Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae'r radd BA Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd yn gwrs hynod ddifyr sy'n dod â'r byd Celtaidd yn fyw ac yn tanio'r dychymyg.
Drwy ddewis Prifysgol Aberystwyth, byddi'n ymuno ag un o'r adrannau mwyaf blaenllaw ym maes y Gymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd. Cei ddysgu am ddiwylliant, llenyddiaeth, hanes ac ieithoedd Prydain, Iwerddon, Ewrop a'r tu hwnt o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw.
Tyrd i Brifysgol Aberystwyth i gychwyn dy antur i fyd y Celtiaid.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (ACF 2020).
100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yn Aberystwyth?
Enw da yn rhyngwladol – Mae'r adran ymhlith y rhai sydd â'r amgylchedd academaidd ac ysgolheigaidd bywiocaf yn y byd ym maes Astudiaethau Celtaidd.
Lleoliad heb ei ail - Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria, byddi'n rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion - y lle delfrydol i astudio'r Gymraeg ynghyd â hanes a threftadaeth cyfoethog y Celtiaid a'u hardaloedd yn fwy eang.
Arbenigwyr - Mae'r adran yn ganolfan ymchwil a chanddi enw da yn rhyngwladol, ac yn gartref i dîm o arbenigwyr ysbrydoledig sy'n arwain y byd ym maes iaith a diwylliant Cymreig a Gwyddelig.
Ieithoedd Celtaidd eraill - Cei'r cyfle i ddysgu Gaeleg yr Alban a Llydaweg yn ogystal â'r lenyddiaeth gysylltiedig.
Astudio Dramor - Mae myfyrwyr y cynllun fel arfer yn treulio semester yn eu trydedd flwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor - profiad gwerthfawr sy'n datblygu sgiliau iaith a hyder.
Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar y brig yn y DU ym maes Astudiaethau Celtaidd (NSS 2020).
Dewis eang – Cei ddewis o blith ystod hynod ddiddorol o fodiwlau sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr.
Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cei fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Tyrd i fyw yn neuadd Pantycelyn, ymaeloda ag UMCA, cer ar deithiau rygbi, ymuna â'r côr, a cher i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar.
Digwyddiadau Ysgogol - Wrth astudio yma, fe gei di'r cyfle i fynychu cyfoeth o ddarlithoedd cyhoeddus, nosweithiau lansio llyfrau, perfformiadau a sgyrsiau yn yr Adran ei hun a'r tu allan iddi.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Mae’r Llyfrgell ar stepen drws Campws Penglais. Mae'n unigryw yng Nghymru ac yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar ei chasgliadau prin o lenyddiaeth.
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd - Mae'r Ganolfan yn sefydliad ymchwil wedi’i leoli gerllaw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Ein Staff
Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Yn ystod y cwrs, byddi'n datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Dyma rai enghreifftiau:
ymchwilio a dadansoddi data
meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
gweithio’n annibynnol
trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
sgiliau technoleg gwybodaeth.
Beth fydda i'n gallu ei wneud gyda gradd yn y Gymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd?
Mae sawl maes yn gwerthfawrogi'r hyfforddiant eang yn y Dyniaethau a'r cyswllt â chysyniadau diwylliannol a hanesyddol a gynigir gan gwrs gradd fel hon. Cei y cyfle i ddefnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs i'r eithaf yn dy ddewis yrfa.
Mae graddedigion y radd Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yn canfod gwaith mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys addysg, gweinyddu, y cyfryngau a'r sector cyhoeddus, yma a thramor.
Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddi'n astudio?
Clicia yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Cei hefyd wella dy gyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael ei reoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Gallai’r modiwlau y byddi’n eu dilyn ar y cwrs Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd gynnwys ‘Cyflwyniad i Wyddeleg Modern a'i Llenyddiaeth’, ‘Cymraeg Ddoe a Heddiw’, ‘Diwylliant Celtaidd’ a ‘Braslun o Hanes ein Llên’ i enwi ond rhai.
Yn ystod dy ail a dy drydedd flwyddyn, byddi’n datblygu dy wybodaeth ymhellach ac yn cael dewis pynciau sydd o ddiddordeb penodol i ti. Mae’r pynciau hynny’n cynnwys ‘Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79’, ‘Hanes a Hanfodion Beirniadaeth Lenyddol’, ‘Llenyddiaeth Lydaweg’ a ‘Ieitheg Geltaidd Gymharol’.
Dros dair blynedd felly, byddi’n meithrin y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd ac yn magu dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol. Mae natur yr arlwy o fodiwlau yn golygu y gelli gyfuno astudiaeth iaith, llenyddiaeth a diwylliant cyfoes neu hanesyddol yn y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill.
Sut bydda i’n cael fy addysgu?
Yn Adran y Gymraeg byddi'n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.
Sut bydda i'n cael fy asesu?
Bydd dy waith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.
Tiwtor Personol
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti am gyfnod cyfan dy gwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu dy helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.