Hanes (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)
BA Hanes (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor) Cod V102 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
V102-
Tariff UCAS
120 - 96
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae ein BA mewn Hanes gyda Blwyddyn Integredig yn Astudio Dramor (V102) yn adeiladu ar bartneriaethau ymchwil ac addysgu rhyngwladol yr Adran Hanes a Hanes Cymru i gynnig profiad dysgu unigryw i chi ar draws dwy brifysgol a dau wahanol ddiwylliant cenedlaethol yn ystod astudiaethau eich gradd. Fel myfyriwr ar y cynllun hwn byddwch yn treulio eich blwyddyn gyntaf a’ch ail flwyddyn yn astudio Hanes yn Aberystwyth, yna yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn cofrestru yn un o'n prifysgolion partner dramor. Bydd y flwyddyn dramor yn eich galluogi i ddyfnhau ac ehangu eich astudiaethau hanesyddol, astudio pynciau yn ogystal â Hanes os dymunwch, ac ymgolli mewn diwylliant arall am flwyddyn gyfan. Yna byddwch yn dychwelyd i Aberystwyth i gwblhau eich blwyddyn olaf o astudiaethau, wedi cael hwb gan sgiliau newydd, profiadau newydd a meysydd newydd o arbenigedd hanesyddol.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyflwyno Hanes | HA12120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
'Hands on' History: Sources and their Historians | HY10420 | 20 |
Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1200-1800 | HC11120 | 20 |
Cydio mewn Hanes: Ffynonellau a'u Haneswyr | HA10420 | 20 |
Cymdeithas, Pobl a Gwleidyddiaeth: Cymru, 1800-1999 | HC11820 | 20 |
Europe and the World, 1000-2000 | HY12420 | 20 |
Ewrop a'r Byd, 1000-2000 | HA11420 | 20 |
Medieval and Early Modern Britain and Europe, 1000-1800 | HY11420 | 20 |
People, Power and Identity: Wales 1200-1999 | WH11720 | 20 |
The Modern World, 1789 to the present | HY11820 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Llunio Hanes | HA20120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Dissertation | HY30340 | 40 |
Opsiynau
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 96
Safon Uwch BBB-CCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|