Almaeneg / Mathemateg
BA Almaeneg / Mathemateg Cod GR12
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
GR12-
Tariff UCAS
112 - 120
-
Hyd y Cwrs
4 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
42%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrDrwy astudio Almaeneg/Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn dod yn arbenigwr amryddawn ar lawer o agweddau ar yr Almaen a gwledydd eraill lle siaredir Almaeneg, ac ar yr un pryd yn cael archwilio iaith mathemateg sy'n sail i lawer o'r byd modern.
Mae'r ddwy adran yn ceisio creu amgylchedd dysgu cyfeillgar, agored ac arloesol, a fydd yn eich galluogi i gyflawni eich llawn botensial.
Bydd cyfuniad o Almaeneg a Mathemateg yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
Ymhlith y 10 uchaf yn y DU ar gyfer Ansawdd y Dysgu ym maes Almaeneg (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
100% o fyfyrwyr yr Adran Ieithoedd Modern yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020)
95% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion Ieithoedd yn genedlaethol. (HESA 2018*)
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
2ail yn y DU am Ansawdd y Dysgu ym maes Mathemateg, a 5ed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
96% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Mathemategol yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 112 - 120
Lefel A BBB-BBC to include B in Mathematics and B in German (unless to be studied as a beginner)
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM to include B in A level Mathematics and B in French (unless to be studied as a beginner)
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26 with 5 points in Mathematics and German at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Mathematics and German
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|