BSc

Gwyddor Iechyd (Maeth ac Ymarfer Corff) (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Gwyddor Iechyd (Maeth ac Ymarfer Corff) (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod B995 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Mae'r radd BSc Gwyddor Iechyd (Maeth ac Ymarfer Corff) (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) yn caniatáu i chi archwilio cynnydd a thriniaeth afiechydon dynol drwy astudio sut mae celloedd, organau a systemau yn y corff dynol yn gweithredu. Byddwch hefyd yn archwilio'r dulliau gwahanol o drin afiechydon a'r ystyriaethau o ran ffordd o fyw a ddefnyddir i helpu pobl i fyw a heneiddio'n iach. Ceir pwyslais penodol ar sgiliau labordy trwy gydol y radd, a fydd yn eich paratoi ar gyfer gwaith yn y gwyddorau biofeddygol.

Byddwch yn archwilio'r broses o gyflwyno, rhannu, dileu a metaboleiddio cyffuriau yng nghyd-destun eu defnydd clinigol a dylunio cyffuriau. Byddwch hefyd yn gallu ymchwilio i sut y bydd maeth yn effeithio ar iechyd dynol yn ogystal â datblygu a chymhwyso dulliau arbrofol a ddefnyddir i asesu ffwythiant genynnau drwy ddilyniannu a mapio genom. O'r dadansoddiadau hyn, bydd gwybodaeth yn llywio strategaethau rhagfynegol newydd, gan nodi genynnau newydd a defnyddiol a thargedau posib ar gyfer cyffuriau; bydd dealltwriaeth o ymddygiad genynnau, a datblygiad cynhyrchion therapiwtig newydd hefyd yn cael ei darparu.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwyddor Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Byddwch yn astudio gradd yn y Gwyddor Iechyd gyda ffocws unigryw ar fioleg ddynol, iechyd, ymarfer corff a maeth.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig, ymroddgar a chyfeillgar sydd ag arbenigedd ar draws yr ystod lawn o bynciau biolegol.
  • Byddwch yn rhan o Adran y Gwyddorau Bywyd, sydd ag uned ymchwil ddynodedig ar gyfer asesu lles ac iechyd.
  • Bydd eich astudiaethau academaidd yn cael eu hategu gan gyfoeth o waith labordy a gwaith maes sy'n meithrin sgiliau gwyddonol go iawn sy'n hanfodol ar gyfer eich dyfodol.
  • Mae ein cyfleusterau addysgu ac e-ddysgu yn rhoi profiad dysgu rhagorol i chi gan integreiddio'r sesiynau dosbarth a storfa enfawr o adnoddau astudio.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a all eich arwain dros eich cyfnod yn Aberystwyth a'ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd yma gyntaf.
  • Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog sy'n darparu profiad ardderchog i fyfyrwyr ac amgylchedd trawiadol i fyw a dysgu ynddo.
  • Ar ôl y radd, byddwch mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfa mewn diwydiannau iechyd a meddygol, astudio ar lefel uwchraddedig neu ymrestru mewn ysgol feddygol.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Gyrfaoedd

Gall graddedigion ddilyn gyrfaoedd ym maes gofal iechyd clinigol a chymunedol, mewn labordai geneteg glinigol, treialon clinigol a’r sector rheoleiddiol, gwerthu a marchnata ym maes gofal iechyd a chynnyrch diagnostig, patholeg ddiagnostig a labordai clinigol, addysg, ac ymchwil a datblygu ar gyfer y diwydiant fferyllol.

Gallai myfyrwyr sydd wedi graddio mewn Bioleg fynd ymlaen i gael hyfforddiant pellach ym maes Meddygaeth hefyd.

Pa sgiliau fydda i'n ei ddatblygu wrth astudio Gwyddor Iechyd?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:  

  • Sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • Sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • Sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • Y gallu i weithio'n annibynnol
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • Y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.


Dysgu ac Addysgu

Mae'r elfen a ddysgir yn y radd Gwyddor Iechyd sy’n cynnwys blwyddyn mewn diwydiant yn union yr un peth â'i chwaer-gwrs tair blynedd (B994). Mae'r flwyddyn mewn diwydiant yn cael ei chymryd yn eich trydedd flwyddyn, yn y DU neu dramor, ac mae’n cael ei goruchwylio a'i hasesu, a bydd yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant, byddwch yn talu ffi ddysgu ostyngedig.

Addysgu

Mae'r cynnwys dangosol sy'n ofynnol ar gyfer gradd mewn Gwyddor Iechyd, gan gynnwys anatomeg ddynol, ffisioleg, biocemeg, geneteg, imiwnoleg, microbioleg, ffarmacoleg, bioleg foleciwlaidd a chelloedd a biowybodeg yn cael eu cwmpasu gan fodiwlau craidd y cwrs. Mae dewis o fodiwlau opsiynol hefyd a fydd yn eich helpu i ddysgu am asesu clinigol gyda sgiliau cleient/claf a/neu i ddatblygu sgiliau clinigol yn y labordy.

Dysgu

Mae'r radd Gwyddor Iechyd (Maeth ac Ymarfer Corff) wedi'i strwythuro i brofi eich gwybodaeth, i ddatblygu meddwl yn annibynnol a chaffael sgiliau ac i ddarparu'r math o wybodaeth drosglwyddadwy sy'n ddefnyddiol i gyflogwyr. Byddwch yn cael eich addysgu mewn gwahanol ffurfiau yn cynnwys rhai neu bob un o'r canlynol:

  • Adroddiadau labordy a/neu waith maes
  • Adroddiad traethawd hir
  • Asesiad profiad gwaith
  • Ymarfer o dan oruchwyliaeth
  • Cymwyseddau sgiliau labordy a/neu faes
  • Gweithgareddau ar-lein
  • Traethodau, crynodebau ac aseiniadau
  • Ymarferion dehongli data
  • Dadansoddi astudiaethau achos yn feirniadol
  • Cyflwyniadau llafar, posteri a chyflwyniadau eraill megis erthyglau mewn cyfnodolion
  • Arholiadau nas gwelwyd, arholiadau a welwyd neu lyfrau agored, asesiadau ar gyfrifiaduron.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|