Almaeneg / Hanes
BA Almaeneg / Hanes Cod RV21 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio – 0800 121 40 80
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
RV21-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
50%
Ar gael ar gyfer
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrBydd astudio ar gyfer gradd Anrhydedd Cyfun mewn Almaeneg a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i ddilyn eich diddordeb yn hanes, iaith a diwylliant yr Almaen. Byddwch yn cyfuno dau bwnc gwerthfawr. Byddwch yn ymdrwytho mewn ystod eang o gyfnodau hanesyddol, ac yn ennill dealltwriaeth o sut a pham mae'r byd wedi esblygu fel y mae.
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y myfyrwyr, a byddwch yn gallu datblygu eich gwybodaeth bresennol am hanes wrth ddilyn yr hyn sydd o ddiddordeb i chi. Mae galw mawr am ein graddedigion Hanes ymhlith cyflogwyr oherwydd eu sgiliau ymchwil, dadansoddi a chyfathrebu, a’u gallu i weithio yn rhan o dîm.
Bydd y radd hon hefyd yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o'r iaith Almaeneg, a dealltwriaeth ddofn o'r llenyddiaeth a'r diwylliant. Byddwch yn elwa o brofiad a brwdfrydedd y staff arbenigol yn y ddwy adran. Wrth gwblhau’r radd hon, bydd gennych sgiliau y gellir eu defnyddio yn y byd go-iawn, a fydd yn eich galluogi i lywio eich dyfodol a datblygu gyrfa deilwng.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% - 65%
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|