Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd y cwrs gradd Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyfuno'ch awch am ddysgu am y gorffennol gyda sgiliau a fydd yn eich paratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus. Ydych chi eisiau darganfod beth oedd ymateb y werin bobl i'r Pla Du yng nghyfnod y canol oesoedd, rôl y Tuduriaid yn llinach Ewropeaidd, neu sut y crewyd dinistr enfawr gan ddau ryfel mawr yr ugeinfed ganrif? Os ydych, dyma'r cwrs i chi.

Bydd y cwrs gradd hwn a gynigir gan ein hadran Hanes a Hanes Cymru yn rhoi hyblygrwydd ichi i astudio'r cyfnod canoloesol hyd at y cyfnod cyfoes ynghyd ag ystod eang o themâu megis pŵer, trais, mudo, rhywedd a syniadau, ymhlith eraill. Dewch i ymuno â ni ar daith drwy hanes.

Trosolwg o'r Cwrs

Ochr yn ochr â chaffael gwybodaeth newydd a chyffrous am y gorffennol, bydd ein graddau Hanes yn rhoi'r cylle ichi ddatblygu ystod o sgiliau hefyd - o ddadansoddi, gwirio ffeithiau a chyfathrebu, i ddadleuon a meddwl yn feirniadol. Mewn byd lle mae'r gallu i werthuso a dadansoddi gwybodaeth yn gyflym yn hollbwysig, bydd gradd mewn Hanes yn rhoi ichi'r hyn y bydd ei angen arnoch i fod yn llwyddiannus, pa bynnag yrfa y byddwch yn ei dewis.

Pam astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Hanes yn cael ei addysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn un o'r rhai mwyaf sefydledig yng Nghymru, ac ymhlith y mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae ein haddysgu yn arloesol, wedi'i seilio ar ymchwil, ac wedi'i gynllunio i'ch hyfforddi chi â sgiliau dehongli, dadansoddi a chyfathrebu - sgiliau sy'n sy'n cael eu gwerthfawrogi yn y gweithle. 
  • Mae ein harbenigeddau pwnc yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau hanesyddol, o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw, gan amrywio ar draws pedwar cyfandir, ac ymdrin â hanes gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
  • Drwy ddewis Aberystwyth, byddwch yn dod yn rhan o gymuned agos a chefnogol o fyfyrwyr a staff, ac fe gewch fynediad i gyfleusterau ymchwil ac addysgu rhagorol.
  • Rydym wedi ymrwymo i ddod i nabod ein myfyrwyr ac mae hyn yn rhan annatod o'n cynlluniau gradd. Byddwn yn eich dysgu mewn grwpiau bach, gan gynnwys tiwtorialau un wrth un a chyrsiau seminar yn unig, er enghraifft ein modiwlau sgiliau a phynciau arbennig.
  • Yn ogystal â dysgu am y gorffennol, byddwch yn ymroi'n frwd i'r broses o adeiladu dealltwriaeth newydd o hanes. Wrth astudio prif ffynonellau a gweithio'n agos gyda'n datlithwyr, byddwch yn gwneud cyfraniad i'n cymdeithas ymchwil.
  • Yn fyfyriwr Hanes yn Aberystwyth, cewch ddigon o gyfleoedd i gael profiad ymarerol ac uniongyrchol ac i ddefnyddio'r adnoddau o safon ryngwladol sydd ar gael yn Aberystwyth. Mae'r rhain yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru - un o bum Llyfrgell Hawlfraint y Deyrnas Unedig ac ystorfa archifau fwyaf blaenllaw Cymru. 
  • Fel rhan o'ch cwrs gradd, fe gewch y cyfle i astudio dramor mewn prifysgol bartner, i gyflawni lleoliadau gwaith yn y sector Treftadaeth, ac i gynllunio ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz' HY23420 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Reading a Building HY23120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
Seals in Their Context in Medieval England and Wales HY24420 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY28520 20
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA29320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY29120 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY29220 20
Germany since 1945 HY29620 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY25620 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY28920 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY22020 20
The European Reformation HY26520 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY29420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY26720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dissertation HY30340 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
African-American History, 1808 to the Present HY38820 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY38520 20
Britain at War 1939-45 (Part 1) HQ37520 20
Britain at War 1939-45 (Part 2) HQ37620 20
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1842-1914 (Rhan 1) HP37420 20
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1914-1948 (Rhan 2) HP37520 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 1 HQ33320 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 2 HQ33420 20
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA31820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA39320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY39120 20
Famine in Medieval England HY35520 20
From Burma to Myanmar (Part I): colonial Burma under British rule (1824-1941) HQ39220 20
From Burma to Myanmar (Part II): Challenges for a young nation state since 1942 HQ39320 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY39220 20
Germany since 1945 HY39620 20
Gwrthryfel Glyndŵr 1: Hynt a Helynt y Gwrthryfel HP33120 20
Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol HP33220 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY35920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY35620 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 1) HQ33120 20
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 2) HQ33220 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY38920 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present) HY39920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY30120 20
The English Reformation, 1520-58: Revolution and Counter Revolution HQ35020 20
The English Reformation, 1558-1648: Consolidation and Conflict HQ35620 20
The European Reformation HY36520 20
The Invisible Empires: The First Ku Klux Klan and American Society, 1865-1915 HQ39620 20
The Invisible Empires: The Second Ku Klux Klan and American Society, 1915-1944 HQ39720 20
The Irish in Britain, c. 1850-1922 (Part 2): Community and Conflict HQ35520 20
The Irish in Britain, c.1815-70 (Part 1): Migration and Settlement HQ35420 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY39420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC33420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY36720 20

Gyrfaoedd

Pa ragolygon gyrfa a ddaw gyda gradd Hanes?

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau swyddi mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys:

  • addysg
  • ymchwil ac ysgolheictod academaidd
  • curadu a rheoli archifau
  • y gyfraith
  • cyhoeddi
  • gwleidyddiaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol
  • y Gwasanaeth Sifil
  • yr Heddlu
  • y lluoedd arfog
  • y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol
  • busnes ac entrepreneuriaeth.

Ymhlith ein cyn-fyfyrwyr mae:

  • Glanmor Williams, Hanesydd
  • Alun Lewis, un o feirdd yr Ail Ryfel Byd
  • Tim Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol
  • Joanne Cayford, y BBC
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru, Brwsel
  • Iwan Griffiths, gohebydd chwaraeon i S4C.

Cyfleoedd rhyngwladol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Canfod ble gallwch chi fynd.

Sgyrsiau graddedig a mentora gan gyn-fyfyrwyr

Mae’r cynllun e-Fentora yn gyfle i chi gysylltu â chyn-fyfyrwyr o amrywiaeth o yrfaoedd, a hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi ganfod beth oedd eu llwybr nhw i’w swyddi presennol a pha wybodaeth y gallant ei rhannu wrth i chi feddwl am eich camau nesaf. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru’n cydweithio â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd gyda’r bwriad o drefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd, megis y sgwrs lwyddiannus: ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’, a gyflwynwyd gan un o’n graddedigion diweddar a lwyddodd i gael

lle ar raglen uchel ei bri i hyfforddai yn Oriel y Tate.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Canfod mwy am y gwahanol gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eu darparu, gan gynnwys GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan y gwasanaeth ac sy'n cynnig cyfleoedd ichi wella eich rhagolygon gyrfa. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cwrs gradd tair blynedd.

Yn ystod eich tair blynedd yn astudio, byddwch yn datblygu eich diddordebau hanesyddol drwy ddewis modiwlau dewisol o blith yr ystod lawn o feysydd pwnc a addysgir gan ein hadran a'ch sefydliad dramor. Byddwch hefyd yn dysgu ac yn cymhwyso ymagweddau a dulliau ymchwil a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol: 

  • cysyniadau a sgiliau hanesyddol newydd, a chyflwyniad cynhwysfawr i sgiliau astudio lefel prifysgol, drwy'r modiwl Cyflwyno Hanes yn y flwyddyn gyntaf
  • cyfnodau hanesyddol, themâu a meysydd pwnc newydd, drwy'r ystod eang o fodiwlau dewisol yn y flwyddyn gyntaf.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • y ffyrdd y mae ystyr hanes a dulliau o ysgrifennu hanes wedi newid dros amser, drwy ein modiwl craidd ail flwyddyn Making History
  • cipolwg ar grefft yr hanesydd, drwy ddosbarthiadau seminar yn seiliedig ar ymarfer
  • pynciau a chyfnodau gwahanol o'n rhestr gynhwysfawr o fodiwlau dewisol Blwyddyn 2.

Gallech hefyd dreulio semester neu ddau yn astudio dramor mewn prifysgol bartner o'ch dewis.

Yn ystod eich blwyddyn olaf yn Aberystwyth, byddwch yn astudio:

  • dau fodiwl dewisol o'ch dewis
  • Pwnc Arbennig, lle byddwch yn cyflawni ymchwil drylwyr gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol ac yn ymwneud ag ysgolheictod o'r radd flaenaf
  • eich Traethawd Hir Hanes, yn seiliedig ar ymchwil annibynnol gennych chi ar bwnc o'ch dewis, dan oruchwyliaeth hanesydd arbenigol yn yr adran.

Sut bydda i'n cael fy addysgu a fy asesu?

Bydd ein hamrywiaeth eang o ddulliau dysgu, addysgu ac asesu yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau ym maes ysgrifennu ffurfiol, cyflwyno mewn grwpiau bach, ffurfio dadleuon gwybodus o dan bwysau amser, cynnal ymchwil annibynnol, a gweithio fel rhan o dîm, gan ddefnyddio adnoddau a llwyfannau digidol cyfoes. Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnal tiwtorialau traethodau unigol ar gyfer yr holl fyfyrwyr – sy'n brin y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt – ac mae ganddi system gefnogol o diwtoriaid personol, sy'n darparu cyswllt un i un heb ei ail drwy gydol eich gradd.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rydw i wrth fy modd gyda Hanes (V100), gan fod y cwrs yn berffaith i bobl sy'n mwynhau hanes, ond sy'n ansicr pa faes o Hanes sydd orau ganddyn nhw. Des i i'r brifysgol yn y sefyllfa yma, ond mae'r cwrs yma'n rhoi cyfle i chi astudio llawer o wahanol gyfnodau. Yn ystod fy amser ar V100, rydw i wedi astudio llawer o wahanol gyfnodau a digwyddiadau, o'r Pla Du i Gymru Ganoloesol, i Wleidyddiaeth Prydain yn yr ugeinfed ganrif. Rydw i'n hoffi V100 gan nad yw e'n eich cyfyngu chi fel cyrsiau eraill, ac mae'n caniatáu i chi ddarganfod eich Hanesydd mewnol go iawn.

Christopher Pines

Mae astudio Hanes yn Aberystwyth wedi bod yn wych. Mae'r gallu i ddewis modiwlau i weddu i'ch diddordebau wedi fy ngalluogi i ddilyn yr hyn dw i eisiau. Os ydw i'n dymuno astudio Rwsia, galla i wneud hynny. Hefyd, mae gan y staff addysgu gwych gyfoeth o brofiad a dealltwriaeth, ac maen nhw'n darparu addysg ardderchog. Mae'n hawdd iawn mynd atyn nhw, ac maen nhw'n barod i roi'r amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen arna i. Galla i ofyn iddyn nhw am gymorth gyda thraethodau a chyngor ar beth i'w ddarllen ac ymchwilio iddo. Mae darllen yn allweddol fel hanesydd, ac mae'r Llyfrgell yn adnodd gwych i gael llyfrau. Mae ganddi bron unrhyw lyfr y byddai ei angen arnoch chi, ac os yw'r llyfr wedi'i dynnu o'r llyfrgell ar y pryd, gallwch fynd i'r Llyfrgell Genedlaethol. Yn ystod fy nwy flynedd yn astudio hanes, dw i heb ddifaru fy newis unwaith, ac alla i ddim aros i ddechrau fy nhrydedd flwyddyn.

Connor Lambert

Beth dw i'n ei garu am astudio Hanes yn Aberystwyth? Popeth! Mae'n gynllun gradd mor dda, gydag ystod eang o fodiwlau i ddewis ohonyn nhw ym mhob blwyddyn astudio. Mae'r tiwtoriaid yn ffantastig, ac maen nhw bob amser yn barod i helpu ac yn wybodus. Mae pawb yn yr adran yn gyfeillgar – y staff a'r myfyrwyr fel ei gilydd – sy'n creu amgylchedd gweithio hyfryd. Mae ganddon ni adnodd anhygoel wrth law, sef y Llyfrgell Genedlaethol, sydd nid yn unig yn cynnwys pob llyfr a gyhoeddwyd yng ngwledydd Prydain ers 1911, ond sydd hefyd yn adeilad hardd i astudio ynddo, ac mae ganddo'r olygfa orau un dros holl dre Aberystwyth. Astudio Hanes yn Aberystwyth oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed!

Rachel Twomey

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|