BA

Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol

BA Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol Cod 2DLV Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r cynllun gradd Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth a hanes diweddar gan osod astudiaeth ar syniadau a sefydliadau gwleidyddol yng nghyd-destun deall datblygiadau hanesyddol. Cyfuna’r cwrs arbenigedd gwyddonwyr gwleidyddol a haneswyr mewn cwrs sydd â strwythur integredig a fydd yn caniatáu dewis eang o fodiwlau i chi. Bydd y dysgu yn cael ei rannu rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol - dwy adran sydd ag enw da am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu meysydd perthnasol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth?

  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cael ei hadnabod fel arweinydd yn y maes ledled y byd ac o safon ryngwladol ragorol, a ni yw’r gorau yng Nghymru o ran ein hymchwil arloesol. (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
  • Fe’i dysgir mewn adran a sefydlwyd ym 1919 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a hi oedd yr adran gyntaf yn y byd i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar lefel prifysgol.
  • Mae’r darlithwyr sydd yn dysgu’r pwnc yn frwdfrydig, ac yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol, arloesol a deinamig i’n myfyrwyr.
  • Rydym wedi derbyn clod uchel gan ein myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF).
  • Mae gennym lyfrgell hawlfraint ger y campws, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Cyfleoedd i gymryd rhan yn ein cynllun Lleoliadau Seneddol uchel ei barch gydag Aelod Seneddol (Tŷ’r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd).
  • Gelli gyfrannu tuag at y cylchgrawn Gwleidyddiaeth Ryngwladol hynaf i gael ei redeg gan fyfyrwyr yn y DU, sef ‘Interstate’, sydd â’i gartref yn yr Adran hon.
Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
International Politics and Global Development IP29220 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20
Llunio Hanes * HA20120 20
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Germany since 1945 HY29620 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
African-American History, 1808 to the Present HY38820 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Climate Change Politics IP31420 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Dissertation IP30040 40
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
Germany since 1945 HY39620 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ33720 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY35920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP30820 20
Political Theory IP32220 20
Politics in Diverse Societies IQ33720 20
Questions of International Politics IP36820 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present) HY39920 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The BRICS in World Politics IQ30320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Second World War in Europe IP36420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Total War, Total Peace IQ33420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC33420 20
War Crimes IQ35720 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20

Gyrfaoedd

Beth allaf i ei wneud gyda gradd BA mewn Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol?

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn dod o hyd i waith mewn llawer o feysydd gwahanol:

  • addysg
  • y Gyfraith
  • archifo
  • cyhoeddi
  • gwleidyddiaeth
  • y gwasanaeth sifil
  • y cyfryngau
  • y lluoedd arfog
  • entrepreneuriaeth.

Fel adran, rydyn ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig sy'n uchel eu parch yn eu dewis feysydd:

  • Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol
  • Dr Joanne Cayford, BBC
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel
  • Iwan Griffiths, Gohebydd chwaraeon S4C.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?

Ewch i'r dudalen Gwasanaeth Gyrfaoedd i ganfod beth sydd ar gael.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf â’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!

Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion:

Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae modiwlau craidd y radd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwil sylfaenol yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o faterion hanesyddiaethol, a materion a syniadaethau craidd gwleidyddiaeth.

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn darganfod:

  • sgiliau astudio hanes
  • dulliau a chyfnodau newydd
  • rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth
  • Rwsia Tsiecoslof ers 1900: Cenedlaetholdeb, Totalitariaeth a Democrateiddio
  • y gwaith diweddar mwyaf cyffrous ym meysydd hanes a gwleidyddiaeth.

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn archwilio:

  • Dulliau Hanesyddol (Sut mae disgyblaeth hanes wedi newid dros amser, o ran ei hystyr, ei dulliau a'i hysgrifennu)
  • Theori Wleidyddol
  • Moderniaeth gynnar yn Ewrop
  • Rhyfel a Chymdeithas mewn Hanes.

Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn astudio:

  • Y Gymru Ramantaidd
  • Rhywedd mewn Hanes
  • Cymdeithas Prydain a’r Chwyldro Ffrengig
  • Napoleon
  • Prydain yn Rhyfela
  • Y Trydydd Reich
  • Rhyfel Fietnam
  • Defod, Brenhiniaeth a Phŵer yn Lloegr Angywaidd a Normanaidd.

Sut bydda i’n cael fy nysgu?

  • Ar y cwrs hwn byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddwch yn ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i chi roi eich syniadau eich hun ar brawf a thrafod eich profiadau eich hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau eich cyd-fyfyrwyr.
  • Mae’r ddwy Adran wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich potensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y gallwch chi wedyn gymryd rhan gyflawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau fydd yn digwydd. Mae’r nifer fach o fyfyrwyr fydd ym mhob grŵp seminar yn golygu y byddwch yn derbyn llawer o sylw gan y darlithwyr.
  • Mae’r tiwtorialau personol yn rhoi cyfle i chi gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan eich ddarlithydd ar eich gwaith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu'ch gallu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, a bydd seminarau yn gymorth i wella'ch sgiliau cyflwyno.

Tiwtor Personol

  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu gwestiynau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth arnoch chi.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|