BA

Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd

BA Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd Cod Q562 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r cynllun gradd BA Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gyfle ichi astudio’r Gymraeg ochr yn ochr ag un neu fwy o’r ieithoedd Celtaidd eraill (ee Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Llydaweg). Nid oes rhaid ichi siarad yr un o’r ieithoedd hyn cyn dechrau’r cwrs. Gallwch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau ieithyddol a llenyddol, a bydd cyfle ichi dreulio un semester dramor yn Iwerddon neu Lydaw. O ddewis y cwrs hwn byddwch yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o’r ieithoedd Celtaidd a’u llenyddiaethau hanesyddol a chyfoes, ynghyd â gwerthfawrogi eu deinameg ddiwylliannol a chreadigol. 


Trosolwg o'r Cwrs

Dysgir y cwrs hwn yn un o adrannau mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig ar gyfer astudio’r Gymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd, ac rydym yn cynnig dewis helaeth o fodiwlau sy’n sicr o danio’ch diddordeb. 

Nod y cwrs yw hyrwyddo eich datblygiad ieithyddol, ac felly bydd myfyrwyr y cynllun fel arfer yn treulio semester yn eu trydedd flwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor. Bydd y profiad hwn yn caniatáu i chi feithrin eich sgiliau iaith a’ch hyder, ac yn ogystal â hyn byddwch yn dysgu sgìl y mae cyflogwyr yn ei edmygu’n fawr, sef y gallu i fyw a gweithio’n annibynnol. 

Cewch eich dysgu gan staff addysgu sy’n arbenigwyr yn eu meysydd ac sy’n rhan o dîm o arbenigwyr ysbrydoledig sy'n arwain y byd ym maes iaith a diwylliant Cymreig a Gwyddelig, ac fe gewch ddethol o blith ystod hynod ddiddorol o fodiwlau sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr. 

Yn ategol at eich astudiaethau, cewch fanteisio ar raglen o ddigwyddiadau ysgogol drwy fynychu cyfoeth o ddarlithoedd cyhoeddus, nosweithiau lansio llyfrau, perfformiadau a sgyrsiau yn yr Adran ei hun a'r tu allan iddi. Cewch hefyd fanteisio ar y casgliadau prin o lenyddiaeth a geir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd ar stepen drws Campws Penglais. 

Yn olaf, o ddewis dod i astudio yn Aberystwyth, cewch fyw mewn lleoliad heb ei ail sy’n un o gadarnleoedd yr iaith. Lle well i astudio’r Gymraeg ynghyd â rhai o ieithoedd eraill hynaf Ewrop. Cewch hefyd fwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. 

Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Gloywi Iaith CY20120 20
Gloywi Iaith yr Ail Iaith CY31120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Gloywi Iaith yr Ail Iaith CY31120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Y Gymraeg yn y Gweithle CY35620 20

Gyrfaoedd

Yn ystod y cwrs, byddwch yn datblygu llawer o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Dyma rai enghreifftiau: 

  • ymchwilio a dadansoddi data 
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon 
  • gweithio’n annibynnol 
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn 
  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth 
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth. 

Beth fydda i'n gallu ei wneud gyda gradd yn y Gymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd? 

Mae sawl maes yn gwerthfawrogi'r hyfforddiant eang yn y Dyniaethau a'r cyswllt â chysyniadau diwylliannol a hanesyddol a gynigir gan gwrs gradd fel hon. Cewch y cyfle i ddefnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch wedi eu datblygu dros gyfnod eich cwrs i'r eithaf yn eich dewis yrfa. 

Mae graddedigion y radd Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yn canfod gwaith mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys addysg, gweinyddu, y cyfryngau a'r sector cyhoeddus, yma a thramor.  

Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch wedi eu datblygu hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd. 

Pa gyfleoedd fydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Cewch wella eich cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith a reolir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Gallai’r modiwlau y byddwch yn eu dilyn ar y cwrs Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd gynnwys ‘Cyflwyniad i Wyddeleg Modern a'i Llenyddiaeth’, ‘Cymraeg Ddoe a Heddiw’, ‘Diwylliant Celtaidd’ a ‘Braslun o Hanes ein Llên’ i enwi ond ychydig. 

Yn ystod eich ail a’ch trydedd flwyddyn, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth ymhellach ac yn cael dewis pynciau sydd o ddiddordeb penodol i chi. Mae’r pynciau hynny’n cynnwys ‘Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79’, ‘Hanes a Hanfodion Beirniadaeth Lenyddol’, ‘Llenyddiaeth Lydaweg’ a ‘Ieitheg Geltaidd Gymharol’. 

Dros dair blynedd felly, byddwch yn meithrin y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd ac yn magu dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol. Mae natur yr arlwy o fodiwlau yn golygu y gallwch gyfuno astudiaeth iaith, llenyddiaeth a diwylliant cyfoes neu hanesyddol yn y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill. 

Sut bydda i’n cael fy addysgu? 

Yn Adran y Gymraeg byddi'n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.  

Sut bydda i'n cael fy asesu? 

Bydd eich gwaith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ichi am gyfnod cyfan eich cwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu rhoi cymorth ichi gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â’ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os byddwch angen cymorth. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|