BA

Daearyddiaeth Ddynol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

BA Daearyddiaeth Ddynol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod L703 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn un o'r adrannau mwyaf profiadol a sefydledig o'i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i astudio daearyddiaeth yn un o leoliadau harddaf Ewrop, ac i wella eich cyflogadwyedd ar yr un pryd gyda'n rhaglen blwyddyn mewn diwydiant.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear – sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o amgylcheddau hardd, yn cynnwys môr, gweundir, mynyddoedd a glaswelltir – mewn lleoliad unigryw i wneud y mwyaf o'r tirweddau sydd o'i chwmpas, gan gynnig amrywiaeth anhygoel o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi. Bydd y radd hon, sydd wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG), yn eich paratoi gyda'r sgiliau, y gallu a'r arbenigedd i wynebu ac ymwneud â'r heriau amgylcheddol sy'n wynebu cymdeithas heddiw.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG). 

Fel cymuned Ddaearyddiaeth fawr a dynamig, gallwn gynnig ystod eang iawn o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol:

  • tueddiadau cyfredol o ran Geoberyglon
  • cynaliadwyedd dinesig
  • datblygu rhanbarthol
  • daearyddiaeth wleidyddol a diwylliannol
  • cyfleoedd gwaith maes yn Efrog Newydd, Iwerddon a Chymru
  • dyfarniadau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau eich hun (hyd at £400)
  • cyfleusterau addysgu modern, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i wella dysg.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Conflict and Change: the making of urban and rural spaces GS10220 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Place and Identity GS14220 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Earth Surface Environments GS10520 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Key Concepts in Sociology GS16120 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Thinking Sociologically GS15120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concepts for Geographers GS20410 10
Graduate Career and Professional Development CD20220 20
Placing Culture GS22920 20
Placing Politics GS23020 20
Ymchwilio i bobl a lle DA20510 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes DA25420 20
Geographical Information Systems GS23710 10
Geographical Perspectives on the Sustainable Society GS28910 10
Human Geography Research Design and Fieldwork Skills GS21520 20
Quantitative Data Analysis GS23810 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Lleoliad Gwaith DAS0260 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig Daearyddiaeth DA34040 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cenedlaetholdeb a chymdeithas DA32220 20
Everyday Social Worlds GS33320 20
Memory Cultures: heritage, identity and power GS37920 20
Modern British Landscapes GS36220 20
Rheoli'r Amgylchedd Gymreig DA31720 20
The Global Countryside: Geographical and Sociological Perspectives GS36820 20
The psychosocial century GS30020 20
Urban Risk and Environmental Resilience GS37520 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd. Fodd bynnag, bydd y flwyddyn a dreulir mewn diwydiant fel rhan o'r radd hon yn darparu sgiliau a phrofiadau penodol i chi a fydd yn uniongyrchol berthnasol i lwybrau gyrfaol penodol.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Daearyddiaeth Ddynol?

Mae ein graddedigion wedi canfod gwaith fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym maes addysg, i enwi dim ond rhai.

Cyfleoedd Rhyngwladol:

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid, yna mae'n bosib y bydd ein chwaer gwrs (L704) o ddiddordeb i chi. 

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear hefyd wedi sefydlu Rhaglen Gyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi profiad unigryw i fyfyrwyr gael astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae cysylltiadau cryf gennym hefyd gyda nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall myfyrwyr gwblhau eu hail flwyddyn o astudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi bod yn goruchwylio cyfnewidfeydd ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • cysyniadau allweddol wrth astudio daearyddiaeth
  • problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
  • newid hinsawdd
  • datblygu economaidd
  • globaleiddio.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch:

  • yn datblygu eich sgiliau ymchwil cyfrifiadurol i baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
  • yn dysgu sut i ddadansoddi setiau data ansoddol a meintiol
  • yn cynhyrchu mapiau a graffigau eraill sy'n dehongli data daearyddol
  • yn cymryd rhan mewn taith maes breswyl i wlad dramor
  • yn dewis modiwlau opsiynol i arbenigo ynddynt neu'n cynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant.

Yn ystod eich blwyddyn olaf:

  • byddwch yn cynnal prosiect ymchwil annibynnol yn cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun
  • bydd ymgynghorydd personol yn cael ei ddynodi i chi, a fydd yn rhoi arweiniad arbenigol
  • byddwch yn dewis modiwlau opsiynol ar ystod amrywiol o bynciau arbenigol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol gyda chyfrifiaduron, tiwtorialau mewn grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae llawer yn cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr lunio adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|