BA

Hanes / Hanes Cymru

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Wrth ddewis astudio gradd mewn Hanes a Hanes Cymru yn Aberystwyth byddi’n ymdrochi mewn ystod eang o gyfnodau hanesyddol gydag arbenigedd penodol yn hanes Cymru, ac yn meithrin dealltwriaeth am sut a pham mae'r byd wedi datblygu fel y mae. Mae’r myfyrwyr eu hunain yn ganolog i’r broses ddysgu ar y cwrs hwn a bydd modd i ti ddatblygu dy wybodaeth hanesyddol gan ddilyn trywydd dy ddiddordebau dy hun. Mae galw ymysg cyflogwyr am ein graddedigion Hanes oherwydd eu gallu a'u sgiliau uwch o ran ymchwilio, dadansoddi, gweithio mewn tîm a chyfathrebu. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam Astudio Hanes a Hanes Cymru yn Aberystwyth?

  • Mae cynllun gradd Hanes a Hanes Cymru’n dy alluogi i gael y budd o astudio yng nghanolfan bennaf y byd am ddysgu ac ymchwil ym maes hanes Cymru, ynghyd â'r hyblygrwydd i archwilio ystod o bynciau hanesyddol eraill yn unol â dy ddiddordebau dy hun. 
  • Mae Hanes yn cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, sydd yn golygu mai ein hadran Hanes ni yw’r hynaf yng Nghymru ac ymhlith y rhai pennaf ym Mhrydain. 
  • Mae ein cynlluniau gradd yn arloesol sydd yn sicrhau y gelli di ennill y cymhwyster gorau.
  • Derbyniodd y cwrs glod uchel gan ein myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF).
  • Mae ein meysydd pynciol yn amrywio o hanes cynnar i hanes modern, yn cynnwys hanes gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
  • Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru dafliad carreg i ffwrdd o’r prif gampws. Mae’r llyfrgell hawlfraint hon yn cynnwys pob llyfr sydd wedi’i gyhoeddi yn y DU.
  • Mae cyfleoedd cyfnewid cyffrous ar gael. 
Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz' HY23420 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Reading a Building HY23120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
Seals in Their Context in Medieval England and Wales HY24420 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY28520 20
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA29320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY29120 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY29220 20
Germany since 1945 HY29620 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY25620 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY28920 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY22020 20
The European Reformation HY26520 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY29420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY26720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
African-American History, 1808 to the Present HY38820 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY38520 20
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA31820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA39320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY39120 20
Famine in Medieval England HY35520 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY39220 20
Germany since 1945 HY39620 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY35920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY35620 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY38920 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present) HY39920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY30120 20
The European Reformation HY36520 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY39420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC33420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY36720 20
Britain at War 1939-45 (Part 1) HQ37520 20
Britain at War 1939-45 (Part 2) HQ37620 20
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1842-1914 (Rhan 1) HP37420 20
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1914-1948 (Rhan 2) HP37520 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 1 HQ33320 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 2 HQ33420 20
From Burma to Myanmar (Part I): colonial Burma under British rule (1824-1941) HQ39220 20
From Burma to Myanmar (Part II): Challenges for a young nation state since 1942 HQ39320 20
Gwrthryfel Glyndŵr 1: Hynt a Helynt y Gwrthryfel HP33120 20
Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol HP33220 20
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 1) HQ33120 20
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 2) HQ33220 20
The English Reformation, 1520-58: Revolution and Counter Revolution HQ35020 20
The English Reformation, 1558-1648: Consolidation and Conflict HQ35620 20
The Invisible Empires: The First Ku Klux Klan and American Society, 1865-1915 HQ39620 20
The Invisible Empires: The Second Ku Klux Klan and American Society, 1915-1944 HQ39720 20
The Irish in Britain, c. 1850-1922 (Part 2): Community and Conflict HQ35520 20
The Irish in Britain, c.1815-70 (Part 1): Migration and Settlement HQ35420 20

Gyrfaoedd

Beth allaf i ei wneud gyda gradd mewn BA Hanes a Hanes Cymru?

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol:

  • Addysg
  • Y Gyfraith
  • Archifwyr
  • Cyhoeddwyr
  • Gwleidyddion
  • Gweision Sifil
  • Y Cyfryngau
  • Y Lluoedd Arfog
  • Entrepreneuriaid.

Fel adran, rydym ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch:

  • Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol
  • Dr Joanne Cayford, BBC
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel
  • Iwan Griffiths, Gohebydd Chwaraeon S4C.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!

Trydar gan fyfyrwyr ar leoliad yn 2014 gyda Chymdeithas yr Hynafiaethwyr:

‘Wedi gweld tri chopi o’r Magna Carta ar unwaith heddiw!’ ‘Clod i Brifysgol Aber am fy helpu i gael y lleoliad – methu aros tan fory’

Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a’r rhaglen Astudio Dramor

Mae cael amrywiaeth o brofiadau’n bwysig ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac mae cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor yn cynnig cyfleoedd rhagorol. Mae Hanes a Hanes Cymru wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid Erasmus gyda phrifysgolion yn yr Almaen, Prâg, Budapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau gyda nifer o golegau yn America hefyd. https://www.aber.ac.uk/en/international/study-abroad/

Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion:

Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddaf i’n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fe allech ddarganfod:

  • Cysyniadau newydd a sgiliau hanesyddol
  • Dulliau a chyfnodau newydd
  • Hanes Cymru o 1250-1800
  • Y Rhyfel Byd Cyntaf a Phrydain
  • Moderniaeth a chreu Asia
  • Gweithiau hanesyddol diweddar cyffrous
  • Ein dewis o fodiwlau eraill sy’n adlewyrchu ystod gronolegol a thematig eang.

Yn ystod eich ail flwyddyn gallech archwilio:

  • Dull hanesydol, sy’n edrych ar y ffordd mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser;
  • Hanes Ewrop
  • Yr Almaen a Natsïaeth
  • Yr Ymerodraeth Brydeinig: Prydain ac Iwerddon, 1850-1914
  • Golwg ar grefft yr hanesydd
  • Ein gwahanol bynciau a chyfnodau o’n rhestr helaeth o fodiwlau.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn gallech astudio:

  • Pwnc arbennig sy’n eich galluogi i gynnal ymchwil dwys, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol sydd oll yn eich galluogi i ddefnyddio sgiliau ymchwil beirniadol hanesydd ymarferol
  • Rhywedd mewn Hanes
  • Cymdeithas Prydain a’r chwyldro Ffrengig
  • Hanes, Crefydd a Dewiniaeth
  • Stalin a Rwsia.

Sut fyddaf i’n cael fy addysgu a fy asesu?

Bydd y gwahanol ddulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir gennym ni yn yr adran yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau mewn rhoi cyflwyniad i grŵp bach (seminarau ac asesu llafar), ysgrifennu ffurfiol (traethodau), ymchwil a datblygu syniadau ar ffurf ysgrifenedig (traethawd hir), a gweithio fel rhan o dîm (seminarau a chynadleddau myfyrwyr, fel y Colocwiwm Canoloesol blynyddol yng Ngregynog). Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnal tiwtorialau academaidd unigol i bob myfyriwr, sy’n anarferol y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt, a cheir system gefnogol o diwtoriaid personol. Drwy’r cyswllt un i un hwn, byddwch yn gallu trafod gyrfaoedd posibl, neu efallai astudiaethau pellach, gyda mentoriaid academaidd.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|