Hanes / Mathemateg
BA Hanes / Mathemateg Cod GV11 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
GV11-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
92%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrBeth am gyfuno eich cariad at ddysgu am y gorffennol gyda'ch doniau gyda rhifau? Os yw Hanes a Mathemateg yn bynciau yr hoffech chi ddysgu mwy amdanynt, yna dyma'r radd i chi.
Ydych chi'n dymuno gwybod sut yr ymatebodd gwerinwyr y cyfnod canoloesol i'r Pla Du, rôl y Tuduriaid fel llinach Ewropeaidd, neu phaham y bu i'r byd gael ei fwrw gan ddau ryfel hynod ddinistriol yn yr ugeinfed ganrif? Cewch astudio'r cyfnod canoloesol hyd heddiw, gan drafod ystod eang o themâu megis pŵer, trais, mudo, rhywedd a syniadau, ymhlith eraill. Dewch i ymuno â ni ar daith drwy hanes.
Mae Mathemateg wedi bod o ddiddordeb mawr i ddynoliaeth am filoedd o flynyddoedd, o'r hen fyd hyd heddiw, gyda rhifau, patrymau a strwythurau'n arwain at ddatblygu dyfaliadau mathemategol, rhesymu a thystiolaeth fathemategol. Byddwch yn astudio disgyblaethau craidd hanfodol algebra, calcwlws, geometreg, hafaliadau differol, tebygolrwydd, ac ystadegau. Ategir hyn oll gan gasgliad eang o fodiwlau dewisol. Bydd dewis y modiwlau sy'n eich diddori yn caniatáu i chi arbenigo mewn meysydd penodol neu ddilyn maes llafur amrywiol.
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi â sgiliau dadansoddol fel dehongli, dadansoddi a chyfathrebu sy'n rhan annatod o astudio Hanes, gyda'r sgiliau mathemategol uwch y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Algebra | MT10510 | 10 |
Calcwlws | MT10610 | 10 |
Algebra a Chalcwlws Pellach | MT11010 | 10 |
Dadansoddi Mathemategol | MT11110 | 10 |
Cyflwyno Hanes | HA12120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Coordinate and Vector Geometry | MA10110 | 10 |
Differential Equations | MA11210 | 10 |
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd | MT10110 | 10 |
Hafaliadau Differol | MT11210 | 10 |
Probability | MA10310 | 10 |
Statistics | MA11310 | 10 |
Tebygoleg | MT10310 | 10 |
Ystadegaeth | MT11310 | 10 |
'Hands on' History: Sources and their Historians | HY10420 | 20 |
Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1200-1800 | HC11120 | 20 |
Cydio mewn Hanes: Ffynonellau a'u Haneswyr | HA10420 | 20 |
Cymdeithas, Pobl a Gwleidyddiaeth: Cymru, 1800-1999 | HC11820 | 20 |
Europe and the World, 1000-2000 | HY12420 | 20 |
Ewrop a'r Byd, 1000-2000 | HA11420 | 20 |
Medieval and Early Modern Britain and Europe, 1000-1800 | HY11420 | 20 |
People, Power and Identity: Wales 1200-1999 | WH11720 | 20 |
The Modern World, 1789 to the present | HY11820 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Dadansoddiad Cymhlyg | MT21510 | 10 |
Algebra Llinol | MT21410 | 10 |
Llunio Hanes | HA20120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|
Opsiynau
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Tystiolaeth Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|