CertHE

Addysg Gofal Iechyd

Nod y Dystysgrif mewn Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yw darparu profiad dysgu cynhwysol sy'n bodloni safonau Addysg y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth [yr NMC] ar gyfer hyfforddiant nyrsio Rhan 1. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr ein Tystysgrif Addysg Uwch yn ymgymryd ag astudiaethau sy'n cyfateb i flwyddyn gyntaf ein rhaglen gradd BSc hyfforddiant nyrsio cyn-gofrestru, dros gyfnod o ddwy flynedd. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn partneriaeth â Phartneriaid Dysgu Ymarfer lleol, a bydd yn galluogi’r myfyrwyr i ddarparu gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i'r bobl y maent yn dod ar eu traws yn eu hymarfer clinigol. 

Oherwydd trefniadau cyllido, rhaid i’r myfyrwyr gael eu cyflogi mewn rôl gofal iechyd mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol yn rhanbarth Canolbarth Cymru i fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen. 

Trosolwg o'r Cwrs

Nyrsys cofrestredig a gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â maes iechyd yw ein staff academaidd, ac mae llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr sy'n ymarfer, sy’n rhoi cyfuniad eithriadol o sylfaen ddamcaniaethol gadarn, dealltwriaeth broffesiynol a phrofiadau wedi’u seilio ar ymarfer. Mae gennym drefniadau gweithio partneriaethol cryf hefyd gyda Byrddau Iechyd yn yr ardal, sy'n gallu darparu arbenigedd penodol ar gyfer cyfleoedd dysgu pwrpasol a gwneud cyfraniadau arbenigol yn y modiwlau theori. 

Datblygir sgiliau clinigol ac academaidd y myfyrwyr o fewn system gref a sefydlog o ddarparu cymorth trwy diwtoriaid personol yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd, sy’n golygu bod myfyrwyr yn gallu datblygu sgiliau megis ysgrifennu academaidd, adfyfyrio, meddwl beirniadol a gwneud penderfyniadau. Ategir hyn gan weithgareddau dysgu eraill y rhaglen, gan gynnwys sesiynau yn yr Uned Sgiliau Clinigol, uned efelychu lle y gall myfyrwyr ddysgu ac ymarfer eu sgiliau clinigol mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Arddangos Ymarfer Nyrsio (Rhan A) NY11900
Developing Nursing Practice NU10520 20
Introduction to Nursing Practice NU10020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Arddangos Ymarfer Nyrsio (Rhan B) NY10960 60
Developing knowledge of the human body NU10720 20

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd y cwrs: 2 flynedd, rhan amser

120 credyd ar Lefel 4

Gyrfaoedd

Bydd y rhaglen hon yn rhoi i’r myfyrwyr y profiad a’r sgiliau, a'r cymhwyster fel y gallant naill ai symud ymlaen i'n rhaglen BSc Nyrsio cyn-gofrestru rhan-amser, gan ddechrau yn Rhan 2 (blwyddyn 2), neu ddatblygu eu rolau clinigol yn y sector gofal iechyd, megis dod yn Ymarferydd Cynorthwyol Band 4. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Trwy gydol y rhaglen Tystysgrif Addysg Uwch, byddwn yn canolbwyntio ar gyflwyno theori ac egwyddorion nyrsio i’n myfyrwyr, ac ategir hynny gan eu gwaith ym maes ymarfer proffesiynol. Bydd modiwlau ar draws y meysydd, lle mae myfyrwyr nyrsio oedolion a rhai iechyd meddwl yn cael eu dysgu gyda'i gilydd, yn canolbwyntio ar ddarparu gofal cyfannol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn datblygu dealltwriaeth am ddatblygiad dynol, ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd a lles, darparu gwasanaethau, ymarfer nyrsio proffesiynol, anatomeg ddynol, ffisioleg a ffarmacoleg integredig. Bydd y modiwlau theori hefyd yn paratoi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau gofal hanfodol trwy gynnal sesiynau ymarferol yn ein huned amlbroffesiwn sydd â’r offer diweddaraf, yr Uned Sgiliau Clinigol. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu i ddarparu rhaglen y Dystysgrif Addysg Uwch, a bydd ein myfyrwyr yn elwa o’n dulliau cymysg a hyblyg o ddysgu. 

Bydd myfyrwyr yn cael eu rhyddhau am 15 awr yr wythnos o'u prif waith cyflogedig i ymgymryd â’r modiwlau theori a ddarperir dros 7 wythnos. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a fydd yn cynnwys, er enghraifft, darlithoedd arweiniol, gwaith grŵp, sefyllfaoedd dychmygol, sesiynau sgiliau clinigol, dysgu ar-lein a sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw. Disgwylir i’r myfyrwyr hefyd ymgymryd â 95 awr o astudio ar eu liwt eu hunain i bob modiwl theori 7-wythnos. 

Ar ein rhaglen Tystysgrif Addysg Uwch fe fydd dau fodiwl theori yn cael eu darparu ym mlwyddyn 1 ac un modiwl theori ym mlwyddyn 2. 

Hefyd wrth barhau i weithio yn eu prif rolau clinigol, bydd rhaid i’r myfyrwyr gwblhau cyfanswm o 800 o oriau clinigol y flwyddyn trwy Fodiwl 3 a 5, sef y modiwlau ar hyd y flwyddyn sy'n seiliedig ar ymarfer, a rhaid iddynt gwblhau'r holl elfennau gofynnol yn Rhan 1 o’u Dogfen Cymru Gyfan ar gyfer Asesu Ymarfer. Er bod y modiwl theori yn gallu dechrau ychydig yn ddiweddarach yn Semester yr hydref, fe all y myfyrwyr ddechrau cronni eu horiau ymarfer clinigol a chyflawni eu cymwyseddau o fis Medi i fis Awst ym mlwyddyn 1, ac wedyn o fis Medi tan ddiwedd Mawrth ym mlwyddyn 2. Bydd y myfyrwyr yn cyflwyno eu Dogfen Asesu Ymarfer tuag adeg y Pasg yn Semester 2 yn yr ail flwyddyn.  

Bydd y myfyrwyr yn cael eu cefnogi a'u hasesu yn ystod eu hymarfer clinigol gan Oruchwylwyr Ymarfer, Aseswyr Ymarfer ac Aseswyr Academaidd penodedig.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 104 - 96

Safon Uwch BCC-CCC. The Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in lieu of one A-Level (at the grades listed above)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English and Mathematics Grade C/4 or above

Diploma Cenedlaethol BTEC:
BTEC Extended Diploma – DMM-MMM. BTEC Diploma – D*D-DD

Bagloriaeth Ryngwladol:
28-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
26% overall

Gofynion Eraill { "category":"EntryRequirement","message":"Those without Level 3 qualifications can explore admission to the programme via an APEL pathway. Additional Requirements In addition to academic achievements, in order to comply with professional requirements, the admission criteria also include: • Mandatory training compliance as stipulated by the applicant’s employer which meets programme skills mapping for Part 1, to include: o Basic Life Support o Moving and Handling o Violence and Aggression o Hand Hygiene o Welsh Language Awareness o Equality, Diversity and Inclusivity o Safeguarding (Adults and Children) o Infection Prevention and Control o Data Governance • Application and approval for employer study leave, and Line Manager agreement • Good Health and Good Character assessment (see Fitness to Practise information below) o Confirmation/evidence of Occupational Health screening (which is required within the applicant’s post/completed by your employer), providing any relevant information to the Healthcare Education Team, which may require consideration for reasonable adjustment or Fitness to Practise panel o Confirmation/evidence of the completion of Enhanced Disclosure and Barring Screening (which is required within the applicant’s post/completed by your employer), with results meeting professional requirements. Relevant information will need to be provided to the Healthcare Education Team, which may require consideration for reasonable adjustment or Fitness to Practise panel " }

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|