Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Wrth ddewis astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddi'n ymuno â chymuned Gymraeg fyrlymus, o fewn y brifysgol a'r tu allan. Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn gartref i gymuned fywiog o fyfyrwyr ac ymchwilwyr, o Gymru a’r tu hwnt, o fewn tref ac ardal ddwyieithog sy'n llawn hanes, a lle mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'r gwead cymdeithasol.
Byddi'n dysgu am lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth, hanes a chymdeithaseg Cymru. Bydd hyn oll yn ehangu dy orwelion a bydd dy wybodaeth am Gymru'n werthfawr wrth iti ymgeisio am swyddi yng Nghymru heddiw.
Mae’r cynllun gradd hwn yn addas i fyfyrwyr Cymraeg ail iaith, ac i siaradwyr iaith gyntaf. Beth bynnag yw dy sefyllfa di, tyrd i ymuno â ni ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd gradd yn y Gymraeg yn profi dy fod yn gallu mynegi dy hun yn Gymraeg yn effeithiol a phwrpasol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
100% boddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Astudiaethau Cymraeg; 97% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (ACF 2020).
100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Cymraeg yn Aberystwyth?
Cymuned Gymraeg fyrlymus yng nghalon Cymru - Byddi'n ymuno ag un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg.
Enw da – Mae safon ymchwil ac addysgu’r adran hon yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib.
Arwain - Mae'r Adran yn arwain y sector mewn meysydd fel ysgrifennu creadigol, y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu, ac mae pawb yn yr Adran yn rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth, a’i lle yn y byd modern.
Hanes - Hon yw'r Adran Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru (1875).
Arbenigwyr - Cei dy ddysgu gan ddarlithywyr sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd.
Dewis eang o fodiwlau - Byddi'n astudio pynciau hynod ddiddorol sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr, o hanes ein llên i lenyddiaeth gyfoes, ac o gymdeithaseg yr iaith Gymraeg i gyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, ac ysgrifennu creadigol a sgriptio.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drws Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i chasgliad o adnoddau llenyddol, clywedol a gweledol gwych.
Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cei ymaelodi ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), byw yn neuadd Pantycelyn, a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau hwyliog a drefnir gan yr undeb.
Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd 100% o foddhad cyffredinol ym maes Astudiaethau Cymraeg (NSS 2020).
Ein Staff
Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Yn ystod y cwrs, byddi'n datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n far. Dyma rai enghreifftiau:
ymchwilio a dadansoddi data
meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
gweithio’n annibynnol
trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
sgiliau technoleg gwybodaeth.
Rhagolygon Gyrfa
Mae adborth gan gyflogwyr yn dangos yn gyson bod gradd yn y Gymraeg yn arwydd o gyrhaeddiad ar lefel uchel, ac mae tystiolaeth bod galw mawr am raddedigion o'r fath mewn amrywiaeth o swyddi.
Mae graddedigion Adran y Gymraeg yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, tra bo’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai o raddedigion yr adran i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, ac am bobl i gyfieithu ac i weinyddu mewn sawl cylch. Mae graddedigion yr adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel cyhoeddi llyfrau, y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.
Dysga am swyddi rhai o’n graddedigion ar y dudalen ‘Ydy fy swydd yn dy siwtio?’ yma.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddi'n astudio?
Clicia yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Cei hefyd wella dy gyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael ei reoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Rydym yn cynnig amrywiaeth hynod ddiddorol o fodiwlau unigol sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.
Beth fydda i’n ei ddysgu?
Dyma grynodeb:
Iaith Gyntaf - Yn y flwyddyn gyntaf cei gyfle i weld pa agwedd ar y Gymraeg sydd o ddiddordeb mwyaf i ti. Byddi'n dysgu am amrywiaeth o gyfnodau llenyddol ac agweddau eraill ar y pwnc er mwyn gallu dewis dy gyfuniad unigryw di o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. Clicia ar y dudalen Modiwlau i weld y dewis llawn.
Ail Iaith - Yn y flwyddyn gyntaf byddi'n cael dy ddysgu ar wahân i'r myfyrwyr iaith gyntaf. Bydd hyn yn rhoi cyfle iti fagu hyder a gwella dy sgiliau iaith gyda chefnogaeth staff a dy gyd-fyfyrwyr. Byddi'n dilyn y modiwlau canlynol yn y flwyddyn gyntaf:
Cymraeg Ysgrifenedig 1 a 2 - modiwl iaith a fydd yn rhoi'r cyfle iti ddatblygu sgiliau ysgrifenedig a deall rheolau gramadegol
Trafod y Byd Cyfoes 1 a 2 - cyfle i ganolbwyntio ar siarad, i ddatblygu dy sgiliau llafar ac ehangu dy eirfa
Llenyddiaeth o 1900 hyd Heddiw – modiwl llenyddiaeth sy’n cyflwyno rhyddiaith a barddoniaeth y ganrif hon
Braslun o Hanes ein Llên – modiwl llenyddiaeth sy’n rhoi blas ar brif elfennau hanes llenyddiaeth Gymraeg.
Yn yr ail flwyddyn byddi'n dilyn modiwlau iaith eraill er mwyn datblygu dy hyder ymhellach a byddi hefyd yn gallu dewis o blith yr amrywiaeth eang o fodiwlau sydd ar gael gan yr Adran. Erbyn dy flwyddyn olaf byddi wedi cyrraedd yr un safon â myfyrwyr iaith gyntaf ac yn graddio gyda'r un cymhwyster.
Sut bydda i’n cael fy addysgu?
Yn Adran y Gymraeg byddi'n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.
Sut bydda i'n cael fy asesu?
Bydd dy waith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.
Tiwtor Personol
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti am gyfnod cyfan dy gwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu dy helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.
Barn ein Myfyrwyr
Roeddwn yn benderfynol fy mod am astudio’r Gymraeg a chan fod yr Adran yn Aberystwyth ymhlith y gorau yn y byd roedd y dewis yn un hawdd i mi. Roedd enw da’r Adran yn sicr wedi fy nenu yma, ac roedd lleoliad Aberystwyth yn ffactor pwysig hefyd. Hefyd roedd bywyd cymdeithasol y Brifysgol a naws cartrefol y dref yn apelio’n fawr ataf. Roedd Diwrnod Agored y Brifysgol yn hollol allweddol i’m penderfyniad terfynol. Ar ôl gweld y campws a’r llety a chael cipolwg ar fywyd y dref roedd fy mhenderfyniad wedi’i wneud. Cefais gyfle hefyd i ymweld â’r Adran a chwrdd â’r staff. Roeddent yn hynod o groesawgar, eu gwybodaeth yn ddefnyddiol a’u brwdfrydedd wedi fy annog i ddod i astudio yn Aberystwyth. Mae’r dewis o fodiwlau sydd ar gael yn rhagorol – mae rhwybeth at ddant pawb. Mae’r dysgu hefyd yn ennyn diddordeb a mwynhad yn y pynciau. Mae Aberystwyth yn unigryw. Bydden i’n bendant yn argymell Aberystwyth i eraill. Rachel Morgan