BA

Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol

Mae’r cwrs yma ar gael trwy Clirio.
Cysylltwch â ni am ddim ar: 0800 121 40 80

BA Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol Cod 2DLV Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Prif Ffeithiau

2DLV
  • Tariff UCAS

    120 - 96

  • Hyd y Cwrs

    3 Blwyddyn

  • Cyfrwng Cymraeg

    99%

Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad

Ymgeisio Nawr

Mae ein cynllun gradd Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth a hanes diweddar gan osod astudiaeth syniadau a sefydliadau gwleidyddol yng nghyd-destun deall datblygiadau hanesyddol. Cyfuna’r cwrs arbenigedd gwyddonwyr gwleidyddol a haneswyr mewn cwrs sydd â strwythur integredig a fydd yn caniatáu dewis eang o fodiwlau i ti. Bydd y dysgu yn cael ei rannu rhwng Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; mae gan y ddwy enw da am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu meysydd perthnasol.

Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd

90% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru (ACF 2020

99% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chew mis ar ôl graddio, 6% yn uwch na graddedigion o’r Astudiaethau Hanesyddol ac Athronyddol yn genedlaethol.(HESA 2018*)

94% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol (ACF 2020).

Ymhlith y 10 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym maes Gwleidyddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).

94% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, (HESA 2018*)

Trosolwg

Pam astudio Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth?

  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cael ei hadnabod fel arweinydd yn y maes ledled y byd ac o safon ryngwladol ragorol, a ni yw’r gorau yng Nghymru o ran ein hymchwil arloesol. (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
  • Fe’i dysgir mewn adran a sefydlwyd ym 1919 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a hi oedd yr adran gyntaf yn y byd i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar lefel prifysgol.
  • Mae’r darlithwyr sydd yn dysgu’r pwnc yn frwdfrydig, ac yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol, arloesol a deinamig i’n myfyrwyr.
  • Rydym wedi derbyn clod uchel gan ein myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF).
  • Mae gennym lyfrgell hawlfraint ar y campws, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Cyfleoedd i gymryd rhan yn ein cynllun Lleoliadau Seneddol uchel ei barch gydag Aelod Seneddol (Tŷ’r Cyffredin, San Steffan) neu AC (y Cynulliad Cenedlaethol, Caerdydd).
  • Gelli gyfrannu tuag at y cylchgrawn Gwleidyddiaeth Ryngwladol hynaf i gael ei redeg gan fyfyrwyr ym Mhrydain, sef ‘Interstate’, sydd â’i gartref yn yr Adran hon.


Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Core

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau * GW20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes * HA20120 20
An Age of Empire: Britain and Ireland, 1850-1914 HY26920 20
Asian Migration in the Modern World HY27220 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY28520 20
Concro’r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Cymdeithas Cymru Fodern 1868-1950 HC24420 20
Cymru a'r Tuduriaid * HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a’r Fictoriaid HA29320 20
European Society and the Medieval Mind 1200-1500 HY25820 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY29220 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY28420 20
Knighthood and Chivalry in high medieval England, 1066-1300 HY20420 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Modern American History HY28320 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY22020 20
The European Reformation HY26520 20
The Great Divergence: Europe and Asia, c.1300-c.1800 HY26320 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY29420 20
The Rise of Modern Medicine, c.1750-2000 HY27320 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 * HC23420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
American History skills module HY25020 20
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20
Heritage Skills HY23320 20
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz' HY23420 20
Image Wars in Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda HY23720 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti * GW29920 20
Climate Change Politics IP21420 20
Contemporary Sub-Saharan Africa: Key Issues Today IP20520 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
European Security in 21st Century IP23620 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ22920 20
Global Inequality and World Politics IQ24120 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ25520 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? * GQ23820 20
Gwragedd a Datblygiad Byd-eang * GW29620 20
International Politics and the Nuclear Age IP20420 20
Language revitalisation in a global context WE20120 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP23320 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw * GQ23920 20
Political Theory IP22220 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The British Army’s Image in Battle, from the Crimea to the Present IQ20920 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20

Core

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Age of Empire: Britain and Ireland, 1850-1914 HY36920 20
Asian Migration in the Modern World HY37220 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY38520 20
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA31820 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymdeithas Cymru Fodern 1868-1950 HC34420 20
Cymru a'r Tuduriaid * HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a’r Fictoriaid HA39320 20
European Society and the Medieval Mind 1200-1500 HY35820 20
Famine in Medieval England HY35520 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY39220 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY38420 20
Knighthood and Chivalry in high medieval England, 1066-1300 HY30420 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Modern American History HY38820 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY30120 20
The European Reformation HY36520 20
The Great Divergence: Europe and Asia, c.1300-c.1800 HY36320 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY39420 20
The Rise of Modern Medicine, c.1750-2000 HY37320 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 * HC33420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP38820 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti * GW39920 20
Climate Change Politics IP31420 20
Contemporary Sub-Saharan Africa IP30520 20
Contemporary US Foreign Policy IQ32220 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW35820 20
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig * GW30040 40
Economic Diplomacy and Leadership IQ34320 20
European Security in the 21st Century IP33620 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ32920 20
Global Inequality and World Politics IQ34120 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ35520 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? * GQ33820 20
Gwragedd a Datblygiad Byd-eang * GW39620 20
International Politics and the Nuclear Age IP30420 20
Language revitalisation in a global context WE30220 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP33320 20
Political Theory IP32220 20
The Arab Israeli Wars IP31320 20
The British Army’s Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ30920 20

Cyflogadwyedd

Beth allaf i ei wneud gyda gradd BA mewn Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol?

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol:

  • addysg
  • y Gyfraith
  • archifo
  • cyhoeddi
  • gwleidyddiaeth
  • y gwasanaeth sifil
  • y cyfryngau
  • y lluoedd arfog
  • entrepreneuriaeth.

Fel adran, rydym ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch:

  • Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol
  • Dr Joanne Cayford, BBC
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel
  • Iwan Griffiths, Gohebydd chwaraeon S4C.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio?

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!

Trydar gan fyfyrwyr ar leoliad yn 2014 gyda Chymdeithas yr Hynafiaethwyr:

‘Wedi gweld tri chopi o’r Magna Carta ar unwaith heddiw!’ ‘Clod i Brifysgol Aber am fy helpu i gael y lleoliad – methu aros tan fory’

Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a’r rhaglen Astudio Dramor

Mae cael amrywiaeth o brofiadau’n bwysig ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac mae cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor yn cynnig cyfleoedd rhagorol. Mae Hanes a Hanes Cymru wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid Erasmus gyda phrifysgolion yn yr Almaen, Prâg, Budapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau gyda nifer o golegau yn America hefyd. https://www.aber.ac.uk/en/international/study-abroad/

Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion:

Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.


Dysgu ac Addysgu

Beth fyddi di’n ei ddysgu?

Mae modiwlau craidd y radd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwil sylfaenol yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o faterion hanesyddiaethol, a materion a syniadaethau craidd gwleidyddiaeth.

Yn dy flwyddyn gyntaf byddi’n darganfod:

  • Sgiliau astudio hanes;
  • Dulliau a chyfnodau newydd;
  • Rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth;
  • Rwsia Tsiecoslof ers 1900: Cenedlaetholdeb, Totalitariaeth a Democrateiddio;
  • Y gwaith diweddar mwyaf cyffrous ym meysydd hanes a gwleidyddiaeth.

Yn dy ail flwyddyn byddi’n archwilio:

  • Dulliau hanesyddol (Sut mae disgyblaeth hanes wedi newid dros amser, o ran ei hystyr, ei dulliau a'i hysgrifennu);
  • Theori Wleidyddol;
  • Moderniaeth Gynnar yn Ewrop;
  • Rhyfel a Chymdeithas mewn Hanes.

Yn dy drydedd flwyddyn byddi’n astudio:

  • Y Gymru Ramantaidd;
  • Rhywedd mewn Hanes;
  • Cymdeithas Prydain a’r Chwildro Ffrengig;
  • Napoleon;
  • Prydain yn Rhyfela;
  • Y Trydydd Reich;
  • Rhyfel Fietnam;
  • Defod , Brenhiniaeth a Phŵer yn Lloegr Angywaidd a Normanaidd.

Sut byddi’n cael dy ddysgu?

  • Ar y cwrs hwn byddi’n cael dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr.
  • Mae’r ddwy Adran wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy botensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y galli wedyn gymryd rhan gyflawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau fydd yn digwydd. Mae’r nifer fach o fyfyrwyr fydd ym mhob grŵp seminar yn golygu y byddi’n derbyn llawer o sylw gan y darlithwyr.
  • Mae’r tiwtorialau personol yn rhoi cyfle i ti gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan dy ddarlithydd ar dy waith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu dy allu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, a bydd seminarau yn gymorth i wella dy sgiliau cyflwyno.

Tiwtor Personol

  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i ti am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Lefel A BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk

Yn ôl i'r brig

|