Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Astudiaethau Ffilm a Theledu y Mhrifysgol Aberystwyth, byddi’n dy drwytho dy hun mewn disgyblaeth sy’n amrywiol, yn gyffrous ac yn heriol, ac sy’n cyfuno ffyrdd ymarferol a damcaniaethol o ymdrin â thechneg a dulliau o archwilio cynyrchiadau, sefydliadau a diwylliannau ffilm a theledu. Cei dy ddysgu gan ymchwilwyr blaenllaw ac ymarferwyr profiadol mewn adran sy’n rhoi pwyslais ar ddatblygiad deallusol, hyfedredd technegol a phartneriaethau â’r diwydiant. Bydd y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y byddi’n eu magu ar y cwrs gradd hwn yn dy baratoi ar gyfer amryw o wahanol yrfaoedd yn y cyfryngau creadigol, y celfyddydau creadigol a thu hwnt.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
90% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Celfyddydau Creadigol a Dylunio yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam Astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu yn Aberystwyth?
Adran egnïol a chreadigol lle daw drama a theatr, ffilm a’r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr ynghyd.
Tirweddau dysgu cydweddol lle mae’r damcaniaethol a’r ymarferol yn cydblethu.
Ystod eang o wahanol fodiwlau ymarferol a damcaniaethol mewn ffilm a theledu, o’r ffuglennol i’r dogfennol, ac o’r prif ffrwd i’r arbrofol.
Staff dysgu rhagorol sy’n ymchwilio’n weithgar ac yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol.
Cyfleusterau ac adnoddau rhagorol ar gyfer gwaith ffilm a theledu ymarferol: stiwdio deledu ac oriel diffiniad uchel â 3 chamera ac adnoddau allwedd croma ac awtociw; 30 o systemau golygu – meddalwedd Avid Media Composer, Adobe Premiere Pro a Final Cut Pro; 50 o gamerâu HD o safon a ddefnyddir yn y diwydiant – fformatau P2 ac AVCHD; camerâu DSLR a GoPro ar gael.
Cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant megis y BBC, Gŵyl Ffilmiau Tribeca, S4C, Fiction Factory, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin, Gŵyl Ffilmiau Ffresh, BAFTA, Avid ac Arad Goch.
Cyfleoedd cyfnewid cyffrous yn Ewrop ac yn rhyngwladol.
Lleoliad daearyddol unigryw.
Cyfle i ddefnyddio’r archif Sgrin a Sain yn y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan y Celfyddydau ar y campws.
Ein Staff
Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Beth alla i ei wneud â gradd mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu?
Mae llawer o’n graddedigion wedi dod o hyd i swyddi yn y meysydd hyn:
Ymchwilwyr, golygyddion, rheolwyr llawr, gweithredwyr camera, dylunwyr a chyfarwyddwyr cwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu
Dosbarthu ffilmiau
Gwneud ffilmiau ar eu liwt eu hunain
Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
Rhaglennu gwyliau ffilm
Hysbysebu
Gweinyddu’r celfyddydau
Addysg.
Pa sgiliau fydda i’n eu dysgu ar y cwrs?
Mae myfyrwyr yr adran yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Yn eu plith mae:
defnyddio sgiliau creadigol, dyfeisgar a datrys problemau mewn amryw o sefyllfaoedd
ymchwilio, a chloriannu a threfnu gwybodaeth
saernïo a chyfleu syniadau’n effeithiol mewn amryw o sefyllfaoedd ac mewn amryw o ffyrdd
gweithio’n annibynnol a gydag eraill
trefnu dy amser a defnyddio dy sgiliau’n effeithiol
gwrando ar gyngor beirniadol a’i ddefnyddio
dy gymell dy hun ac arfer hunanddisgyblaeth
defnyddio amryw o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
dangos mentergarwch wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i’n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn dy flwyddyn gyntaf byddi’n cymryd:
modiwlau rhagarweiniol craidd ar hanes, damcaniaeth a dadansoddi cynyrchiadau ffilm a theledu
modiwlau ymarferol sy’n datblygu sgiliau ym mhob cam o’r broses gynhyrchu: sgriptio, ffilmio, cyfarwyddo, a’r golygu terfynol
dewis o blith modiwlau ar y Sinema Brydeinig, Sinema Glasurol Hollywood ac Astudio’r Cyfryngau.
Yn dy ail flwyddyn cei gyfle i:
datblygu sgiliau cynhyrchu stiwdio, gwneud ffilmiau dogfen ac ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu
meithrin gwybodaeth a sgiliau beirniadol allweddol mewn ystod o fodiwlau damcaniaethol sy’n cyd-fynd â’i gilydd ac sy’n cwmpasu sinema Hollywood, gwneud ffilmiau dogfen, sinema gelfyddydol a materion cyfoes yn y diwylliant digidol
gwella dy ragolygon cyflogadwyedd a dy sgiliau trosglwyddadwy drwy’r modiwl lleoliad gwaith gorfodol.
Yn y drydedd flwyddyn cei:
arbenigo mewn cynhyrchu gwaith dogfennol, ffilm ffuglennol, cyfryngau arbrofol neu sgriptio, a meithrin sgiliau uwch yn y maes hwn
astudio meysydd pwnc arbenigol sy’n ymdrin â hanes technoleg, ffilmiau arbrofol, sinema cwlt, teledu a chymdeithas yn yr 20fed ganrif, ac enwogrwydd y sêr
dechrau prosiect ymchwil annibynnol, a fydd yn arwain at draethawd hir ar dy ddewis bwnc ym maes ffilm a theledu
manteisio ar gymorth a chyfarwyddyd helaeth pa drywydd bynnag y byddi’n penderfynu ei ddilyn.
Sut gaf i fy nysgu?
Cei dy ddysgu drwy amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau, dangosiadau, arddangosiadau technegol a gwaith prosiect mewn grŵp. Mae’r amrywiaeth hwn yn rhan hanfodol o’n hathroniaeth, ac yn creu amgylchedd dysgu cyffrous a chynhyrchiol heb ei ail.
Sut gaf i fy asesu?
Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy:
Cynyrchiadau sy’n cael eu dyfeisio mewn grwpiau
Prosiectau ffilm a fideo unigol
Dadansoddiadau ymarferol
Dyddiaduron cynhyrchu a sgriptio creadigol
Traethodau ac arholiadau ffurfiol
Dyddlyfrau adfyfyriol, blogiau, Wicis
Cyflwyniadau mewn seminarau.
Gellid dy asesu hefyd drwy ofyn i ti gyflwyno:
Byrddau stori
Sgriptiau ar gyfer ffilmiau
Cynigion
Galli ddefnyddio’r deunydd hwn i gyd i greu portffolio i’w gyflwyno i ddarpar gyflogwyr.
Mwy o wybodaeth:
Bydd tiwtor personol wedi’i neilltuo i ti drwy gydol dy gwrs gradd, a fydd yn gallu dy helpu ag unrhyw broblemau neu gwestiynau, boed yn academaidd neu’n bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol unrhyw bryd i gael cymorth a chyngor.
Cei gyfle hefyd i gwblhau Cynllun Datblygu Personol yn Aberystwyth. Proses strwythuredig yw hon o hunanarfarnu, adfyfyrio a chynllunio, lle galli gofnodi dy ddatblygiad personol, academaidd a phroffesiynol gydol dy amser yn y brifysgol. Drwy gofnodi dy berfformiad academaidd, a thynnu sylw at y sgiliau sydd gennyt eisoes a’r rhai y bydd eu hangen arnat er mwyn dy helpu i gael gwaith yn y dyfodol, bydd portffolio’r Cynllun Datblygu Personol yn rhoi i ti’r offer angenrheidiol i gynllunio’n effeithiol, datblygu dulliau astudio llwyddiannus, ac ystyried dy opsiynau a dy ddyheadau ar gyfer dy yrfa yn y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Ers gadael y Brifysgol yn Aberystwyth rydw i nawr yn gweithio ar raglenni plant i gwmni teledu Boomerang yng Nghaerdydd. Roeddwn i wastad wedi bod eisiau gweithio yn y cyfryngau, felly roedd y dewis i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn un hawdd. Dros y tair blynedd, bues yn ffodus iawn i ddysgu gan ddarlithwyr profiadol, deallus, a oedd o hyd yn barod i helpu, ac fe gafon ni dipyn o hwyl drwy gydol y cwrs. Cefais gyfle i ddefnyddio amrywiaeth eang o offer modern a oedd yn golygu fod gennyf y gallu a’r ddealltwriaeth i weithio gyda’r offer diweddaraf wrth fynd allan i’r byd mawr i chwilio am waith. Mae Aberystwyth yn sicr yn le hoffus iawn i astudio, ac nid yn unig y mae’r cwrs wedi ei gynllunio mewn ffordd sy’n rhoi’r cyfle i bobl astudio pob agwedd ar fyd teledu, ond mae hefyd yn rhoi’r gallu i’r unigolyn adeiladu’r cwrs mewn modd sy’n caniatáu iddyn nhw ddysgu’r sgiliau priodol sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Rhywbeth sydd wedi bod o help mawr i mi yn bersonol ydy’r ffaith fod gan yr Adran yn Aberystwyth gysylltiadau da â chwmni teledu Boomerang, a oedd yn golygu fod nifer o’r myfyrwyr, yn cynnwys fi, wedi cael y cyfle i wneud profiad gwaith gyda’r cwmni, yn enwedig tra roeddynt yn defnyddio stiwdio o fewn ein Adran i recordio rhaglenni. Golygodd hyn i Boomerang gynnig swydd i mi yn syth wedi gadael Aberystwyth. Felly rydw i’n hynod o ddiolchgar i’r Adran, a’r darlithwyr am y cyfleodd y maent wedi’u rhoi i mi. Mi wnes i fwynhau pob eiliad o fy amser yn Aberystwyth, ac mae wir yn lle sy’n cynnig bywyd myfyriwr anhygoel, heb sôn am roi’r profiad a’r ddealltwriaeth sydd angen ar fyfyrwyr i ddechrau ar eu gyrfa. Byddwn yn argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i ystyried y cwrs yma o ddifri.