BSc

Daearyddiaeth (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Daearyddiaeth (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod F803 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn un o'r adrannau mwyaf profiadol a sefydledig o'i bath. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio Gwyddor Daear Amgylcheddol yn un o'r lleoliadau mwyaf prydferth yn Ewrop, ac ar yr un pryd gwella eich cyflogadwyedd gyda'n rhaglen blwyddyn integredig mewn diwydiant.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear – sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o amgylcheddau hardd, yn cynnwys môr, gweundir, mynyddoedd a glaswelltir – mewn lleoliad unigryw i wneud y mwyaf o'r tirweddau sydd o'i chwmpas, gan gynnig amrywiaeth anhygoel o gyfleoedd gwaith maes a hamdden. Bydd y radd hon, sydd wedi’i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG), yn eich darparu gyda’r sgiliau, y gallu a'r arbenigedd i wynebu ac ymwneud â'r heriau amgylcheddol sy'n wynebu cymdeithas heddiw. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG).

Fel cymuned Ddaearyddiaeth fawr a dynamig, gallwn gynnig ystod eang iawn o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddiaeth:

  • newid amgylcheddol cwaternaidd
  • tueddiadau cyfredol o ran Geoberyglon
  • cynaliadwyedd dinesig
  • datblygu rhanbarthol
  • daearyddiaeth wleidyddol a diwylliannol
  • cyfleoedd gwaith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd ac Iwerddon
  • dyfarniadau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau eich hun (hyd at £400)
  • cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i wella dysg
  • labordai â stoc llawn, gyda gwledd o offer dadansoddi e.e. sbectromedrau màs a sganwyr craidd, y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudiaeth annibynnol.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Conflict and Change: the making of urban and rural spaces GS10220 20
Earth Surface Environments GS10520 20
How to Build a Planet GS11520 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Place and Identity GS14220 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Work Placement GSS0260 60

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd. Fodd bynnag, bydd y flwyddyn a dreulir mewn diwydiant yn rhan o'r radd hon yn rhoi sgiliau a phrofiadau penodol i chi a fydd yn uniongyrchol berthnasol i lwybrau gyrfa penodol.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Daearyddiaeth?

Mae ein graddedigion wedi canfod cyflogaeth, er enghraifft, fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym maes addysg, i enwi dim ond rhai.

Cyfleoedd Rhyngwladol:

Ochr yn ochr â phrofiad o waith cyflogedig, cydnabyddir bod teithio annibynnol hefyd yn allweddol i ddatblygiad myfyrwyr. I gefnogi hyn, rydym yn cynnig bwrsariaethau i gefnogi israddedigion i deithio. Mae lleoliadau diweddar wedi cynnwys Uganda, Madagascar, Periw, Mynydd Etna a'r Unol Daleithiau.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear hefyd wedi sefydlu partneriaethau gyda phrifysgolion yn Ewrop, gan gynnwys Prifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi profiad unigryw i fyfyrwyr gael astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd.

Mae cysylltiadau cryf gennym hefyd gyda nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall myfyrwyr gwblhau eu hail flwyddyn o astudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi bod yn goruchwylio cyfnewidfeydd ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • cysyniadau allweddol mewn astudiaeth ddaearyddol
  • problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
  • newid hinsawdd
  • prosesau tirwedd
  • datblygu economaidd
  • globaleiddio

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn datblygu ymhellach ym meysydd:

  • sgiliau ymchwil cyfrifiadurol a labordy, i baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
  • dadansoddi setiau data ansoddol a meintiol
  • cynhyrchu mapiau a graffigau eraill sy'n dehongli data daearyddol
  • cymryd rhan mewn taith maes breswyl ym Mhrydain neu dramor

Gallwch hefyd ddewis modiwlau opsiynol i arbenigo neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn dechrau ar eich Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant.

Yn eich blwyddyn olaf:

  • byddwch yn cynnal prosiect ymchwil annibynnol yn cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun
  • bydd ymgynghorydd personol yn cael ei ddynodi i chi, a fydd yn darparu arweiniad arbenigol
  • bydd modiwlau opsiynol amrywiol megis rhewlifeg, hydroleg, peryglon folcanig, newid hinsawdd yn y gorffennol, trefoli, a newid gwledig yn eich galluogi i deilwra eich astudiaeth i weddu i'ch diddordebau

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol gyda chyfrifiaduron ac mewn labordai, tiwtorialau grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai yn cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|