefannau;
  • Bancio Rhyngwladol;
  • Y Gwasanaeth Sifil.

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio?

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Ym mhob blwyddyn byddwch yn astudio modiwl iaith craidd ac amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Bydd y modiwlau iaith yn datblygu sgiliau siarad, gwrando ac ysgrifennu. Yn y flwyddyn gyntaf gall modiwlau dewisol gynnwys:

  • Cyflwyniad i astudiaethau llenyddol a gwareiddiad;
  • Ffilmiau Ewropeaidd;
  • Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth yn Ewrop

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallwch ddewis o’r canlynol:

  • Prosiect ymchwil annibynnol;
  • Modiwlau ieithoedd arbenigol (iaith busnes ac ati)
  • Dewis mawr o fodiwlau cynnwys ar lenyddiaeth, ffilm a chelf;
  • Dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill;

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio neu'n gweithio dramor, fel arfer yn rhannu'r amser rhwng gwlad sy'n siarad Almaeneg a gwlad sy'n siarad Ffrangeg.

Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis o fodiwlau megis:

  • Semanteg a Geiriaduraeth
  • Mudiadau diwylliannol ac artistig.
  • Llenyddiaeth Almaeneg;
  • Ieithyddiaeth Almaeneg;
  • Llenyddiaeth Ffrangeg tua'r 19eg ganrif;
  • Dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill;
  • Prosiect ymchwil annibynnol;

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Defnyddir amrywiaeth o fformatau addysgu yn y dosbarth. Bydd darlithoedd yn eich cyflwyno i bynciau, ond mewn seminarau bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y drafodaeth.

Byddwch yn cael eich asesu yn y modiwlau mewn sawl ffordd. Bydd yn rhaid i chi roi cyflwyniadau llafar, sefyll profion gwrando, ysgrifennu adroddiadau a gwneud cyfieithiadau cynyddol gymhleth mewn dosbarthiadau iaith, yn ogystal â sefyll arholiadau llafar ac ysgrifenedig. Mewn modiwlau cynnwys, mae’n bosibl y gofynnir i chi ysgrifennu traethodau, creu prosiect ymchwil, rhoi cyflwyniad llafar, neu sefyll arholiad.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|