BA

Hanes a Hanes Cymru

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Aberystwyth yn ganolfan ar gyfer astudio hanes Cymru gydag arbenigedd yn amrywio o'r cyfnod canoloesol i'r cyfnod modern, gan gynnwys ystod o themâu cyffrous megis gwrthryfel Glyndwr, crefydd a moesoldeb yn y ddeunawfed ganrif, ymerodraeth a mudo yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac iechyd a lles yn yr ugeinfed ganrif.

Wrth ddewis astudio gradd BA Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn elwa o ddysgu gan ysgolheigion a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes hanes Cymru ac o'r stod eang o fodiwlau hanes byd-eang a gynigir gan yr adran yn rhan o'r radd Hanes.

Os ydych yn dymuno arbenigo mewn Hanes Cymru yn ogystal ag astudio hanes y byd ehangach, dyma'r radd i chi.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cynllun gradd Hanes a Hanes Cymru yn eich galluogi i elwa ar astudio yn un o'r prif ganolfannau yn y byd ar gyfer addysg ac ymchwil yn hanes Cymru, ynghyd â darparu hyblygrwydd i archwilio ystod o bynciau hanesyddol eraill yn unol â'ch diddordebau chi.

Pam astudio Hanes a Hanes Cymru yn Aberystwyth?

  • Mae Hanes yn cael ei addysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn un o'r rhai hynaf yng Nghymru, ac ymhlith y mwyaf blaenllaw ym Mhrydain.
  • Mae ein haddysgu'n arloesol, yn seiliedig ar ymchwil ac wedi'i chynllunio i ddatblygu'ch sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd megis dadansoddi, dehongli a chyfathrebu, gan eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd.
  • Bydd ein meysydd pwnc arbenigol yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau hanesyddol o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw, gan rychwantu pedwar cyfandir a chwmpasu hanes gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
  • Yn fyfyriwr Hanes yn Aberystwyth, cewch wneud defnydd llawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru - un o ddim ond pum Llyfrgell Hawlfraint y DU, ac ystorfa archif flaenllaw Cymru.
  • Yn rhan o'ch cwrs, cewch gymryd y cyfle i astudio dramor yn un o'n prifysgolion partner, neu fynd ar leoliad gwaith yn y sector Treftadaeth a gwneud cynlluniau ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.


Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz' HY23420 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Reading a Building HY23120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
Seals in Their Context in Medieval England and Wales HY24420 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY28520 20
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA29320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY29120 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY29220 20
Germany since 1945 HY29620 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY25620 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY28920 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY22020 20
The European Reformation HY26520 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY29420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY26720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dissertation HY30340 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
African-American History, 1808 to the Present HY38820 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY38520 20
Britain at War 1939-45 (Part 1) HQ37520 20
Britain at War 1939-45 (Part 2) HQ37620 20
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1842-1914 (Rhan 1) HP37420 20
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1914-1948 (Rhan 2) HP37520 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 1 HQ33320 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 2 HQ33420 20
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA31820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA39320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY39120 20
Famine in Medieval England HY35520 20
From Burma to Myanmar (Part I): colonial Burma under British rule (1824-1941) HQ39220 20
From Burma to Myanmar (Part II): Challenges for a young nation state since 1942 HQ39320 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY39220 20
Germany since 1945 HY39620 20
Gwrthryfel Glyndŵr 1: Hynt a Helynt y Gwrthryfel HP33120 20
Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol HP33220 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY35920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY35620 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 1) HQ33120 20
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 2) HQ33220 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY38920 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present) HY39920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY30120 20
The English Reformation, 1520-58: Revolution and Counter Revolution HQ35020 20
The English Reformation, 1558-1648: Consolidation and Conflict HQ35620 20
The European Reformation HY36520 20
The Invisible Empires: The First Ku Klux Klan and American Society, 1865-1915 HQ39620 20
The Invisible Empires: The Second Ku Klux Klan and American Society, 1915-1944 HQ39720 20
The Irish in Britain, c. 1850-1922 (Part 2): Community and Conflict HQ35520 20
The Irish in Britain, c.1815-70 (Part 1): Migration and Settlement HQ35420 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY39420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC33420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY36720 20

Gyrfaoedd

Pa ragolygon gyrfa a ddaw gyda gradd Hanes?

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau swyddi mewn llawer o wahanol feysydd:

  • addysg
  • y gyfraith
  • archifo
  • cyhoeddi
  • gwleidyddiaeth
  • y Gwasanaeth Sifil
  • y cyfryngau
  • y lluoedd arfog
  • Eentrepreneuriaeth.

Fel adran, rydym yn falch iawn o'n cynfyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch;

  • Dr Tim Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol
  • Dr Joanne Cayford, BBC 
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru, Brwsel
  • Iwan Griffiths, gohebydd chwaraeon S4C.

Lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda'r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn y Llyfrgell Genedlaethol (gan gynnwys cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Llundain. Mae'r lleoliadau hyn yn ychwanegu gwerth i CV myfyriwr.

Cyfleoedd rhyngwladol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester

sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Canfod ble gallwch chi fynd.

Sgyrsiau graddedig a mentora gan gyn-fyfyrwyr

Mae’r cynllun e-Fentora yn gyfle i chi gysylltu â chyn-fyfyrwyr o amrywiaeth o yrfaoedd, a hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi ganfod beth oedd eu llwybr nhw i’w swyddi presennol a pha wybodaeth y gallant ei rhannu wrth i chi feddwl am eich camau nesaf. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru’n cydweithio â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd gyda’r bwriad o drefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd, megis y sgwrs lwyddiannus: ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’, a gyflwynwyd gan un o’n graddedigion diweddar a lwyddodd i gael lle ar raglen uchel ei bri i hyfforddai yn Oriel y Tate.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y

cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran

Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:

  • Sgiliau hanesyddol a chysyniadau newydd
  • Dulliau a chyfnodau newydd
  • Hanes Cymru rhwng 1250-1800
  • Prydain a'r Rhyfel Byd Cyntaf
  • Moderniaeth a sut daeth Asia i fod
  • Gweithiau hanesyddol diweddar cyffrous
  • Ein dewis o fodiwlau eraill sy'n adlewyrchu ystod gronolegol a thematig eang.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech archwilio:

  • Y dull hanesyddol, sy'n archwilio'r newidiadau yn ystyr hanes, ei ddulliau, a'r ffordd o'i gofnodi drwy'r oesoedd
  • Hanes Ewrop
  • Yr Almaen a Natsïaeth
  • Yr Ymerodraeth Brydeinig: Prydain ac Iwerddon, 1850-1914
  • Cipolwg ar grefft yr hanesydd
  • Pynciau a chyfnodau gwahanol o'n rhestr gynhwysfawr o fodiwlau.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, gallech astudio:

  • Pwnc arbennig sy'n eich galluogi i wneud ymchwil ddwys, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol sy'n eich galluogi i ddefnyddio sgiliau ymchwil sy'n hanfodol i hanesydd ymarferol
  • Rhywedd mewn Hanes
  • Cymdeithas Prydain a'r chwyldro Ffrengig
  • Gwyddoniaeth, Crefydd a Hud a Lledrith
  • Stalin a Rwsia.

Sut bydda i'n cael fy addysgu a fy asesu?

Bydd y gwahanol ddulliau o ddysgu, addysgu ac asesu rydyn ni'n eu defnyddio yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyflwyno mewn grwpiau bach (seminarau ac asesiadau llafar), ysgrifennu ffurfiol (traethodau), ymchwil a datblygu syniadau'n ysgrifenedig (traethawd hir), a gweithio fel rhan o dîm (seminarau a chynadleddau i fyfyrwyr, fel Colocwiwm Canoloesol Gregynog). Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnal tiwtorialau academaidd unigol ar gyfer yr holl fyfyrwyr – sy'n brin y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt – ac mae ganddi system gefnogol o diwtoriaid personol. Drwy'r cyswllt un i un hwn, bydd modd i chi drafod gyrfaoedd posib, neu astudiaeth bellach efallai, gyda mentoriaid academaidd.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rydw i wrth fy modd gyda 'Hanes', gan fod y cwrs yn berffaith i bobl sy'n mwynhau hanes, ond sy'n ansicr pa faes o Hanes sydd orau ganddyn nhw. Des i i'r brifysgol yn y sefyllfa yma, ond mae'r cwrs yma'n eich galluogi i ddarganfod hyn drwy roi cyfle i chi astudio llawer o wahanol gyfnodau. Yn ystod fy amser yma, rydw i wedi astudio llawer o wahanol gyfnodau a digwyddiadau, o'r Pla Du i Gymru Ganoloesol, i Wleidyddiaeth Prydain yn yr ugeinfed ganrif. Rydw i'n hoffi Hanes gan nad yw e'n eich cyfyngu chi fel cyrsiau eraill, ac mae'n caniatáu i chi ddarganfod eich Hanesydd mewnol go iawn.

Christopher Pines

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|