Geneteg a Biocemeg
Geneteg a Biocemeg Cod CC4F Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
CC4F-
Tariff UCAS
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
19%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig.
Wrth ddewis astudio'r radd Geneteg a Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn gweithio ar flaen y gad yn y disgyblaethau cyffrous hyn. Mae gan eneteg botensial di-ddiwedd bron i'n helpu i ddeall iechyd pobl a chlefydau, esblygiad, ac amrywiaeth pethau byw. I ategu hyn, mae biocemeg yn cynnig dealltwriaeth fecanistig o sut mae genynnau yn pennu bioleg organeb. Mae'r radd Geneteg a Biocemeg yn cyfuno'r ddwy ddisgyblaeth hon, gyda ffocws ar astudio geneteg foleciwlaidd iechyd a chlefydau. Gan adeiladu ar sylfaen sy'n cynnwys dealltwriaeth allweddol o eneteg a biocemeg, byddwch yn dechrau arbenigo mewn geneteg ddynol, mynegiant genynnau, bioleg ddatblygiadol a chanser, biotechnoleg, peirianneg enetig a ffarmacoleg. Ar ôl cwblhau'r cwrs gradd Geneteg a Biocemeg yn llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd amrywiol sy'n cynnwys ymchwil biofeddygol, gwyddor fforensig, proffilio DNA, cytogeneteg glinigol a chwnsela genetig ymhlith eraill
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Communication Skills | BR01520 | 20 |
Molecules and Cells | BR01340 | 40 |
Organisms and the Environment | BR01440 | 40 |
Practical Skills for Biologists | BR01220 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Biological chemistry | BR17320 | 20 |
Bioleg Celloedd | BG17520 | 20 |
Comparative Animal Physiology | BR16720 | 20 |
Genetics, Evolution and Diversity | BR17120 | 20 |
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion | BG19920 | 20 |
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr | BG16820 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Applied Molecular Biology and Bioinformatics | BR20620 | 20 |
Cell and Cancer Biology | BR25920 | 20 |
Chromosome Dynamics | BR21820 | 20 |
Practical Skills for Biochemists | BR22920 | 20 |
Proteins and Enzymes | BR26620 | 20 |
Dulliau Ymchwil | BG27520 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Bioinformatics and Functional Genomics | BR37120 | 20 |
Biotechnology | BR35520 | 20 |
Molecular Biology of Development | BR36020 | 20 |
Traethawd Estynedig | BG36440 | 40 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Frontiers in Plant Science | BR35820 | 20 |
Molecular Pharmacology | BR36120 | 20 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Tystiolaeth Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS
Safon Uwch Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and Science (minimum grade C/4)
Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation
Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation
Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|