Gwyddor Iechyd (Maeth ac Ymarfer Corff)
Gwyddor Iechyd (Maeth ac Ymarfer Corff) Cod B996 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
B996-
Tariff UCAS
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
17%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae astudio am radd BSc Gwyddor Iechyd (Maeth ac Ymarfer Corff) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i edrych ar ddatblygiad iechyd, lles a chlefydau dynol, a sut i’w trin, drwy astudio sut mae celloedd, organau a systemau'n gweithio yn y corff dynol. Mewn byd lle mae clefydau sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ar gynnydd, mae deall effaith ffordd o fyw ar iechyd pobl yn dod yn hollbwysig.
Byddwch yn trin a thrafod y gwahanol ddulliau a ddefnyddir i helpu pobl i fyw a heneiddio’n iach, a’r ystyriaethau o ran eu ffordd o fyw. Mae'r radd yn cyfuno bioleg ddynol (cemeg, geneteg, microbioleg) ag ymarfer corff a gwyddor maeth er mwyn deall eu swyddogaeth gymhleth wrth reoleiddio'r system imiwnedd, ac yn natblygiad cyflyrau meddygol cronig ac wrth eu rheoli gan gynnwys, canser, strôc, diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd. Byddwch yn cyfuno eich dealltwriaeth o’r mecanweithiau cellol sy’n gysylltiedig â heneiddio, ymarfer corff a maeth er mwyn deall sut maent yn dylanwadu ar iechyd yr unigolyn a'r boblogaeth.
Byddwch yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i roi cyngor ynglŷn â maeth, i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, yn ogystal â defnyddio bioleg canser ac imiwnoleg wrth weithio mewn labordy. O'r dadansoddiadau hyn, byddwch yn datblygu'r sgiliau perthnasol i wneud diagnosis o glefydau, i asesu eu taflwybr ar hyd oes unigolyn, ac i atal clefydau, a’u trin, trwy ymgorffori ystyriaethau’n ymwneud â ffordd o fyw fel rhan o’r broses i reoli clefydau yn glinigol.
Trwy gydol y radd ceir ffocws penodol ar ddysgu sgiliau yn y labordy a sgiliau ymarferol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gwaith mewn amrywiaeth o feysydd gofal iechyd. Gall y rhain amrywio o fynediad i feddygaeth ar lefel graddedig , gweithio ym maes iechyd cyhoeddus, fel gweithwyr iechyd proffesiynol neu ym maes adsefydlu, a gweithio i gwmnïau fferyllol a maethol masnachol.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Communication Skills | BR01520 | 20 |
Molecules and Cells | BR01340 | 40 |
Organisms and the Environment | BR01440 | 40 |
Practical Skills for Biologists | BR01220 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Biological chemistry | BR17320 | 20 |
Bioleg Celloedd | BG17520 | 20 |
Genetics, Evolution and Diversity | BR17120 | 20 |
Human Anatomy and Kinesiology | BR16420 | 20 |
Human Physiological Systems | BR16320 | 20 |
Skills in Nutrition, and Science Communication | BR17420 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Applied Molecular Biology and Bioinformatics | BR20620 | 20 |
Cell and Cancer Biology | BR25920 | 20 |
Immunology | BR22220 | 20 |
Dulliau Ymchwil | BG27520 | 20 |
Sport & Exercise Physiology | BR27420 | 20 |
Sport and Exercise Nutrition | BR22520 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Applied Sports Nutrition | BR30920 | 20 |
Traethawd Estynedig | BG36440 | 40 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Bioinformatics and Functional Genomics | BR37120 | 20 |
Injury and Rehabilitation | BR32020 | 20 |
Microbial Pathogenesis | BR33720 | 20 |
Molecular Biology of Development | BR36020 | 20 |
Molecular Pharmacology | BR36120 | 20 |
Parasitology | BR33820 | 20 |
Training and Performance Enhancement | BR34420 | 20 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS
Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and Science
Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.
Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.
Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|