Y Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol
LLB Y Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol Cod MQ56 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
MQ56-
Tariff UCAS
128 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Ar gael ar gyfer Dechrau medi 2026
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrBwriad gradd LLB Y Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw paratoi myfyrwyr ar gyfer y Gymru gyfoes - Cymru ddatganoledig ble mae'r gallu i siarad a deall Cymraeg ar lefel uchel a deallusol yn ddeniadol i gyflogwyr. Wrth i gyfreithiau Cymreig gynyddu, felly hefyd mae’r galw am gyfreithwyr sydd â’r gallu i drin a thrafod y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ac o fewn cyd-destun Cymreig.
Drwy ddewis y cwrs hwn, byddwch yn ymuno ag Adran y Gyfraith hynaf Cymru ac yn astudio ystod eang o bynciau ym maes y Gyfraith - pwnc amrywiol sy’n esblygu o hyd wrth iddo ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae’n rheoli pob agwedd o’n bywyd dyddiol, o anghydfodau rhwng cymdogion a gwarchod yr amgylchedd i faterion cyflogaeth a darpariaeth gofal iechyd. Mewn cymdeithas fodern, ddemocrataidd, mae’r gyfraith yn bodoli i sicrhau cyfiawnder.
Dysgir y modiwlau Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd - yr adran hynaf o'i bath yn y byd. Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu sgiliau sy’n ymwneud â defnyddio’r iaith Gymraeg yn hyderus mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol ac o fewn y gweithle. Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sydd â phrofiad helaeth mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol, astudio a hybu treftadaeth, golygu a chyhoeddi.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau medi - 2026
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol | CY12720 | 20 |
| Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar | CY11420 | 20 |
| Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol | CT10420 | 20 |
| Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw | CY11220 | 20 |
| Themau a Ffigurau Llen c.550-1900 | CY11120 | 20 |
Opsiynau
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Contract Law | LC13820 | 20 |
| Criminal Law | LC10520 | 20 |
| Cyfraith Camwedd | CT11120 | 20 |
| Cyfraith Cytundebau | CT13820 | 20 |
| Cyfraith Droseddol | CT10520 | 20 |
| Tort | LC11120 | 20 |
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry | CY25820 | 20 |
| Gloywi Iaith | CY20120 | 20 |
| Y Gymraeg yn y Gweithle | CY25620 | 20 |
Opsiynau
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Climate Change and Environmental Law | LC27720 | 20 |
| Commercial Law | LC26220 | 20 |
| Cyfraith Camwedd | CT21120 | 20 |
| Cyfraith Cytundebau | CT23820 | 20 |
| Cyfraith Ewrop | CT20720 | 20 |
| Cyfraith Gyhoeddus | CT20620 | 20 |
| Cyfraith Tir | CT24820 | 20 |
| Cyfraith Troseddol | CT20520 | 20 |
| Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau | CT24920 | 20 |
| Employment Law | LC26820 | 20 |
| Equity and Trusts | LC24920 | 20 |
| European Law | LC20720 | 20 |
| Family and Child Law | LC26420 | 20 |
| Humanitarian Law | LC27620 | 20 |
| Intellectual Property Law | LC28620 | 20 |
| International Law | LC26920 | 20 |
| Land Law | LC24820 | 20 |
| Medicine Ethics and the Law | LC26720 | 20 |
| Principles of Evidence | LC26520 | 20 |
| Seiberdroseddu a Seiberddiogelwch | CT21920 | 20 |
| Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol | CT20420 | 20 |
| Sports Law and Society | LC27920 | 20 |
| Systemau Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol | CT20120 | 20 |
| Treatment and Rehabilitation of Offenders | LC29120 | 20 |
| Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
|---|---|---|
| Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry | CY35820 | 20 |
Opsiynau
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 128 - 104
Safon Uwch ABB-BCC to include B in Welsh 1st Language
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus B in A level Welsh 1st Language
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus B in A level Welsh 1st Language
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus B in A level Welsh 1st Language
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|