BSc

Geneteg a Biocemeg

Wrth ddewis astudio'r radd Geneteg a Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn gweithio ar flaen y gad yn y disgyblaethau cyffrous hyn. Mae gan eneteg botensial di-ddiwedd bron i'n helpu i ddeall iechyd pobl a chlefydau, esblygiad, ac amrywiaeth pethau byw. I ategu hyn, mae biocemeg yn cynnig dealltwriaeth fecanistig o sut mae genynnau yn pennu bioleg organeb. Mae'r radd Geneteg a Biocemeg yn cyfuno'r ddwy ddisgyblaeth hon, gyda ffocws ar astudio geneteg foleciwlaidd iechyd a chlefydau. Gan adeiladu ar sylfaen sy'n cynnwys dealltwriaeth allweddol o eneteg a biocemeg, byddwch yn dechrau arbenigo mewn geneteg ddynol, mynegiant genynnau, bioleg ddatblygiadol a chanser, biotechnoleg, peirianneg enetig a ffarmacoleg. Ar ôl cwblhau'r cwrs gradd Geneteg a Biocemeg yn llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd amrywiol sy'n cynnwys ymchwil biofeddygol, gwyddor fforensig, proffilio DNA, cytogeneteg glinigol a chwnsela genetig ymhlith eraill.

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Accredited Degree

Pam astudio Geneteg a Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar sgiliau ymarferol, er mwyn i'n graddedigion ddod yn ymarferwyr o'r cychwyn un.
  • Rydym yn sicrhau bod ein graddedigion yn meddu ar y sgiliau i gyfleu eu gwyddoniaeth yn effeithiol.
  • Mae gennym labordai ymchwil ac addysgu helaeth gyda'r cyfarpar diweddaraf, gan gynnwys cyfleusterau bioddelweddu, dilyniannu DNA trwygyrch uchel, proteomeg, llwyfannau sbectrosgopig a metabolomeg. Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £55 miliwn yn ein cyfleusterau addysgu ar y campws yn ddiweddar.
  • Bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi wrth astudio bioleg gellog, foleciwlaidd a chemegol.
  • Byddwn yn meithrin eich chwilfrydedd deallusol a'ch ymarfer gwyddonol cyffredinol.
  • Caiff y pwnc ei addysgu gan arbenigwyr ym maes Geneteg a Biocemeg mewn canolfan ragoriaeth sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.

Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs BSc Geneteg a Biocemeg CC47 hwn, yna mae'n bosib y bydd gennych ddiddordeb yn ein cwrs BSc Biocemeg (C700) a'n cwrs MBiol Biocemeg (C709). Rydym hefyd yn cynnig yr opsiwn i fyfyrwyr astudio Geneteg a Biocemeg gyda blwyddyn mewn diwydiant (CC48), mae'r cwrs hwn yn union yr un fath â'i chwaer gwrs CC47, ond bydd gennych flwyddyn ychwanegol i ymgymryd â lleoliad profiad gwaith.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biological chemistry BR17320 20
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr BG16820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Cell and Cancer Biology BR25920 20
Chromosome Dynamics BR21820 20
Practical Skills for Biochemists BR22920 20
Proteins and Enzymes BR26620 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Biotechnology BR35520 20
Molecular Biology of Development BR36020 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Frontiers in Plant Science BR35820 20
Molecular Pharmacology BR36120 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Gymdeithas Fiocemegol a'r Gymdeithas Eneteg, sy'n llwyfannau gwych i fyfyrwyr rwydweithio gydag eraill yn eu disgyblaeth.

Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol: 

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data;
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch;
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth;
  • y gallu i weithio'n annibynnol;
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser;
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei astudio?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • Amrywiaeth y disgyblaethau biolegol sy'n cynnwys:
  • Strwythur a swyddogaeth planhigion, anifeiliaid a microbau ar lefel moleciwlau, organebau a chelloedd;
  • Sylfaen gadarn mewn cemeg fiolegol a moleciwlau bywyd;
  • Yr egwyddorion sy'n sail i etifeddiaeth a geneteg fodern;
  • Llif metabolig egni a mater drwy systemau byw.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • Bioleg celloedd a bioleg ddatblygiadol;
  • Imiwnoleg a bioleg canser;
  • Bioleg foleciwlaidd a'i chymwysiadau;
  • Modiwlau ymarferol sy'n datblygu eich sgiliau ymchwil.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Genomeg swyddogaethol a thechnolegau 'omeg' eraill;
  • Mynegiad genynnau a geneteg ddatblygiadol;
  • Ffarmacoleg a thocsicoleg;
  • Ac yn cyflawni prosiect ymchwil mawr.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion. Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Taflenni gwaith
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Erthyglau cylchgrawn
  • Adroddiadau
  • Ymarferion ystadegol
  • Posteri
  • Cyflwyniadau
  • Profion ar-lein
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Arholiadau


Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae geneteg ar flaen y gad o ran y gwyddorau biolegol. Yn yr oes ôl-genomig, rydyn ni'n gallu archwilio ein rhaglennu biolegol ar lefel foleciwlaidd. Yr hyn rwy'n ei fwynhau'n fawr am y cwrs yw bod gennych y gallu i'w deilwra i'ch meysydd diddordeb penodol, gan ddewis eich cyfuniadau eich hun o fodiwlau sy'n adlewyrchu'r meysydd yr ydych am eu harchwilio fwyaf, tra'n ennill gwybodaeth werthfawr a phrofiad ymarferol i'ch helpu i lunio llwybr eich gyrfa. Richard Cleverley

Mae Biocemeg yn gwrs diddorol a chystadleuol iawn sy'n fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o feysydd meddygol a gwyddonol. Drwy gydol y cwrs Biocemeg rydw i wedi bod yn datblygu fy sgiliau ymarferol oherwydd fy mod i wedi treulio llawer o amser yn y labordai, yn cymryd rhan mewn llawer o arbrofion yn ystod y flwyddyn academaidd. Madalina Dragomir

Rhoddodd fy ngradd mewn Geneteg a Biocemeg sylfaen dda i mi a lwyddodd i fy mharatoi'n dda iawn ar gyfer astudio PhD. Mewn gwirionedd, ysbrydolodd un o'r cyrsiau, Mynegiant Genynnau a Geneteg Ddatblygiadol, fi i weithio ym maes Bioleg Ddatblygiadol, sef y maes rwy'n gweithio ynddo heddiw. Byddaf yn fythol ddiolchgar am y cyfle a roddwyd i fi a safon yr addysgu a dderbyniais.

Roger – Athro mewn Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Copenhagen

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Cemeg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Chemistry at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Chemistry

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|