Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Drwy ddewis astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn astudio un o’r pynciau mwyaf gwerthfawr. Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n chwilfrydig am y gorffennol a’r ffordd y mae cymdeithasau dynol wedi esblygu dros amser. Bydd gradd mewn Hanes yn caniatáu i chi osod y gorffennol mewn cyd-destun a’ch arfogi eich hun â sgiliau dehongli, dadansoddi a chyfathrebu sydd mor hanfodol mewn bywyd bob dydd - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Hanes wedi’i ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai ein hadran yw’r hynaf yng Nghymru ac un o’r blaenaf yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae ein graddau’n arloesol sy’n sicrhau y cewch y cymhwyster gorau.
  • Rydym yn cael ein graddio'n uchel gan ein myfyrwyr yn yr Arolwg Blynyddol o Fyfyrwyr (ACF).
  • Mae ein meysydd pwnc yn amrywio o hanes cynnar i hanes modern, hanes gwleidyddol, hanes cymdeithasol, hanes economaidd a diwylliannol.
  • Lleolir Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint y DU, yn agos iawn i'r campws.
  • Gallwn gynnig cyfleoedd cyfnewid cyffrous i chi.
Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz' HY23420 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Reading a Building HY23120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
Seals in Their Context in Medieval England and Wales HY24420 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY28520 20
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA29320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY29120 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY29220 20
Germany since 1945 HY29620 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY25620 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY28920 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY22020 20
The European Reformation HY26520 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY29420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY26720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig HA30340 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
African-American History, 1808 to the Present HY38820 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY38520 20
Britain at War 1939-45 (Part 1) HQ37520 20
Britain at War 1939-45 (Part 2) HQ37620 20
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1842-1914 (Rhan 1) HP37420 20
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1914-1948 (Rhan 2) HP37520 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 1 HQ33320 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 2 HQ33420 20
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA31820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA39320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY39120 20
Famine in Medieval England HY35520 20
From Burma to Myanmar (Part I): colonial Burma under British rule (1824-1941) HQ39220 20
From Burma to Myanmar (Part II): Challenges for a young nation state since 1942 HQ39320 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY39220 20
Germany since 1945 HY39620 20
Gwrthryfel Glyndŵr 1: Hynt a Helynt y Gwrthryfel HP33120 20
Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol HP33220 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY35920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY35620 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 1) HQ33120 20
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 2) HQ33220 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY38920 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present) HY39920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY30120 20
The English Reformation, 1520-58: Revolution and Counter Revolution HQ35020 20
The English Reformation, 1558-1648: Consolidation and Conflict HQ35620 20
The European Reformation HY36520 20
The Invisible Empires: The First Ku Klux Klan and American Society, 1865-1915 HQ39620 20
The Invisible Empires: The Second Ku Klux Klan and American Society, 1915-1944 HQ39720 20
The Irish in Britain, c. 1850-1922 (Part 2): Community and Conflict HQ35520 20
The Irish in Britain, c.1815-70 (Part 1): Migration and Settlement HQ35420 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY39420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC33420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY36720 20

Gyrfaoedd

Beth fydda i'n gallu ei wneud gyda gradd mewn Hanes?

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sefydlu gyrfa mewn llawer o feysydd gwahanol, gan gynnwys:

  • addysg
  • y Gyfraith
  • archifo
  • cyhoeddi
  • gwleidyddiaeth
  • y Gwasanaeth Sifil
  • y cyfryngau
  • y lluoedd arfog
  • entrepreneuriaeth.

Fel adran, rydyn ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig sy'n cynnwys:

  • Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol
  • Dr Joanne Cayford, BBC
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel
  • Iwan Griffiths, Gohebydd chwaraeon S4C.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn edrych yn dda iawn ar unrhyw CV!

Cyfleoedd rhyngwladol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Canfod ble gallwch chi fynd.

Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion

Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddaf i’n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fe allech ddarganfod:

  • cysyniadau newydd a sgiliau hanesyddol
  • dulliau a chyfnodau hanesyddol newydd
  • Hanes Cymru 1250-1800
  • Y Rhyfel Byd Cyntaf a Phrydain
  • moderniaeth a chreu Asia
  • gweithiau hanesyddol diweddar cyffrous.

Byddwch hefyd yn dewis o blith ein modiwlau eraill sy’n adlewyrchu ystod gronolegol a thematig eang.

Yn ystod eich ail flwyddyn gallech archwilio:

  • dulliau hanesyddol, sy’n edrych ar y ffordd mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser
  • hanes Ewrop
  • yr Almaen a Natsïaeth
  • yr Ymerodraeth Brydeinig: Prydain ac Iwerddon, 1850-1914
  • golwg ar grefft yr hanesydd.

Byddwch hefyd yn dewis o blith ein rhestr helaeth o fodiwlau sy'n rhychwantu gwahanol bynciau a chyfnodau.

Yn ystod eich blwyddyn olaf gallech astudio:

  • pwnc arbennig sy’n eich galluogi i gynnal ymchwil dwys, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol sydd oll yn eich galluogi i ddefnyddio sgiliau ymchwil beirniadol hanesydd ymarferol
  • rhywedd mewn Hanes
  • cymdeithas Prydain a’r chwyldro Ffrengig
  • hanes, crefydd a dewiniaeth
  • Stalin a Rwsia.

Sut bydda i’n cael fy addysgu a fy asesu?

Bydd y gwahanol ddulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir gennym ni yn yr adran yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau mewn rhoi cyflwyniad i grŵp bach (seminarau ac asesu llafar), ysgrifennu ffurfiol (traethodau), ymchwil a datblygu syniadau ar ffurf ysgrifenedig (traethawd hir), a gweithio fel rhan o dîm (seminarau a chynadleddau myfyrwyr, fel y Colocwiwm Canoloesol blynyddol yng Ngregynog). Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnal tiwtorialau academaidd unigol i bob myfyriwr, sy’n anarferol y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt, a cheir system gefnogol o diwtoriaid personol. Drwy’r cyswllt un i un hwn, byddwch yn gallu trafod gyrfaoedd posibl, neu efallai astudiaethau pellach, gyda mentoriaid academaidd.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Des i yma ar ddiwrnod agored a syrthiais mewn cariad â’r lle a’i awyrgylch, felly penderfynais ddod yma i astudio. Cefais ysgoloriaeth i ddod yma, a oedd hefyd yn help mawr. Roedd yn hawdd i mi setlo i mewn yma. Gan ei bod hi’n dre mor fach mae popeth yn agos at ei gilydd ac mae’n llawn myfyrwyr. Mae yma awyrgylch cartrefol, a dyw hi ddim yn cymryd llawer o amser i chi wneud ffrindiau. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn wych. Mae’n hawdd cyfathrebu â staff yr adran ac maent wastad yna i chi os oes gennych unrhyw broblemau. Gan fy mod yn astudio Hanes Cymru mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddefnyddiol iawn - mae pob un llyfr ar gael gan ei bod yn llyfrgell hawlfraint. Dwi’n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mae yna ddigon o gymdeithasau yma, mae’n wych. Wrth fod yn aelod o’r cymdeithasau rydych yn cymysgu â myfyrwyr eraill.

Yr hyn dwi’n ei hoffi fwyaf am Aber ydy’r bywyd cymdeithasol, awyrgylch cynnes y dre, a’r ffaith fod popeth yn agos at ei gilydd. Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi yw’r allt! Byddwn yn sicr yn argymell i eraill astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r profiad gorau gewch chi! Ceri Phillips

Roeddwn yn hapus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae pob ceiniog o gymorth i mi wrth i mi ddechrau ar fy nghradd yn Aberystwyth. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac wedi dilyn fy holl bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol, dewis naturiol oedd gwneud hynny hefyd yn y brifysgol. Enw da’r Adran Hanes a Hanes Cymru a’r gymdeithas Gymraeg yma yn Aberystwyth wnaeth fy nenu yma. Heledd Eleri Evans

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|