BA

Ffrangeg / Mathemateg

Drwy astudio Ffrangeg/Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn dod yn arbenigwr amryddawn ar lawer o agweddau ar Ffrainc a gwledydd eraill lle siaredir Ffrangeg, ac ar yr un pryd yn cael archwilio iaith mathemateg sy'n sail i lawer o'r byd modern.

Mae'r ddwy adran yn ceisio creu amgylchedd dysgu cyfeillgar, agored a chefnogol, lle gall myfyrwyr gyflawni eu llawn botensial.

Bydd cyfuniad o Ffrangeg a Mathemateg yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr ar draws ystod o ddiwydiannau.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ffrangeg/Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae ystod eang o arbenigedd ar gael yn yr Adran, ac mae hyn i'w weld yn y dewis o fodiwlau rydym yn eu cynnig. Gallai myfyrwyr ddewis modiwlau ar ieithyddiaeth (fodern a hanesyddol); dialecteg (astudiaeth o wahanol ffurfiau ar Ffrangeg, o'r gorffennol a'r presennol); llenyddiaeth; hanes syniadau a mudiadau artistig; portreadau llenyddol o Baris, llenyddiaeth teithio a materion cyfoes.
  • B ydd pob myfyriwr ar y cwrs hwn yn treulio eu trydedd flwyddyn yn byw'n annibynnol mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg. Gallech ddewis astudio yn y Brifysgol, gweithio fel cynorthwyydd iaith, neu ffurfiau eraill ar leoliadau gwaith.
  • Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar dros 140 mlynedd o ragoriaeth addysgu.
  • Bydd mathemateg fel pwnc yn rhoi cyfle i chi ddatgelu disgyblaeth sy'n cyfuno nodi a dadansoddi siapau a phatrymau gyda'r gallu i ddadansoddi data yn hyderus.
  • Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyflwyniad cynhwysfawr i astudiaethau Ffrengig a sgiliau ymchwil perthnasol ar ffurf tiwtorialau. 
  • Byddwch yn dod yn fyfyriwr mewn Adran Ieithoedd Modern a sgoriodd 93% ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2017 (ACF, 2017), sy'n dangos ein hymrwymiad i roi profiad cofiadwy a gwerthfawr i chi. Mae'r Adran Fathemateg hefyd wedi cael sgôr bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr o 100% (ACF 2018). 
  • Yn ystadegol, mae graddedigion Ieithoedd Modern ymhlith y graddedigion mwyaf cyflogadwy. Yn adroddiad Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2017 a gyhoeddwyd yn 2018, nodwyd bod gradd mewn Ieithoedd Modern yn cynnig llwybr clir tuag at swydd neu astudiaeth bellach. Yn ein hadran ni, roedd 95% o'n graddedigion mewn gwaith neu astudiaeth bellach ymhen 6 mis ar ôl graddio (HESA 2018). O'r Adran Fathemateg, roedd 96% o'r myfyrwyr a raddiodd yn 2017 mewn gwaith neu astudiaeth bellach ymhen 6 mis ar ôl graddio, ac mae'r ffigur hwn 4% yn uwch na'r canran cyfartalog ar gyfer myfyrwyr Mathemateg (HESA 2018). Yn ogystal, bu i'r Canllaw Prifysgolion Da a gyhoeddir gan y Times a'r Sunday Times ein gosod ymhlith y deg adran orau o ran rhagolygon graddedigion (canlyniadau cyflogaeth) ar gyfer pwnc Ffrangeg. Mae ein dull pwrpasol o addysgu yn sicrhau y bydd eich cyfnod pontio o'r brifysgol i'r byd gwaith yn un llyfn.
  • Mae'r radd hon ar gael i ddechreuwyr a myfyrwyr ar lefel uwch. Bydd dechreuwyr yn cyflawni cwrs dwys yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Beginners French 1 FR10920 20
Beginners French 2 FR11020 20
French Language Advanced FR19930 30
Images of France: The French Family FR12910 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd MT10110 10
Hafaliadau Differol MT11210 10
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd MT10110 10
Hafaliadau Differol MT11210 10
Tebygoleg MT10310 10
Ystadegaeth MT11310 10
Tebygoleg MT10310 10
Ystadegaeth MT11310 10
Brazilian Portuguese (Basic) EL10720 20
Introduction to European Film EL10520 20
Introduction to French Studies FR11120 20
Language, Culture, and Identity in Europe EL10820 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Ffrangeg a Mathemateg?

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau canlynol:

  • ymgynghori ystadegol
  • addysgu
  • cyfrifo a bancio
  • dadansoddi risg a gwaith actiwaraidd
  • rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau
  • technoleg gwybodaeth a gwyddor data
  • cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
  • marchnata a chyfathrebu.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Ffrangeg a Mathemateg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr wythnosol o waith iaith, sy'n cynnwys gwaith:

  • llafar
  • ysgrifenedig
  • clywedol
  • cyfieithu.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • cyflwyniad i astudiaethau llenyddol a gwareiddiad
  • ffilm Ewropeaidd
  • algebra a chalcwlws
  • geometreg
  • tebygolrwydd differol ac ystadegau
  • gwleidyddiaeth a diwylliant ieithyddol ledled Ewrop.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • y posibilrwydd o wneud prosiect ymchwil annibynnol
  • yr opsiwn o astudio modiwlau iaith arbenigol (iaith busnes ac ati)
  • dadansoddi a hafaliadau differol rhannol
  • algebra haniaethol a llinol
  • modelu ystadegol
  • hydrodynameg
  • dewis eang o fodiwlau cynnwys ar lenyddiaeth, ffilm a chelf
  • materion cyfoes mewn cymdeithasau Ffrengig a Ffrangeg
  • dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn cyflawni eich Blwyddyn Dramor, lle byddwch yn astudio gyda'n Prifysgolion partner o dan Raglen Erasmus +

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio:

  • semanteg a geiriaduraeth
  • ieithyddiaeth Ffrangeg
  • mudiadau artistig a diwylliannol
  • llenyddiaeth Ffrangeg y 18fed a'r 19eg Ganrif
  • materion cyfoes mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg
  • prosiect ymchwil annibynnol gorfodol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Addysgir ein myfyrwyr drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, a gweithdai iaith.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr mewn ystod o ffyrdd, yn dibynnu ar y modiwlau. Yn ein dosbarthiadau iaith, byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau parhaus ac arholiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a'r bedwaredd flwyddyn. Asesir ein modiwlau dewisol a gorfodol drwy waith cwrs ar ffurf cyflwyniad a/neu draethawd ac arholiad.

Caiff eich cynnydd ei fonitro'n rheolaidd drwy ymgynghoriadau tiwtorialau a gyda'r Portffolio Datblygiad Personol (PDP). Yn ystod eich blwyddyn olaf, er mwyn eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, yn lle'r PDP bydd gofyn i chi lunio CV a llythyr eglurhaol yn Ffrangeg.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 112

Safon Uwch BBB-BBC to include B in Mathematics and B in French (unless to be studied as a beginner)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM to include B in A level Mathematics and B in French (unless to be studied as a beginner)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26 with 5 points in Mathematics and French at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Mathematics and French

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|