BA

Ffrangeg / Sbaeneg

Mae'r radd BA Ffrangeg / Sbaeneg yn caniatáu i chi astudio dwy iaith ar yr un pryd. Bydd y radd hon yn caniatáu i chi ddatblygu cymwyseddau ieithyddol rhugl wrth siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu, cyfieithu a dehongli. Yn ogystal, cewch gyfle i archwilio cymdeithas, diwylliant, a pherthnasedd cymdeithasol a busnes eich tair iaith o ddewis drwy ein hystod eang o opsiynau. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich cymwyseddau ieithyddol ac archwilio'r iaith ymhellach mewn cyd-destun proffesiynol, diwylliannol a chymdeithasol, yna Ffrangeg gyda Sbaeneg yw'r cwrs i chi.

Trosolwg o'r Cwrs

Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beginners French 1 FR10920 20
Beginners French 2 FR11020 20
Beginners Spanish 1 SP10820 20
Beginners Spanish 2 SP11020 20
French Language Advanced FR19930 30
Images of France: The French Family FR12910 10
Spanish Language Advanced SP19930 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Brazilian Portuguese (Basic) EL10720 20
Introduction to European Film EL10520 20
Introduction to French Studies FR11120 20
Language, Culture, and Identity in Europe EL10820 20
Study and Research Skills in Spanish and Latin American Studies SP11120 20
Hispanic Civilization SP10610 10

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu yn yr Adran Ieithoedd Modern. Y Flwyddyn Dramor sy'n gwneud ein graddedigion yn fwy nodedig nag eraill. Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Dramor yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn dychwelyd gyda gwell sgiliau, cymwyseddau iaith cryfach a'r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa. 

Mae ein graddedigion wedi llwyddo i ddod o hyd i gyflogaeth ar ôl graddio. Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
  • darlledu 
  • addysg 
  • marchnata 
  • adnoddau dynol 
  • datblygu gwefannau 
  • bancio rhyngwladol 
  • y Gwasanaeth Sifil. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr wythnosol o waith iaith, sy'n cynnwys gwaith:

Llafar

Ysgrifenedig

Clywedol

Cyfieithu.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • astudiaethau llenyddol a gwareiddiad
  • ffilm Ewropeaidd
  • gwleidyddiaeth a diwylliant ieithyddol ledled Ewrop.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • posibilrwydd o brosiect ymchwil annibynnol
  • opsiwn ar gyfer astudio modiwlau iaith arbenigol (iaith busnes, ac ati)
  • dewis eang o fodiwlau cynnwys ar lenyddiaeth, ffilm a chelf
  • materion cyfoes yng nghymdeithas Ffrainc ac mewn cymdeithasau Ffrangeg eu hiaith
  • addysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn cyflawni eich Blwyddyn Dramor, lle byddwch yn astudio gyda'n Prifysgolion partner o dan raglen Erasmus+.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio:

  • semanteg a geiriaduraeth
  • mudiadau artistig a diwylliannol
  • llenyddiaeth Ffrangeg y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
  • materion cyfoes mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg
  • prosiect ymchwil annibynnol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Addysgir ein myfyrwyr drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, a gweithdai iaith

Rydym yn asesu ein myfyrwyr mewn ystod o ffyrdd, yn dibynnu ar y modiwlau. Yn ein dosbarthiadau iaith, byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau parhaus ac arholiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a'r bedwaredd flwyddyn. Asesir ein modiwlau dewisol a gorfodol drwy waith cwrs ar ffurf cyflwyniad a/neu draethawd ac arholiad.

Caiff eich cynnydd ei fonitro'n rheolaidd drwy ymgyngoriadau tiwtorial a gyda'r Portffolio Datblygiad Personol (PDP). Yn ystod eich blwyddyn olaf, er mwyn eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, disodlir eich PDP drwy lunio CV a llythyr eglurhaol yn Ffrangeg.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC to include B in French or Spanish (unless to be studied as a beginner)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM to include B in A level French or Spanish (unless to be studied as a beginner)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Spanish or French at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Spanish or French

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|