BSc

Bioleg Ddynol ac Iechyd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Bioleg Ddynol ac Iechyd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C195 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Datblygwyd ein cynllun Bioleg Ddynol ac Iechyd i adlewyrchu arbenigedd a gweithgarwch ymchwil amrywiol staff Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i chi astudio amrywiaeth o ddisgyblaethau biolegol gan gynnwys ffisioleg, microbioleg, imiwnoleg a geneteg, a chyplysu'r disgyblaethau hyn ag astudio seicoleg a biomecaneg ddynol. Mae'r cwricwlwm yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o'r prif gyflyrau sy'n dylanwadu ar iechyd dynol a chymhwyso'r wybodaeth i ddiwydiant yn yr unfed ganrif ar hugain.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Bioleg Ddynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Mae maes llafur y cwrs hwn, gyda'r flwyddyn integredig mewn diwydiant, yn union yr un fath â'i chwaer gwrs, (C194). Fodd bynnag, bydd gennych flwyddyn ychwanegol o gyllid i gyflawni blwyddyn mewn diwydiant. Rhaid i'ch profiad gwaith fod yn berthnasol i'r radd hon; asesir y flwyddyn a bydd yn cyfri tuag at eich gradd.
  • Bydd disgwyl i fyfyrwyr drefnu eu profiad gwaith o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd. Nid oes sicrwydd y byddwch yn cael eich talu am y profiad gwaith.Os na allwch ddod o hyd i leoliad, bydd angen i chi drosglwyddo i'w chwaer gwrs (C194).
  • Yn ystod eich blwyddyn o brofiad gwaith, byddwch yn talu ffioedd dysgu gostyngol, a gellir dod o hyd i'r manylion yma.

Bydd modd i fyfyrwyr ar y cwrs hwn archwilio meysydd arbenigol Bioleg Ddynol ac Iechyd sy'n cynnwys: 

  • Cyfleusterau ar gyfer dilyniannu DNA trwygyrch uchel, proteomeg, metabolomeg a llwyfannau sbectrosgopig.
  • Cymhwyso seicoleg i ddeall y broses o newid ymddygiad a'i pherthnasedd i ohirio datblygiad cyflyrau cronig gan gynnwys clefyd y galon, diabetes a chanser.
  • Ein hoffer ffisiolegol, biomecanyddol a seicolegol modern, gan gynnwys offer sganio'r corff er mwyn pennu iechyd esgyrn a chyfansoddiad y corff, dadansoddwyr cardiofasgwlaidd, anadlol a metabolaidd, peiriannau rhedeg, beicio a rhwyfo perfformiad uchel, ynghyd â fideo digidol ar gyfrifiadur a phlât grym i wneud dadansoddiad soffistigedig o symudiad. 
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig, ymroddgar a chyfeillgar sydd ag arbenigedd ar draws yr ystod lawn o bynciau Biolegol.
  • Bydd eich astudiaethau academaidd yn cael eu hategu gan gyfoeth o waith labordy a dosbarthiadau maes sy'n meithrin sgiliau gwyddonol go iawn sy'n hanfodol ar gyfer eich dyfodol.
  • Mae ein cyfleusterau addysgu ac E-ddysgu yn rhoi profiad dysgu rhagorol i chi gan integreiddio'r sesiynau dosbarth a storfa enfawr o adnoddau astudio.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a all eich arwain dros eich cyfnod yn Aberystwyth a'ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd yma gyntaf.
  • Rydym wedi buddsoddi'n helaeth a thros nifer o flynyddoedd yn ein cyfleusterau ymchwil, a gall myfyrwyr prosiect gael cyfle i weithio yn yr unedau ymchwil ar Benglais, neu yn ein cyfleuster ymchwil pwrpasol yng Ngogerddan ar gyrion Aberystwyth.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Immunology BR22220 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Sport & Exercise Physiology BR27420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Cell and Cancer Biology BR25920 20
One Health Microbiology BR26520 20
Physical Activity for Health BR27020 20
Sgiliau Ymarferol a Proffesiynol ym Microbioleg BG24720 20
Proteins and Enzymes BR26620 20
Sgiliau Ymarferol a Proffesiynol ym Microbioleg BG24720 20
Sport and Exercise Nutrition BR22520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Sports Nutrition BR30920 20
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Injury and Rehabilitation BR32020 20
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Molecular Biology of Development BR36020 20
Molecular Pharmacology BR36120 20
Parasitology BR33820 20
Technological advances in sport, exercise and health BR37420 20
Training and Performance Enhancement BR34420 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfaol

Bydd gan ein graddedigion Bioleg Ddynol ac Iechyd y sgiliau a'r wybodaeth i gael mynediad i ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys: 

  • Biofeddygaeth;
  • Iechyd a phroffesiynau perthynol;
  • Mae'r cynllun hwn hefyd yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwaith ymchwil uwchraddedig ar lefel Meistr a PhD.

Eich blwyddyn mewn diwydiant:

Yn ddi-os, byddwch yn magu hyder, a bydd ennill profiad yn y diwydiant yn ysgogi eich brwdfrydedd am y pwnc.

Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:

  • I gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
  • I wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
  • I ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
  • I gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
  • I wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.

Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr athrofa leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cydlynydd Profiad Gwaith ein hathrofa yn gallu eich cynorthwyo, yn ogystal â'n cynghorydd gyrfaoedd penodedig (James Cuffe, jpc11@aber.ac.uk). Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs yn fersiwn tair blynedd o'r pwnc yn lle.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf: 

  • Mae myfyrwyr yn cael eu haddysgu am y cynnwys pwysig sy'n sail i fioleg ddynol ac iechyd, a fydd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 o'r cwrs. Gall y pynciau gynnwys: 
  • Seicoleg ymarfer corff; 
  • Geneteg; 
  • Metaboledd; 
  • Ffisioleg ymarfer corff; 
  • Anatomeg ddynol; 
  • Maeth; 
  • Amrywiaeth microbaidd. 

Yn eich ail flwyddyn:

  • Mae myfyrwyr yn astudio dulliau ymchwil; 
  • Ffisioleg ymarfer corff; 
  • Imiwnoleg; 
  • Gall myfyrwyr edrych ar iechyd o safbwynt gwella iechyd a pherfformiad;
  • Anafiadau mewn chwaraeon;
  • Microbioleg;
  • Proteinau ac ensymau; 
  • Gallwch hefyd ddysgu'r dulliau ymarferol ar gyfer archwilio'r pynciau hyn yn annibynnol.

Yn eich blwyddyn olaf:

  • Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect annibynnol yn ogystal â chael eu haddysgu am:
  • Ffarmacoleg foleciwlaidd; 
  • Rheoli clefydau cronig fel diabetes a gordewdra; 
  • Mae gwahanol fodiwlau opsiynol ar gael hefyd i weddu i ddiddordebau'r myfyriwr. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy:

  • Arholiadau;
  • Traethodau;
  • Gwaith ymarferol;
  • Cyflwyniadau llafar;
  • Adroddiadau;
  • Ymarferion ystadegol;
  • Coflenni;
  • Portffolios;
  • Wicis;
  • Dyddiaduron myfyriol;
  • Adolygiadau llenyddiaeth;
  • Erthyglau cylchgrawn.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|