Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn geneteg, a'ch bod eisiau mynd i'r afael â materion gwyddonol pwysig fel addasu geneteg mewn organebau, neu ragfynegi clefydau mewn pobl drwy eneteg, dyma'r cynllun i chi! Ar ôl cwblhau'r radd hon, gallai eich opsiynau gyrfaol amrywio o ymchwil biofeddygol, i fiotechnoleg, i'r diwydiant fferyllol a gyrfaoedd ym maes Addysg Uwch.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
100% boddhad cyffredinol myfyrwyr ar ein cwrs C400 Geneteg.(ACF 2019)
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Geneteg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Rydym yn rhoi llawer o bwyslais ar sgiliau ymarferol er mwyn i'n graddedigion ddod yn ymarferwyr o'r dechrau un. Rydym yn sicrhau bod gan ein graddedigion y sgiliau i gyfathrebu eu gwyddoniaeth yn effeithiol, fel bod modd iddynt ymuno â thrafodaethau am eneteg sy'n aml yn ddadleuol.
Mae gan fyfyrwyr yn ein hadran fynediad at labordai ymchwil ac addysgu sydd ag offer modern, gan gynnwys cyfleusterau bioddelweddu, dilyniannu DNA trwygyrch uchel, llwyfannau proteomeg, metabolomeg, ffenomeg a spectrosgopeg. Mae'r cyfleusterau hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Hoffech chi astudio yn Gymraeg?
Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau.
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Gwyddonydd Ymchwil yn y Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn
Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Manceinion
Myfyriwr MSc mewn Bioleg Ddatblygiadol ym Mhrifysgol Caerfaddon
PhD ym Mhrifysgol Caerlŷr
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu yn yr adran.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan yn y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG). Mae rhai o'n myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau gwaith gyda GlaxoSmithKline ac AstraZeneca.
Pa gyfleoedd eraill sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Bydd astudio Geneteg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn caniatáu i chi ddysgu am y canlynol:
Bioleg celloedd;
Proteinau ac ensymau;
Geneteg cromosomau;
Mynegiant a datblygiad genynnau;
Geneteg poblogaeth ac esblygiad;
Biotechnoleg.
Byddwch hefyd yn cael hyfforddiant arbenigol yn y meysydd canlynol:
Protocol gwyddonol;
Gwaith ymarferol yn y labordy;
Y fethodoleg arbrofol gywir ar gyfer cofnodi, dehongli ac adrodd ar ddata.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Rydym yn darparu'r cwrs ar ffurf darlithoedd, seminarau a gwaith labordy.
Rydym yn asesu ein myfyrwyr yn y ffyrdd canlynol:
Traethodau
Gwaith ymarferol
Cyflwyniadau llafar
Arholiadau
Mae'n bosib y bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol a gwaith gydag eraill ar dasgau penodol.
Rhagor o wybodaeth:
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Bydd y darlithoedd, y seminarau a staff cefnogol yr Adran yn eich cynorthwyo'n fawr yn eich hyfforddiant biolegol. Byddwch hefyd yn elwa ar y cyfleoedd niferus yn yr adran a'r brifysgol i ddatblygu eich trylwyredd academaidd a'ch proffesiynoldeb i sicrhau y byddwch, wrth raddio, yn y sefyllfa berffaith ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa.
Barn ein Myfyrwyr
Mae geneteg ar flaen y gad ym maes y gwyddorau biolegol. Yn yr oes ôl-genomig, mae modd i ni wir archwilio ein rhaglennu biolegol ar lefel foleciwlaidd. Yr hyn rydw i'n ei fwynhau fwyaf am y cwrs, C400, yw bod modd i chi ei deilwra i'r meysydd sydd o ddiddordeb i chi, gan ddewis eich cyfuniad eich hun o fodiwlau sy'n adlewyrchu'r meysydd rydych am eu harchwilio fwyaf, gan ennill gwybodaeth a phrofiad ymarferol gwerthfawr fydd yn helpu i lywio llwybr eich gyrfa. Richard Cleverley
I fi, mae apêl geneteg wedi'i wreiddio yn ei natur byd-eang ac amrywiol; mae'n ddiddorol ystyried y ffaith fod pob amrywiaeth o organeb fyw wedi'i greu â glasbrint, sydd wedi'i ysgrifennu mewn moleciwlau o DNA. Caiff fy moddhad mewn geneteg ei ddwysáu gan yr effaith gadarnhaol y gall ei defnydd ei chael ar fywydau pobl, a gyda chymaint ar ôl i'w ddarganfod, mae'n siŵr bod datgeliadau gwell fyth i ddod. Mae astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi hwyluso fy mwynhad o eneteg, ac wedi rhoi'r adnoddau i fi sy'n caniatáu i fi barhau i fwynhau geneteg. Nathan Luke Greenaway
Gwnaeth fy nghwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth fy mharatoi ar gyfer fy ngradd doethuriaeth drwy fy herio i ddeall egwyddorion moleciwlaidd a chellol craidd sy'n hanfodol i weithrediad cellol. Yr hyn rydw i wedi'i ddysgu drwy ryngweithio gyda graddedigion eraill yw bod cwmpas yr addysgu yn IBERS yn llawer ehangach, gan roi dealltwriaeth llawer gwell o hanfodion bioleg na chyrsiau eraill.
Phil, sy'n astudio ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerefrog
Rhoddodd fy ngradd mewn Geneteg a Biocemeg sylfaen dda i fi, a wnaeth fy mharatoi'n wych ar gyfer fy noethuriaeth. Fe wnaeth un o'r cyrsiau, Mynegiant Genynnau a Geneteg Ddatblygiadol, fy ysbrydoli i weithio ym maes Bioleg Ddatblygiadol, a dyna'r maes rwy'n gweithio ynddo heddiw. Bydda i'n ddiolchgar am byth am y cyfle ges i, a'r addysg a dderbyniais.
Roger – Athro mewn Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Copenhagen