BSc

Geneteg a Biocemeg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Geneteg a Biocemeg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod CC48 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Wrth ddewis astudio'r radd Geneteg a Biocemeg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn gweithio ar flaen y gad yn y disgyblaethau cyffrous hyn. Mae gan eneteg botensial di-ddiwedd bron i'n helpu i ddeall iechyd pobl a chlefydau, esblygiad, ac amrywiaeth pethau byw. I ategu hyn, mae biocemeg yn cynnig dealltwriaeth fecanistig o sut mae genynnau yn pennu bioleg organeb. Mae'r radd Geneteg a Biocemeg yn cyfuno'r ddwy ddisgyblaeth hon, gyda ffocws ar astudio geneteg foleciwlaidd iechyd a chlefydau. Gan adeiladu ar sylfaen sy'n cynnwys dealltwriaeth allweddol o eneteg a biocemeg, byddwch yn dechrau arbenigo mewn geneteg ddynol, mynegiant genynnau, bioleg ddatblygiadol a chanser, biotechnoleg, peirianneg enetig a ffarmacoleg. Ar ôl cwblhau'r cwrs gradd Geneteg a Biocemeg yn llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd amrywiol sy'n cynnwys ymchwil biofeddygol, gwyddor fforensig, proffilio DNA, cytogeneteg glinigol a chwnsela genetig ymhlith eraill.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Geneteg a Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae maes llafur y cwrs hwn yn union yr un fath â'i chwaer gwrs BSc Geneteg a Biocemeg (CC47), ond byddwch yn treulio blwyddyn ychwanegol mewn diwydiant ar ôl yr ail flwyddyn. Bydd eich lleoliad yn berthnasol i'r radd ac asesir y flwyddyn, gan gyfrif tuag at eich gradd derfynol.
  • Bydd myfyrwyr yn trefnu eu lleoliad gwaith o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd. Nid oes sicrwydd y bydd tâl am y profiad gwaith. (Os na fyddwch yn llwyddo i gael lleoliad gwaith, rhaid i chi drosglwyddo i'r chwaer gwrs BSc Geneteg a Biocemeg (CC47).
  • Yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant, byddwch yn talu ffi ddysgu ostyngedig. 
  • Byddwch yn dysgu a byw mewn amgylchedd eithriadol lle cewch eich amgylchynu gan amrywiaeth fawr o amgylcheddau hardd, gan gynnwys y môr, rhostir, mynyddoedd, dyfrffyrdd, glaswelltir ac arfordir.
  • Gyda bryniau Elenydd yn gefndir a dim ond tafliad carreg o Fae Ceredigion a'r dolffiniaid trwynbwl.
  • Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar sgiliau ymarferol fel bod ein graddedigion yn dod yn ymarferwyr o'r cychwyn cyntaf.
  • Mae gennym labordai ymchwil a dysgu eang sy’n llawn o’r cyfarpar diweddaraf, gan gynnwys cyfleusterau bioddelweddu, dilyniannu DNA trwybwn uchel a llwyfannau proteomeg, metabolomeg, ffenomeg a sbectrosgopeg.
  • Addysgir y pwnc o fewn canolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan arbenigwyr brwdfrydig.
  • Rydym yn sicrhau bod gan ein graddedigion y sgiliau i gyfleu eu gwyddoniaeth yn effeithiol fel y gallant ymuno â thrafodaethau ynghylch geneteg - maes sydd, yn aml, yn un dadleuol.

Royal Society of Biology Accredited Degree


Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd yn elfen a ymgorfforir yn ein dysgu. Mae'r cynllun hwn yn cynnig llwybr at gyflogaeth mewn meysydd twf megis biofeddygaeth, gwyddoniaeth fforensig, proffilio DNA (pobl, anifeiliaid a phlanhigion), sytogeneteg glinigol a chynghori genetig, biotechnoleg a chynhyrchu bwyd, ac agweddau ar fioamrywiaeth a diogelu adnoddau genetig a rhywogaethau sydd mewn perygl. Gall y cynllun hwn hefyd arwain at ymchwil ôl-raddedig ar lefel Meistr a PhD.

Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:

  • i gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
  • i wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
  • i ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
  • i gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
  • i wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.

Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr adran leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cydlynydd Profiad Gwaith a cynghorydd gyrfaoedd ymroddedig ein athrofa (James Cuffe, jpc11@aber.ac.uk) yn gallu eich cynorthwyo. Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs i fersiwn tair blynedd o’r pwnc yn lle. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio:

  • Amrywiaeth y disgyblaethau biolegol sy'n cynnwys;
  • Anifeiliaid, microbau a phlanhigion ar lefel organebau, celloedd a moleciwlau
  • Ffisioleg, cyhyrau ac ymsymudiad, maetheg, endocrinoleg, systemau resbiradol cardiofasgwlaidd a homeostasis
  • Geneteg a sylfaen gemegol bioleg a metaboledd

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • Bioleg celloedd
  • Imiwnoleg
  • Cromosomau
  • Bioleg foleciwlaidd
  • Gweithdrefnau ansoddol a meintiol ar gyfer dadansoddi data

Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn ymgymryd â’ch profiad gwaith mewn diwydiant sy'n gysylltiedig â'r radd BSc Geneteg a Biocemeg.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio ac yn ymgymryd â:

  •  Biowybodeg
  • Genomeg
  • Ffarmacoleg
  • Microbau
  • Geneteg ddatblygiadol
  • Traethawd ymchwil

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion. 

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Taflenni gwaith
  • Adroddiadau
  • Posteri
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Arholiadau

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC with B in Chemistry

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Chemistry at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Chemistry

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|