BA

Hanes / Llenyddiaeth Saesneg

BA Hanes / Llenyddiaeth Saesneg Cod QV31 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd ein gradd gyfun mewn Hanes a Llenyddiaeth Saesneg yn cyfuno'ch diddordeb yn y gorffennol â maes astudiaethau llenyddol. Yn ystod eich cwrs, byddwch yn astudio testunau llenyddol o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw, a byddwch yn dysgu am yr hanes a'r gymdeithas a oedd yn gyd-destun i'r cyfnodau y crewyd y testunau ynddynt. Caiff ystod eang o themâu eu haddysgu yn y ddwy adran, a byddwch yn darganfod ffyrdd newydd a diddorol o ddadansoddi a deall y gorffennol a sut rydym wedi ysgrifennu amdano. Byddwch yn datblygu sgiliau tebyg yn ystod dwy ran y radd, a byddwch yn graddio gyda sgiliau pwysig ym meysydd ymchwil, dadansoddi, gwirio ffeithiau a chyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Hanes a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Hanes yn cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy'n golygu mai ein hadran yw'r hynaf yng Nghymru, ac mae'n un o'r rhai mwyaf blaenllaw ym Mhrydain.
  • Mae'r addysgu yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn arloesol, yn seiliedig ar ymchwil ac wedi'i chynllunio i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd megis dadansoddi, dehongli a chyfathrebu. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd.
  • Mae astudio yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadgiol yn cynnig y cyfle i chi ymwneud ag amrywiaeth eang o agweddau ar lenyddiaeth a hanes diwylliannol.
  • Cewch gyfle i archwilio damcaniaeth lenyddol - syniadau athronyddol a chysyniadol sy'n hysbysu, yn herio ac yn problemateiddio'r ffyrdd rydym yn meddwl am destunau.
  • Mae'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn gartref i New Welsh Review - cylchgrawn llenyddol Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru. Gallai hwn fod yn gyfle cyffrous i chi gymryd rhan.
  • Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr llenyddol, ac ysgolheigion cyhoeddedig yn y ddwy ddisgyblaeth.
  • Cewch fynediad llawn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru - un o bum Llyfrgell Hawlfraint y DU ac ystorfa archif flaenllaw Cymru.
  • Yn rhan o'ch cwrs gradd, cewch gyfle i astudio dramor gydag un o'n prifysgolion partner, neu ymgymryd â lleoliad gwaith a chynllunio ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Canfod mwy ar ein tudalennau Cyfleoedd Byd-eang.
Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Literary Theory: Debates and Dialogues EN20120 20
Llunio Hanes HA20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A Century in Crisis: 1790s to 1890s WL20720 20
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Classical Drama and Myth CL20320 20
Contemporary Writing and Climate Crisis EN21120 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Effective Academic and Professional Communication 1 IC27720 20
Germany since 1945 HY29620 20
In the Olde Dayes: Medieval Texts and Their World EN23120 20
Literary Geographies EN21020 20
Literary Modernisms EN20920 20
Literature and Climate in the Nineteenth Century EN21220 20
Literature since the '60s EN22920 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Place and Self EN22120 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
TESOL Approaches, Methods and Teaching Techniques IC23420 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
Writing Women for the Public Stage, 1670-1780 EN28720 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
African-American History, 1808 to the Present HY38820 20
Ali Smith and 21st Century fiction(s) EN33620 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Effective Academic and Professional Communication 2 IC37820 20
Germany since 1945 HY39620 20
Haunting Texts EN30820 20
Literatures of Surveillance WL35320 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY35920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Reading Theory / Reading Text EN30120 20
Remix: Chaucer In The Then and Now WL30620 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Romantic Eroticism EN30520 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present) HY39920 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
TESOL Materials Development and Application of Technologies IC33420 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Mark of the Beast: Animals in Literature from the 1780s to the 1920s EN31320 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC33420 20
Undergraduate Dissertation EN30040 40
Victorian Childhoods EN30320 20
Writing in the Margins: Twentieth-Century Welsh Poetry in English EN30420 20

Gyrfaoedd

Mae gradd mewn Hanes gyda Llenyddiaeth Saesneg yn "safon aur" ar gyfer lleoliad gwaith lle rhoddir gwerth ar gyfathrebu. Mae pob un o'n modiwlau'n darparu sgiliau allweddol sy'n eich galluogi i adeiladu C.V. cynhwysfawr sy'n dangos eich ystod amrywiol o gymwyseddau.

Mae ein graddedigion wedi llwyddo yn y meysydd gyrfaol mwyaf eang posib:

  • darlledu
  • newyddiaduraeth
  • archifwyr
  • hysbysebu
  • cyhoeddi
  • addysg
  • y Gwasanaeth Sifil
  • busnes
  • cyllid
  • y cyfryngau newydd.

Fel adran, rydym yn falch iawn o'n cynfyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch;

  • Dr Tim Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol
  • Dr Joanne Cayford, BBC 
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru, Brwsel
  • Iwan Griffiths, gohebydd chwaraeon S4C.

Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda'r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos gyda'r Llyfrgell Genedlaethol (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Llundain. Mae'r lleoliadau hyn yn rhoi cyfle i chi gael profiad ymarferol a chipolwg o'r sector treftadaeth, ac maent yn werthfawr iawn ar gyfer y CV!

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Cyfleoedd rhyngwladol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Canfod ble gallwch chi fynd.

Sgyrsiau graddedig a mentora gan gynfyfyrwyr

Bydd y Cynllun Mentora Alumni yn eich galluogi i gysylltu â chynfyfyrwyr sydd erbyn hyn mewn ystod o yrfaoedd, a hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y mae'n bosibl y byddwch yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:

  • sgiliau hanesyddol, dulliau a chyfnodau newydd
  • technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
  • ffigyrau allweddol o hanes llenyddol
  • sgiliau mewn dadansoddi cymharol
  • strategaethau darllen newydd.

Yn eich ail flwyddyn, gallech archwilio:

  • dull hanesyddol - sy'n eich galluogi i archwilio sut mae ystyr, dulliau, a ffordd o gofnodi hanes wedi newid dros amser
  • crefft yr hanesydd
  • agweddau damcaniaethol ar arfer beirniadaeth lenyddol
  • testun craidd o'r cyfnod canoloesol hyd at yr ugeinfed ganrif.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, gallech astudio:

  • drama Elizabethaidd
  • straeon ysbryd modern
  • llenyddiaeth Americanaidd
  • Cymru yng nghyfnod y Tuduriaid
  • diwylliant a chymdeithas yn Oes Fictoria
  • prosiect ymchwil annibynnol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cwrs gradd ei addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau un-i-un. Rydym hefyd yn annog dysgu hunan-gyfeiriedig, sydd â'r nod o ysgogi eich diddordeb academaidd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac i feithrin eich datblygiad personol a deallusol.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol nad ydynt yn cael eu hasesu, a gweithio gydag eraill ar dasgau penodol.

Rhagor o wybodaeth

Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fanteisiol i chi mewn astudiaeth bellach neu unrhyw weithle graddedig. Byddwch yn dysgu: defnyddio technegau beirniadol amrywiol wrth drin testunau; datblygu arfer myfyriol mewn darllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiad beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, steil a dawn.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Beth dw i'n ei garu am astudio Hanes yn Aberystwyth? Popeth! Mae'n gynllun gradd mor dda, gydag ystod eang o fodiwlau i ddewis ohonyn nhw ym mhob blwyddyn astudio. Mae'r tiwtoriaid yn ffantastig, ac maen nhw bob amser yn barod i helpu ac yn wybodus. Mae pawb yn yr adran yn gyfeillgar - y staff a'r myfyrwyr fel ei gilydd - sy'n creu amgylchedd gweithio hyfryd. Mae ganddon ni adnodd anhygoel wrth law, sef y Llyfrgell Genedlaethol, sydd nid yn unig yn cynnwys pob llyfr a gyhoeddwyd yng ngwledydd Prydain ers 1911, ond sydd hefyd yn adeilad hardd i astudio ynddo, ac mae ganddo'r olygfa orau un dros holl dre Aberystwyth. Astudio Hanes yn Aberystwyth oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed! Rachel Twomey

Beth dw i'n ei fwynhau am y cwrs Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r amrywiaeth sy'n cael ei chynnig. O ddechrau'r radd hyd at y pwynt o'i gorffen bron, dw i wedi astudio ystod eang o lenyddiaeth, a pheth ohoni nad o'n i hyd yn oed yn gwybod am ei bodolaeth. Dw i'n teimlo bod hyn wedi ehangu fy meddwl ac wedi rhoi dealltwriaeth eang i fi o'r gwahanol fathau o lenyddiaeth, a fydd o fudd i mi yn fy astudiaethau pellach. Chloe Morgan

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|