BA

Ffrangeg

Mae astudio ar gyfer gradd anrhydedd sengl mewn Ffrangeg yn yr Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r cyfle i chi astudio Ffrangeg i lefel uwch, ond hefyd i feithrin gwybodaeth fanwl am lenyddiaeth, diwylliant ac ieithyddiaeth Ffrengig. Mae’r radd hon yn ddelfrydol i’r rheini sydd wedi sefydlu diddordebau eang yn y byd Ffrangeg ei iaith. Mae ein cynllun gradd yn darparu cyfuniad delfrydol o hyfforddiant iaith dwys, a dewis o fodiwlau ar lenyddiaeth, diwylliant ac ieithyddiaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Mae ystod eang o arbenigedd ar gael yn ein Hadran a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y dewisiadau modiwl a gynigiwn. Gallwch ddewis modiwlau ar ieithyddiaeth (modern a hanesyddol); tafodiaith (astudio gwahanol ffurfiau ar Ffrangeg, yn y gorffennol a'r presennol); llenyddiaeth; hanes syniadau a mudiadau artistig; ymdriniaethau llenyddol o Baris, llenyddiaeth teithio a materion cyfoes. 
  • Bydd gofyn i chi dreulio eich trydedd flwyddyn yn byw’n annibynnol mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg. Gallech ddewis astudio yn y Brifysgol, gweithio fel cynorthwyydd iaith neu ymgymryd â mathau eraill o leoliadau gwaith. 
  • Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyflwyniad cynhwysfawr i astudiaethau Ffrangeg a sgiliau ymchwil cysylltiedig, ar ffurf tiwtorial. 
  • Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu profiadau bythgofiadwy i chi. 
  • Mae graddedigion Ieithoedd Modern yn ystadegol ymhlith y graddedigion mwyaf cyflogadwy. Dangosodd yr adroddiad Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch diweddaraf a gyhoeddwyd yn 2018 fod gradd mewn Ieithoedd Modern yn darparu llwybr clir at gyflogaeth neu astudiaeth bellach. Ar gyfer ein hadran ni, roedd 95% o'n graddedigion mewn swydd neu'n astudio ymhellach 6 mis ar ôl graddio (HESA 2018). Mae ein haddysgu pwrpasol yn sicrhau y gallwch symud yn rhwydd o fywyd prifysgol i’r byd proffesiynol. 
  • Mae'r radd hon ar gael i ddechreuwyr a myfyrwyr uwch. Bydd dechreuwyr yn astudio cwrs dwys yn y flwyddyn gyntaf. 
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o'n haddysgu o fewn yr Adran Ieithoedd Modern. Mae ein graddedigion yn sefyll ben ac ysgwydd yn uwch nac eraill o ganlyniad i’r Flwyddyn Dramor. Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Dramor yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn dychwelyd gyda set o sgiliau cynyddol, cymwyseddau iaith cryfach a'r gallu i addasu mewn unrhyw sefyllfa. 

Mae ein graddedigion wedi llwyddo i ddod o hyd i waith ar ôl graddio yn y meysydd canlynol: 

  • cyfieithu a dehongli 
  • darlledu 
  • addysg 
  • marchnata 
  • Adnoddau Dynol 
  • datblygu gwefannau 
  • bancio rhyngwladol 
  • y Gwasanaeth Sifil 

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio? 

Dysgwch fwy am y cyfleoedd amrywiol y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr o waith iaith bob wythnos, a fydd yn cynnwys: 

  • Siarad 
  • ysgrifennu 
  • gwrando 
  • cyfieithu. 

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn: 

  • ystyried yr ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau Ffrangeg 
  • dysgu am gyfnodau sylfaenol diwylliant Ffrainc 
  • darganfod yr iaith drwy ffilm, diwylliant a hunaniaeth 
  • dechrau cynllunio darn o ymchwil annibynnol. 

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn: 

  • gallu dewis o blith modiwlau cynnwys ar lenyddiaeth, iaith, hanes neu gelf Ffrengig neu ddiwylliannau Ffrainc gyfoes 
  • cynnal ymchwil annibynnol, gyda goruchwyliaeth diwtorial. 

Yn ystod eich trydedd flwyddyn byddwch yn: 

  • ymgymryd â’ch Blwyddyn o Astudio dramor neu leoliadau gwaith. 

Yn eich pedwaredd flwyddyn, byddwch yn: 

  • datblygu eich cymwyseddau iaith ymhellach ar ôl eich blwyddyn yn Ffrainc 
  • dewis o blith ystod o fodiwlau sy'n amrywio o Lenyddiaeth, Ffilm, Diwylliant, Busnes 
  • creu gem yng nghoron eich blynyddoedd israddedig - eich traethawd hir - yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol helaeth, wedi’i ysgrifennu yn Ffrangeg. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Defnyddir amrywiaeth o fformatau addysgu yn y dosbarth. Mewn dosbarthiadau tiwtorial, byddwch yn ymgyfarwyddo â sgiliau, ac yn dysgu defnyddio offer. Bydd darlithoedd yn eich cyflwyno i bynciau, ond mewn seminarau fe’ch gwahoddir i gymryd rhan yn y trafodaethau. 

Byddwch yn cael eich asesu yn y modiwlau mewn sawl ffordd. Bydd yn rhaid i chi roi cyflwyniadau llafar, sefyll profion gwrando, ysgrifennu cyfansoddiadau unigol a chreu cyfieithiadau cynyddol gymhleth mewn dosbarthiadau iaith. Mewn modiwlau cynnwys, mae’n bosibl y gofynnir i chi ysgrifennu traethodau, creu prosiect ymchwil, rhoi cyflwyniad llafar, neu sefyll arholiad. 


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|