BA

Almaeneg / Hanes

BA Almaeneg / Hanes Cod RV21 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Bydd astudio ar gyfer gradd Anrhydedd Cyfun mewn Almaeneg a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i ddilyn eich diddordeb yn hanes, iaith a diwylliant yr Almaen. Byddwch yn cyfuno dau bwnc gwerthfawr. Byddwch yn ymdrwytho mewn ystod eang o gyfnodau hanesyddol, ac yn ennill dealltwriaeth o sut a pham mae'r byd wedi esblygu fel y mae.

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y myfyrwyr, a byddwch yn gallu datblygu eich gwybodaeth bresennol am hanes wrth ddilyn yr hyn sydd o ddiddordeb i chi. Mae galw mawr am ein graddedigion Hanes ymhlith cyflogwyr oherwydd eu sgiliau ymchwil, dadansoddi a chyfathrebu, a’u gallu i weithio yn rhan o dîm. 

Bydd y radd hon hefyd yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o'r iaith Almaeneg, a dealltwriaeth ddofn o'r llenyddiaeth a'r diwylliant. Byddwch yn elwa o brofiad a brwdfrydedd y staff arbenigol yn y ddwy adran. Wrth gwblhau’r radd hon, bydd gennych sgiliau y gellir eu defnyddio yn y byd go-iawn, a fydd yn eich galluogi i lywio eich dyfodol a datblygu gyrfa deilwng.

Trosolwg o'r Cwrs

 Why study German and History at Aberystwyth University?

  • History at Aberystwyth has been taught since 1872, making our department the most established and the foremost in Britain.
  • Teaching in the Department of History and Welsh History is innovative, research-based and designed to develop your transferable skills in areas such as analysis, interpretation and communication. This prepares you for a wide range of careers.
  • From the beginning of your degree, you will receive 4 hours of language work per week within the Department of Modern Languages. This includes reading/writing, aural, listening and translation. These four areas of linguistic development will provide you with a solid foundation from which to increase your fluency competencies in German.
  • This degree is also available to you if you wish to study German as a beginner. At beginners level and in your first year, you will be taught differently from the students who are entering the course at an advanced level (A level or equivalent). You will receive intensive language classes bringing you to the same linguistic level as our advanced students. In your second and final year, you will continue the course with the advanced students.
  • In addition to linguistic classes, you will have the opportunity to study core and optional modules within the Department of Modern Languages in a broad range of topics, from literature and culture, to language, politics, and business.
  • As a vibrant, international university, we attract students from all corners of the world. Many of the staff who will teach you are native German speakers. We also teach most of our modules and classes through the target language, which means that you will have a broad exposure to the target languages that you are learning.
  • The highlight of this degree for all of our students is the year abroad. You will be required to spend your year abroad (your third year) in Spain or a Spanish speaking country. Some students opt to spend their time studying with one of our partnered universities. Others have spent their time undertaking a paid or unpaid work experience. Find out what your options are by visiting our page Modern Languages - Where can I go?
Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael ar ôl graddio?

Mae llawer o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i addysgu'r iaith y maent hwy eu hunain wedi'i dysgu ac mae cyfran uchel o'n graddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn swyddi gweinyddol a rheoli. Mae gradd o'r Adran Ieithoedd Modern yn gymhwyster sy'n agor y drws i lawer o broffesiynau ym Mhrydain, megis y gwasanaeth sifil, twristiaeth, gwaith cymdeithasol, llyfrgellyddiaeth, cyhoeddi a darlledu, ac mae ein graddau hefyd yn mynd â'n myfyrwyr ar draws y byd.

Er bod llawer o raddedigion Hanes yn ymgymryd â gyrfaoedd sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'u pwnc, megis gweithio ym meysydd rheoli archifau, treftadaeth neu amgueddfeydd, mae eraill yn dod o hyd i waith mewn ystod eang o feysydd eraill, gan gynnwys llyfrgellyddiaeth, rheoli cofnodion, newyddiaduraeth, y cyfryngau, hysbysebu, y gyfraith, llywodraeth leol, busnes a chyllid, ystod o swyddi sy'n ymgorffori ymchwil, ysgrifennu proffesiynol, yr heddlu, y fyddin, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli personél. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch yn eu datblygu dros gyfnod eich cwrs gradd hefyd yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau uwchraddedig ac ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd.

Bydd eich blwyddyn dramor yn eich gosod ar wahân i'r rhan fwyaf o raddedigion, gan ddangos eich gallu i fyw mewn amgylchedd tramor, ac ymdrwytho mewn diwylliant gwahanol. Ochr yn ochr â hyn, bydd y brifysgol yn cynnig ystod o gynlluniau i chi er mwyn helpu i wella eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyfleoedd profiad gwaith a gwaith â thâl ar gael yn y Brifysgol a'r dref, a gall y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd eich cynorthwyo i gynllunio eich dyfodol, llunio CV, a chwilio am waith yn ystod ac ar ôl eich astudiaethau. At hynny, mae Portffolio Datblygiad Personol y Brifysgol, lle rydych chi'n cofnodi ac yn myfyrio ar eich astudiaethau academaidd, y sgiliau yr ydych wedi’u datblygu a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol, yn ffordd ddefnyddiol o olrhain eich cynnydd trwy eich astudiaethau, a gall eich helpu i benderfynu pa yrfa a allai fod yn addas i chi.

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Bydd astudio am radd Almaeneg / Sbaeneg yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Ym mhob blwyddyn byddwch yn astudio modiwl iaith craidd ac amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Bydd y modiwlau iaith yn datblygu sgiliau siarad, gwrando ac ysgrifennu. Yn y flwyddyn gyntaf gall modiwlau dewisol gynnwys:

  • Cyflwyniad i astudiaethau llenyddol a gwareiddiad
  • Sgiliau a chysyniadau hanesyddol newydd, a chyflwyniad cynhwysfawr i sgiliau astudio ar lefel prifysgol, drwy ein modiwl craidd Cyflwyniad i Hanes ym Mlwyddyn 1.
  • Ffilmiau Ewropeaidd
  • Cyfnodau, themâu a meysydd pwnc hanesyddol newydd, drwy ein dewis eang o fodiwlau dewisol ym Mlwyddyn 1
  • Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth yn Ewrop;

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallwch ddewis o’r canlynol:

  • Prosiect ymchwil annibynnol
  • Modiwlau ieithoedd arbenigol (iaith busnes ac ati)
  • Y ffordd y mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu Hanes wedi newid dros amser, trwy ein modiwl craidd ‘Llunio Hanes’ ym Mlwyddyn 2
  • Cipolwg ar grefft yr hanesydd, drwy ddosbarthiadau seminar yn seiliedig ar ymarfer
  • Dewis mawr o fodiwlau cynnwys ar lenyddiaeth, ffilm a chelf
  • Gwahanol bynciau a chyfnodau o'n rhestr helaeth o fodiwlau dewisol ym Mlwyddyn 2
  • Dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill;

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio neu'n gweithio dramor mewn gwlad sy'n siarad Almaeneg.

Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis o fodiwlau megis:

  • Semanteg a Geiriaduraeth
  • Dau fodiwl dewisol o’r Adran Hanes a Hanes Cymru
  • Amrywiadau yn yr iaith Almaeneg
  • Pwnc arbennig, lle byddwch yn gwneud ymchwil manwl, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol ac ymwneud ag ysgolheictod sydd ar flaen y gad
  • Rhyddiaith a llenyddiaeth Almaeneg
  • Eich traethawd hir Hanes, a fydd yn cael ei lunio trwy gynnal ymchwil annibynnol ar bwnc o’ch dewis, dan arolygiaeth hanesydd arbenigol yn yr adran.
  • Dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill
  • Prosiect ymchwil annibynnol;

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Defnyddir amrywiaeth o fformatau addysgu yn y dosbarth. Bydd darlithoedd yn eich cyflwyno i bynciau, ond mewn seminarau bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y drafodaeth.

Byddwch yn cael eich asesu yn y modiwlau mewn sawl ffordd. Bydd yn rhaid i chi roi cyflwyniadau llafar, sefyll profion gwrando, ysgrifennu adroddiadau a gwneud cyfieithiadau cynyddol gymhleth mewn dosbarthiadau iaith, yn ogystal â sefyll arholiadau llafar ac ysgrifenedig. Mewn modiwlau cynnwys, mae’n bosibl y gofynnir i chi ysgrifennu traethodau, creu prosiect ymchwil, rhoi cyflwyniad llafar, neu sefyll arholiad.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% - 65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|