Pam Astudio Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn Aberystwyth?
- Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cael ei hadnabod fel arweinydd yn y maes ledled y byd ac o safon ryngwladol ragorol, a ni yw’r gorau yng Nghymru o ran ein hymchwil arloesol. (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014)
- Fe’i dysgir mewn adran a sefydlwyd ym 1919 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a hi oedd yr adran gyntaf yn y byd i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar lefel prifysgol.
- Mae’r darlithwyr sydd yn dysgu’r pwnc yn frwdfrydig, ac yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol, arloesol a deinamig i’n myfyrwyr. Rydym wedi derbyn clod uchel gan ein myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF).
- Mae gennym lyfrgell hawlfraint ar y campws, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Cyfleoedd i gymryd rhan yn ein cynllun Lleoliadau Seneddol uchel ei barch gydag Aelod Seneddol (Tŷ’r Cyffredin, San Steffan) neu AC (y Cynulliad Cenedlaethol, Caerdydd).
- Gelli gyfrannu tuag at y cylchgrawn Gwleidyddiaeth Ryngwladol hynaf sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr ym Mhrydain, sef ‘Interstate’, sydd â’i gartref yn yr Adran hon.
Ein Staff
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Beth allaf i ei wneud gyda gradd mewn BA Gwleidyddiaeth a Hanes Modern?
Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol:
- Addysg
- Y Gyfraith
- Archifwyr
- Cyhoeddwyr
- Gwleidyddion
- Gweision Sifil
- Y Cyfryngau
- Y Lluoedd Arfog
- Entrepreneuriaid.
Fel adran, rydym ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch:
Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
Guto Bebb, Aelod Seneddol
Dr Joanne Cayford, BBC
Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel
Iwan Griffiths, Gohebydd chwaraeon S4C.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth
Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!
Trydar gan fyfyrwyr ar leoliad yn 2014 gyda Chymdeithas yr Hynafiaethwyr:
‘Wedi gweld tri chopi o’r Magna Carta ar unwaith heddiw!’ ‘Clod i Brifysgol Aber am fy helpu i gael y lleoliad – methu aros tan fory’
Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a’r rhaglen Astudio Dramor
Mae cael amrywiaeth o brofiadau’n bwysig ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac mae cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor yn cynnig cyfleoedd rhagorol. Mae Hanes a Hanes Cymru wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid Erasmus gyda phrifysgolion yn yr Almaen, Prâg, Budapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau gyda nifer o golegau yn America hefyd. https://www.aber.ac.uk/en/international/study-abroad/
Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion:
Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.
Beth fyddi di’n ei ddysgu?
Mae modiwlau craidd y radd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwil sylfaenol yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o faterion hanesyddiaethol, a materion a syniadaethau craidd gwleidyddiaeth.
Yn dy flwyddyn gyntaf byddi’n darganfod:
- Sgiliau astudio hanes
- Dulliau a chyfnodau newydd
- Y gwaith diweddar mwyaf cyffrous ym meysydd hanes a gwleidyddiaeth.
Yn dy ail flwyddyn byddi’n archwilio:
- Dulliau hanesyddol (Sut mae disgyblaeth hanes wedi newid dros amser, o ran ei hystyr, ei dulliau a'i hysgrifennu)
- Theori Wleidyddol
- Moderniaeth Gynnar yn Ewrop
- Rhyfel a chymdeithas mewn hanes.
Yn dy drydedd flwyddyn byddi’n astudio:
- Y Gymru Ramantaidd
- Rhywedd mewn hanes
- Cymdeithas Prydain a’r Chwildro Ffrengig
- Napoleon
- Prydain yn Rhyfela
- Y Trydydd Reich
- Rhyfel Fietnam;
- Defod , Brenhiniaeth a Phŵer yn Lloegr Angywaidd a Normanaidd.
Sut byddi’n cael dy ddysgu?
- Ar y cwrs hwn byddi’n cael dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr.
- Mae’r ddwy Adran wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy botensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y galli wedyn gymryd rhan gyflawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau fydd yn digwydd. Mae’r nifer fach o fyfyrwyr fydd ym mhob grŵp seminar yn golygu y byddi’n derbyn llawer o sylw gan y darlithwyr.
- Mae’r tiwtorialau personol yn rhoi cyfle i ti gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan dy ddarlithydd ar dy waith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu dy allu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, a bydd seminarau yn gymorth i wella dy sgiliau cyflwyno.
Tiwtor Personol
- Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i ti am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.