Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Drwy astudio Ffrangeg/Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn dod yn arbenigwr amryddawn ar lawer o agweddau ar Ffrainc a gwledydd eraill lle siaredir Ffrangeg, ac ar yr un pryd yn cael archwilio iaith mathemateg sy'n sail i lawer o'r byd modern.
Mae'r ddwy adran yn ceisio creu amgylchedd dysgu cyfeillgar, agored a chefnogol, lle gall myfyrwyr gyflawni eu llawn botensial.
Bydd cyfuniad o Ffrangeg a Mathemateg yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr ar draws ystod o ddiwydiannau.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
100% o fyfyrwyr yr Adran Ieithoedd Modern yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020)
95% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion Ieithoedd yn genedlaethol. (HESA 2018*)
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
96% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Mathemategol yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Ffrangeg/Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae ystod eang o arbenigedd ar gael yn yr Adran, ac mae hyn i'w weld yn y dewis o fodiwlau rydym yn eu cynnig. Gallai myfyrwyr ddewis modiwlau ar ieithyddiaeth (fodern a hanesyddol); dialecteg (astudiaeth o wahanol ffurfiau ar Ffrangeg, o'r gorffennol a'r presennol); llenyddiaeth; hanes syniadau a mudiadau artistig; portreadau llenyddol o Baris, llenyddiaeth teithio a materion cyfoes.
B ydd pob myfyriwr ar y cwrs hwn yn treulio eu trydedd flwyddyn yn byw'n annibynnol mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg. Gallech ddewis astudio yn y Brifysgol, gweithio fel cynorthwyydd iaith, neu ffurfiau eraill ar leoliadau gwaith.
Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar dros 140 mlynedd o ragoriaeth addysgu.
Bydd mathemateg fel pwnc yn rhoi cyfle i chi ddatgelu disgyblaeth sy'n cyfuno nodi a dadansoddi siapau a phatrymau gyda'r gallu i ddadansoddi data yn hyderus.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyflwyniad cynhwysfawr i astudiaethau Ffrengig a sgiliau ymchwil perthnasol ar ffurf tiwtorialau.
Yn ystadegol, mae graddedigion Ieithoedd Modern ymhlith y graddedigion mwyaf cyflogadwy. Yn adroddiad Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2017 a gyhoeddwyd yn 2018, nodwyd bod gradd mewn Ieithoedd Modern yn cynnig llwybr clir tuag at swydd neu astudiaeth bellach. Yn ein hadran ni, roedd 95% o'n graddedigion mewn gwaith neu astudiaeth bellach ymhen 6 mis ar ôl graddio (HESA 2018). O'r Adran Fathemateg, roedd 96% o'r myfyrwyr a raddiodd yn 2017 mewn gwaith neu astudiaeth bellach ymhen 6 mis ar ôl graddio, ac mae'r ffigur hwn 4% yn uwch na'r canran cyfartalog ar gyfer myfyrwyr Mathemateg (HESA 2018). Yn ogystal, bu i'r Canllaw Prifysgolion Da a gyhoeddir gan y Times a'r Sunday Times ein gosod ymhlith y deg adran orau o ran rhagolygon graddedigion (canlyniadau cyflogaeth) ar gyfer pwnc Ffrangeg. Mae ein dull pwrpasol o addysgu yn sicrhau y bydd eich cyfnod pontio o'r brifysgol i'r byd gwaith yn un llyfn.
Mae'r radd hon ar gael i ddechreuwyr a myfyrwyr ar lefel uwch. Bydd dechreuwyr yn cyflawni cwrs dwys yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Ein Staff
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr.
Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Ffrangeg a Mathemateg?
Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau canlynol:
ymgynghori ystadegol
addysgu
cyfrifo a bancio
dadansoddi risg a gwaith actiwaraidd
rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau
technoleg gwybodaeth a gwyddor data
cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
marchnata a chyfathrebu.
Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd mewn Ffrangeg a Mathemateg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
y gallu i weithio'n annibynnol
sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
sgiliau ymchwil.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr wythnosol o waith iaith, sy'n cynnwys gwaith:
llafar
ysgrifenedig
clywedol
cyfieithu.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:
cyflwyniad i astudiaethau llenyddol a gwareiddiad
ffilm Ewropeaidd
algebra a chalcwlws
geometreg
tebygolrwydd differol ac ystadegau
gwleidyddiaeth a diwylliant ieithyddol ledled Ewrop.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:
y posibilrwydd o wneud prosiect ymchwil annibynnol
yr opsiwn o astudio modiwlau iaith arbenigol (iaith busnes ac ati)
dadansoddi a hafaliadau differol rhannol
algebra haniaethol a llinol
modelu ystadegol
hydrodynameg
dewis eang o fodiwlau cynnwys ar lenyddiaeth, ffilm a chelf
materion cyfoes mewn cymdeithasau Ffrengig a Ffrangeg
dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.
Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn cyflawni eich Blwyddyn Dramor, lle byddwch yn astudio gyda'n Prifysgolion partner o dan Raglen Erasmus +
Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio:
semanteg a geiriaduraeth
ieithyddiaeth Ffrangeg
mudiadau artistig a diwylliannol
llenyddiaeth Ffrangeg y 18fed a'r 19eg Ganrif
materion cyfoes mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg
prosiect ymchwil annibynnol gorfodol.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Addysgir ein myfyrwyr drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, a gweithdai iaith.
Rydym yn asesu ein myfyrwyr mewn ystod o ffyrdd, yn dibynnu ar y modiwlau. Yn ein dosbarthiadau iaith, byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau parhaus ac arholiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a'r bedwaredd flwyddyn. Asesir ein modiwlau dewisol a gorfodol drwy waith cwrs ar ffurf cyflwyniad a/neu draethawd ac arholiad.
Caiff eich cynnydd ei fonitro'n rheolaidd drwy ymgynghoriadau tiwtorialau a gyda'r Portffolio Datblygiad Personol (PDP). Yn ystod eich blwyddyn olaf, er mwyn eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, yn lle'r PDP bydd gofyn i chi lunio CV a llythyr eglurhaol yn Ffrangeg.