Cymraeg Proffesiynol
BA Cymraeg Proffesiynol Cod Q5P0 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
Q5P0-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrCwrs ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf yn unig.
Cymraeg Proffesiynol yn Aberystwyth: Arloesi, Arbenigo, Arwain
Mae BA Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynllun gradd arloesol sy’n cyflwyno’r amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael wrth astudio’r Gymraeg gan ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy perthnasol hynod o werthfawr. Heddiw, mae cyflogwyr, yn ogystal â darpar fyfyrwyr a rhieni, yn chwilio am radd ‘safon aur’ yn y Gymraeg. Dyma’r radd honno.
Os ydych chi'n fyfyriwr iaith gyntaf ac yn gobeithio ymuno â'r gweithle proffesiynol yng Nghymru, dewch i Aberystwyth i gychwyn ar eich taith.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol | CY12720 | 20 |
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar | CY11420 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw | CY11220 | 20 |
Cymru a'r Celtiaid | GC11820 | 20 |
Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad | GC10120 | 20 |
Introduction to the Literature of Gaelic Ireland | IR11720 | 20 |
Llydaweg: Cyflwyniad | LL11120 | 20 |
Sgiliau Astudio Iaith a Llên | CY13120 | 20 |
Themau a Ffigurau Llen c.550-1900 | CY11120 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Astudiaethau Trosi ac Addasu | CY25720 | 20 |
Gloywi Iaith | CY20120 | 20 |
Y Gymraeg yn y Gweithle | CY25620 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Astudiaethau Trosi ac Addasu | CY35720 | 20 |
Prosiect Hir | CY35940 | 40 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Tystiolaeth Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|