Pam astudio Hanes a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae Mathemateg a Hanes yn cael eu haddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 1872, a dyma'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i addysgu'r pynciau hyn. Mae ein treftadaeth sefydledig, ochr yn ochr â'n haddysgu cadarn sydd wedi'i seilio ar ymchwil, yn sicrhau bod ein cyrsiau gradd yn arloesol ac yn ysgogi.
- Mae gennym lyfrgell hawlfraint dafliad carreg o'r campws, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Mae ein meysydd pwnc Hanes yn amrywio o hanes cynnar i hanes modern, hanes gwleidyddol, hanes cymdeithasol, hanes diwylliannol a hanes economaidd.
- Ym Mathemateg, mae ein harbenigedd yn cynnwys algebra, dadansoddi, ystadegau a mecaneg, ac rydym yn arbenigo ym meysydd hylifau, solidau a gwybodaeth cwantwm.
- Gall myfyrwyr sy'n dymuno astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg wneud hynny gyda'r Adrannau Mathemateg a Hanes.
Ein Staff
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.
Pa ragolygon gyrfa a ddaw gyda gradd Hanes a Mathemateg?
Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau swyddi mewn llawer o wahanol feysydd:
- addysg
- y gyfraith
- archifwyr
- cyhoeddwyr
- gwleidyddiaeth
- gweision sifil
- rheolaeth ariannol
- y cyfryngau
- y lluoedd arfog.
Fel adran, rydym yn falch iawn o'n cynfyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch:
- Dr Tim Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
- Guto Bebb, Aelod Seneddol
- Dr Joanne Cayford, BBC
- Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru, Brwsel
- Iwan Griffiths, gohebydd chwaraeon S4C.
Lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn y sector treftadaeth
Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda'r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn y Llyfrgell Genedlaethol (gan gynnwys cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Llundain. Mae'r lleoliadau hyn yn rhoi cyfle i gael profiad ymarferol a chipolwg o'r sector treftadaeth, ac maent yn werthfawr iawn ar gyfer y CV!
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a'r rhaglen Astudio Dramor
Mae cael ystod o brofiadau yn werthfawr iawn ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, a darperir cyfleoedd gwych gan y cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor. Mae gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru raglenni cyfnewid Erasmus wedi'u sefydlu â phrifysgolion yn yr Almaen, Prag, Bwdapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau hefyd gyda nifer o golegau yn America.
Sgyrsiau graddedig a mentora gan gynfyfyrwyr
Bydd y Cynllun Mentora Alumni yn eich galluogi i gysylltu â chynfyfyrwyr sydd erbyn hyn mewn ystod o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gynfyfyrwyr ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd. Roedd sgyrsiau diweddar yn cynnwys 'O'r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf', a gyflwynwyd gan un o'n graddedigion diweddar sydd wedi cael lle erbyn hyn fel hyfforddai yn Oriel y Tate.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
- Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn llwybr clir drwy astudiaeth o ddisgyblaethau craidd mathemateg, a byddwch yn cael eich cyflwyno i gysyniadau newydd a sgiliau hanesyddol, Hanes Cymru, y Rhyfel Mawr a'ch dewis chi o fodiwlau eraill sy'n adlewyrchu ystod thematig a chronolegol eang.
- Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio dadansoddi real, dadansoddi cymhleth, ac algebra llinol. Byddwch yn archwilio'r dull hanesyddol, sy'n archwilio'r newidiadau yn ystyr hanes, ei ddulliau, a'r ffordd o'i gofnodi drwy'r oesoedd, Hanes Ewrop, yr Almaen a Natsïaeth a'r Ymerodraeth Brydeinig.
- Yn ystod y drydedd flwyddyn, bydd modd i chi gyfeirio'ch astudiaeth eich hun, ac arbenigo ymhellach drwy ddewis o blith ystod eang o fodiwlau yn y ddwy ddisgyblaeth.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
- Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i waith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.
- Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.
- Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
- Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Mae astudio Hanes yn Aberystwyth wedi bod yn wych. Mae'r gallu i ddewis modiwlau i weddu i'ch diddordebau wedi fy ngalluogi i ddilyn yr hyn dw i eisiau. Os ydw i'n dymuno astudio Rwsia, galla i wneud hynny. Hefyd, mae gan y staff addysgu gwych gyfoeth o brofiad a dealltwriaeth, ac maen nhw'n darparu addysg ardderchog. Mae'n hawdd iawn mynd atyn nhw, ac maen nhw'n barod i roi'r amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen arna i. Galla i ofyn iddyn nhw am gymorth gyda thraethodau a chyngor ar beth i'w ddarllen ac ymchwilio iddo. Mae darllen yn allweddol fel hanesydd, ac mae'r Llyfrgell yn adnodd gwych i gael llyfrau. Mae ganddi bron unrhyw lyfr y byddai ei angen arnoch chi, ac os yw'r llyfr wedi'i dynnu o'r llyfrgell ar y pryd, gallwch fynd i'r Llyfrgell Genedlaethol. Yn ystod fy nwy flynedd yn astudio hanes, dw i heb ddifaru fy newis unwaith, ac alla i ddim aros i ddechrau fy nhrydedd flwyddyn. Connor Lambert
Does dim un pwnc diflas byth, ac mae'r cwrs yn mynd yn llawer dyfnach i fathemateg nag o'n i'n ei ddisgwyl. Mae cymaint o wahanol fodiwlau i ddewis ohonyn nhw, felly bydd rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi bob amser. Mae'r darlithwyr bob amser yn barod i helpu. Elin Wyn Hughes
Mae Mathemateg yn gwrs gwych gyda darlithwyr cyfeillgar ac agos-atoch. Mae'r cynnwys bob amser yn ddiddorol iawn, ond yn heriol i'r graddau cywir. Mae'r adran gyfan yn gweithio'n effeithiol i gynnig yr holl gyfleusterau sydd eu hangen i gael gradd dda. Jennifer O'Neil
Beth dw i'n ei garu am astudio Hanes yn Aberystwyth? Popeth! Mae'n gynllun gradd mor dda, gydag ystod eang o fodiwlau i ddewis ohonyn nhw ym mhob blwyddyn astudio. Mae'r tiwtoriaid yn ffantastig, ac maen nhw bob amser yn barod i helpu ac yn wybodus. Mae pawb yn yr adran yn gyfeillgar - y staff a'r myfyrwyr fel ei gilydd - sy'n creu amgylchedd gweithio hyfryd. Mae ganddon ni adnodd anhygoel wrth law, sef y Llyfrgell Genedlaethol, nid yn unig sy'n cynnwys pob llyfr a gyhoeddwyd yng ngwledydd Prydain ers 1911, ond sydd hefyd yn adeilad hardd i astudio ynddo, ac mae ganddo'r olygfa orau un dros holl dre Aberystwyth. Astudio Hanes yn Aberystwyth oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed! Rachel Twomey