Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae'r radd Iawnderau Dynol LLB yn Aberystwyth, a addysgir yn Adran y Gyfraith hynaf a mwyaf hirsefydlog Cymru, yn gwrs heriol a diddorol. Mae Bwrdd Safonau'r Bar a'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn cydnabod y radd – sy'n cynnig llwybr uniongyrchol i'r proffesiwn cyfreithiol.
Byddwch yn elwa ar brofiad a brwdfrydedd ein staff arbenigol, y mae llawer ohonynt wedi gweithio fel cyfreithwyr – gan gynnig cymhwysiad ymarferol i'ch astudiaethau damcaniaethol.
Drwy feithrin dyfeisgarwch a ffordd o feddwl "y tu allan i'r bocs", byddwch yn gorffen y radd gyda sgiliau ar gyfer y byd go iawn, gan eich galluogi i siapio eich dyfodol a datblygu'r yrfa rydych chi'n ei haeddu.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
91% boddhad cyffredinol i Adran y Gyfraith a Throseddeg (ACF 2020).
Mae'n radd ymarferol yn y gyfraith sydd wedi'i chynllunio i fodloni anghenion cyflogwyr, ac fe'i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith.
Ar ôl ei gorffen, byddwch yn gymwys i barhau â hyfforddiant galwedigaethol ar Gwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC), neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar (BPTC).
Os byddwch yn cwblhau modiwlau penodol yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich eithrio rhag gorfod sefyll rhai arholiadau proffesiynol penodol.
Fe'i haddysgir gan staff proffesiynol sy'n gweithio â sefydliadau mawr e.e. GRETA, Comisiwn Cefn Gwlad Cymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Swyddfa Uchel Gomisiynydd ar gyfer Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.
Mae'n cynnig cyfleoedd proffesiynol a chymdeithasol ardderchog, ac ymweliadau â Ffeiriau'r Gyfraith a'r Inns of Court yn Llundain.
Bydd opsiwn i wneud modiwl lleoliad gwaith mewn gwahanol feysydd o'r gyfraith.
Mae opsiwn i astudio dramor yn ystod yr ail flwyddyn yn un o'n prifysgolion partner niferus yn Ewrop, UDA, Canada ac Awstralia.
Bydd opsiwn i gymryd rhan gyda'n Cymdeithas Ymryson, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau cyfreitha ac eirioli allweddol. Rydym hefyd yn cynnig cystadleuaeth Ymryson Gymraeg ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno ymrysona drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r Ysgol hefyd yn cynnig nifer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau.
Byddwch yn cael eu cyfeirio gan yr Adran tuag at fodiwlau sy'n berthnasol i thema'r cynllun. Bydd y traethawd hir hefyd yn berthnasol i themâu penodol y cynllun.
Ein Staff
Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae eich LLB yng Nghyfraith Iawnderau Dynol yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous i chi:
Byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer hyfforddiant i ddod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr.
Mae eich LLB yn y Gyfraith yn cynnig posibilrwydd i chi lwyddo mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys troseddeg, rheoli ariannol, busnes, adnoddau dynol, cysylltiadau rhyngwladol, newyddiaduraeth ac addysg.
Mae eich dyfodol yn bwysig i ni, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:
yr hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol
y gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu gydag ystod o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth
y gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir
y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
y gallu i weithio'n annibynnol
sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
sgiliau ymchwil.
Pa gyfleoedd sydd i fyfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwch yn:
cael hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau, e.e. Cyfraith Contractau, Cyfraith Troseddau a Chyfraith Camweddau, y mae'n rhaid eu hastudio a'u pasio er mwyn cael eithriad o gam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith
archwilio strwythur a datblygiad system gyfreithiol Cymru a Lloegr
astudio'r gydberthynas rhwng cynsail farnwrol a'r system llysoedd
dadansoddi'r broses o greu deddfwriaeth, a sut caiff ei dehongli gan farnwyr.
Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, gallech gael eich cyflwyno i'r pynciau canlynol:
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
Cyfraith Gyhoeddus
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau, a Chyfraith Tir.
Bydd hefyd modd i chi deilwra'ch astudiaeth drwy ddewis yn ofalus o blith ystod o fodiwlau dewisol.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, sy'n arloesol ac o ansawdd uchel, gan ganiatáu i chi wireddu'ch potensial.
Yn eich darlithoedd, byddwch yn cael eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Bydd gennych fynediad hefyd at fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd.
Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, er mwyn gwerthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau, cofnodion astudio neu bortffolios, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi ar gyfer eich amser yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth. Eich tiwtor personol fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Os ydych chi'n angerddol am iawnderau dynol ac yn dymuno cael gradd gymhwyso yn y gyfraith, yna yn sicr y radd Iawnderau Dynol (M990) yw'r un i chi. Er y gallech astudio gradd 'syth' yn y gyfraith a dewis modiwlau iawnderau dynol, gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon nad ydy hynny yr un peth ag astudio'r radd thematig a gaiff ei theilwra'n awtomatig i rywun sydd ag angerdd am iawnderau dynol, fel fi. Fel unigolyn sydd am ddilyn gyrfa yn y dyfodol ym maes iawnderau dynol, rwy'n teimlo y bydd cael gradd arbenigol yn fan cychwyn da iawn yn y byd go iawn, gan eich bod chi'n cael dealltwriaeth go iawn nid yn unig o'r gefnogaeth ddamcaniaethol a'r feirniadaeth o iawnderau dynol, ond hefyd effeithiolrwydd y gwaith gorfodi ar lefel domestig a rhyngwladol. Yn sicr, dw i ddim yn difaru dewis M990. Benjamin Cartwright
Mae M990 Iawnderau Dynol yn gwrs cyffrous sy'n pryfocio'r meddwl. Nid yn unig rydych chi'n dysgu'r un egwyddorion cyfraith ag y mae myfyrwyr M100 yn ei wneud, ond gallwch fod yn fodlon bod eich cwrs wedi'i deilwra'n uniongyrchol i'ch diddordeb mewn Iawnderau Dynol. Mae popeth wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi, ond mae'n dal modd i chi ddewis modiwlau gwahanol sydd o ddiddordeb i chi. Roedd y lefel o gynllunio gofalus yn mynd mor bell â sicrhau bod fy nhiwtor personol yn un o ddarlithwyr Iawnderau Dynol yr adran. Mae'n gwrs anhygoel, gyda rhai o ddarlithwyr Iawnderau Dynol mwyaf cymwys Prydain. Rebecca Sian Davies