Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Cymraeg Proffesiynol yn Aberystwyth: Arloesi, Arbenigo, Arwain
Bu sefydlu Senedd Cymru ac ychwanegu mwy o bwerau yn ddiweddarach ynghyd a Deddf yr Iaith Gymraeg yn sbardun i'r angen am raddedigion o safon uchel - unigolion sydd sy'n gymwys i ymuno â gweithlu proffesiynol, ac i weithio'n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Oherwydd hynny, mae'n amser hynod gyffrous i astudio Cymraeg yn y brifysgol.
Wrth ddewis astudio'r cwrs BA Cymraeg Proffesiynol, byddi'n ymuno â chwrs Cymraeg arloesol sydd yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol a galwedigaethol sy'n addas ar gyfer y gweithle proffesiynol yn y Gymru gyfoes a'r tu hwnt. Heddiw, mae cyflogwyr, yn ogystal â darpar fyfyrwyr a rhieni, yn chwilio am radd ‘safon aur’ yn y Gymraeg. Dyma’r radd honno.
Os wyt ti'n fyfyriwr iaith gyntaf ac yn gobeithio ymuno â'r gweithle proffesiynol yng Nghymru, dere i Aberystwyth i gychwyn dy daith.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (ACF 2020).
100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Cymraeg Proffesiynol yn Aber?
Cartref Cymraeg Proffesiynol - Cyflwynwyd y cwrs yma yn gyntaf yn 2012 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
Safonau Uchel - Fel adran rydym yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg.
Arbenigwyr - Byddi'n cael dy ddysgu gan ddarlithwyr sy'n arbenigwyr yn eu meysydd a gan siaradwyr gwadd sy'n cynrychioli sawl proffesiwn sy'n defnyddio'r Gymraeg.
Darlithydd Cymraeg Proffesiynol Dynodedig - Mae'r cwrs yn cael ei gyd-lynu gan Dr Rhianedd Jewell, darlithydd dynodedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol, sydd yn rhoi ei sylw yn arbennig i'r cwrs hwn.
Amrywiaeth - Cei ddewis o blith amrywiaeth eang o bynciau diddorol, o gyfieithu, golygu a chyhoeddi i ysgrifennu creadigol a hybu treftadaeth.
Canlyniadau Gwych - Mae canlyniadau ein graddedigion mewn Cymraeg Proffesiynol o safon uchel iawn. Rhwng 2014 a 2016 mae 49% o’n myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol wedi graddio gdya dosbarth cyntaf, ac mae’r 51% arall wedi ennill 2:1 uchel.
Grwpiau Bach - Cwrs dethol yw hwn, ac felly mae'r dysgu'n digwydd mewn grwpiau bach. Mae'r sesiynau hyn yn adlewyrchu cyfarfodydd tîm y byd gwaith.
Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Yn Aberystwyth cei fyw trwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma: gweithgareddau UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), neuadd Pantycelyn, teithiau rygbi, côr Pantycelyn, nosweithiau megis Gwobrau'r Selar, a mwy.
Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd 100% o foddhad cyffredinol ym maes Astudiaethau Cymraeg ac roedd 94% o foddhad cyffredinol yn yr Adran (NSS 2020).
Y Llyfrgell Genedlaethol - Yn ogystal â'r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae'r Adran ar stepen drws y Llyfrgell Genedlaethol - llyfrgell hawlfraint sydd â thros 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau ac fe gei ymaelodi'n rhad ac am ddim!
Ein Staff
Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Bydd astudio am radd mewn Cymraeg Proffesiynol yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy i ti, sy’n bwysig iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:
ymchwilio a dadansoddi data
meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
gweithio’n annibynnol
trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
sgiliau technoleg gwybodaeth.
Rhagolygon Gyrfa
Mae gwerth arbennig i’r graddau a enillir yn Adran y Gymraeg gan fod safon ein hymchwil a’n dysgu gyda’r uchaf posib. Yn gyson mae cyflogwyr yn datgan bod gradd o’r Adran yn arwydd o safon cyrhaeddiad uchel iawn, ac o ganlyniad mae galw mawr gan ddarpar gyflogwyr am raddedigion o’r Adran mewn amrywiaeth o swyddi yn y sector breifat a chyhoeddus yng Nghymru.
Mae graddedigion Adran y Gymraeg yn llwyddo i ddod o hyd i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, tra bo’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai o raddedigion yr adran i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Mae graddedigion yr adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel cyhoeddi llyfrau, y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail gadarn i astudio ar lefel uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.
Dysga am swyddi rhai o’n graddedigion ar y dudalen ‘Ydy fy swydd yn dy siwtio?’ yma.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddi'n astudio?
Clicia yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Cei hefyd wella dy gyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael ei reoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Y flwyddyn gyntaf
Yn y flwyddyn gyntaf byddi'n astudio'r modiwl Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol. Fel y mae'r enw yn ei awgrymu, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i'r maes. Byddi'n dysgu rhychwant o sgiliau megis cyfieithu ar y pryd, sgiliau gweinyddol, siarad cyhoeddus, golygu a marchnata. Byddi'n cael dy ddysgu gan ddarlithwyr yr Adran a gan gyflogwyr sydd yn gweithio gyda'r Gymraeg.
Bydd cyfle iti weithio fel tîm ac i ddatblygu dy sgiliau marchnata wrth drefnu'r Noson Llên a Chân. Cei ddysgu mwy am y nosweithiau hynod lwyddiannus hyn ar y dudalen Newyddion a Digwyddiadau ar ein gwefan.
Byddi'n cael gweithredu ar fwrdd golygyddol Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol yr Adran. Ti a'r myfyrwyr eraill fydd yn comisiynu ac yn golygu'r gwaith. Dysga ragor am Y Ddraig ar yddraig.cymru.
Yr ail a'r drydedd flwyddyn
Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn byddi'n dilyn pedwar modiwl Cymraeg Proffesiynol:
Y Gymraeg yn y Gweithle - Modiwl profiad gwaith yw hwn. Byddi'n cwblhau cyfnod o brofiad gwaith mewn sefydliad lle defnyddir y Gymraeg ar lefel broffesiynol. Mae dewis helaeth o leoliadau gennym gan gynnwys nifer o sefydliadau cenedlaethol felly bydd cyfle iti gael profiad uniongyrchol o yrfa sydd o ddiddordeb i ti. Byddi'n llunio portffolio o dasgau sy'n ymwneud â'r gweithle.
Trosi ac Addasu - Modiwl cyfieithu yw'r modiwl hwn. Byddi'n dysgu sgiliau cyfieithu ymarferol yn ogystal â dysgu am yr hanes a'r theorïau sydd wrth wraidd y gwaith. Bydd cyfle iti ymarfer dy sgiliau cyfieithu o un iaith i iaith arall ac i addasu o un cyfrwng i gyfrwng arall drwy drosi darn o ryddiaith yn sgript ffilm, rhaglen deledu neu ddrama.
Bro a Bywyd - Modiwl sy’n trafod twristiaeth a threftadaeth lenyddol yw'r modiwl hwn. Byddi'n dilyn darlithoedd ac yn mynd ar deithiau maes i lefydd o arwyddocâd diwylliannol. Byddi'n llunio prosiect a fydd yn hybu diddordeb y cyhoedd mewn elfen o'r diwylliant Cymraeg, ee llyfryn, podcast, ffilm fer neu ddeunydd ar gyfer gwefan.
Prosiect Hir - Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle iti weithio ar brosiect ymchwil gwreiddiol ym maes Cymraeg Proffesiynol. Dan gyfarwyddyd aelod o staff, byddi'n llunio darn o waith safonol y gellir ei gyhoeddi.
Cei ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau eraill yr Adran yn ogystal. Mae hefyd ryddid iti ddewis hyd at 40 credyd o fodiwlau mewn adrannau eraill megis yr Adran Fusnes, Gwleidyddiaeth Ryngwladol neu'r Adran Theatr Ffilm a Theledu, a’u cynnwys yn rhan o dy radd.
Sut y bydda i'n cael fy addysgu?
Yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd mae’r dysgu’n cael ei wneud drwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae’r grwpiau yn llai a’r awyrgylch yn fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.
Sut y bydda i'n cael fy asesu?
Mae gwaith y myfyrwyr yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.
Tiwtor Personol
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti am gyfnod cyfan dy gwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu dy helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.
Barn ein Myfyrwyr
Dewisais astudio Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg Aberystwyth am fod gennyf ddiddordeb i fynd i'r afael â'r Gymraeg yn y byd cyfoes. Cynigia'r cwrs arbennig hwn gyfle inni fel myfyrwyr i ddysgu am ofynion yr iaith mewn sefyllfaoedd a gwasanaethau o ddydd i ddydd. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, cefais y cyfle i ymweld â rhai o sefydliadau amlycaf Cymru, meithrin sgiliau cyfieithu a golygu, a thynnu crib fanwl drwy deithi'r iaith a'i thafodieithoedd amrywiol. Manteisiais ar fodiwl wedi'i seilio'n gyfan gwbl ar brofiad gwaith yn fy ail mlwyddyn, ac yn sicr, roedd hynny'n brofiad heb ei ail am imi wneud cysylltiadau gwych. Llenyddiaeth sy'n mynd â'm mryd i, felly credaf fy mod i'n cael y gorau o ddau fyd trwy ddilyn y cwrs hwn. Gallaf astudio ac ymchwilio i drysor ein gorffennol law yn llaw â dilyn modiwlau sydd yn fy mharatoi yn drylwyr ar gyfer fy ngyrfa waith. Mae Aber yn lle hudol i astudio, ac rwy'n synnu'n aml at gymaint o ddiwylliant sy'n ffynnu yn y dref... a does dim pall ar yr ysbrydoliaeth a gynigia'r tirlun. Mae Adran y Gymraeg yn adran hyfryd i berthyn iddi, ac yn wir, perthyn yw'r gair am fod y staff a'r myfyrwyr yn adnabod ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd gystal ag unrhyw deulu clos! Megan Elenid Lewis