Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol
BA Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol Cod L253 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
L253-
Tariff UCAS
128 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
80%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMewn byd sy’n gynyddol ryng-gysylltiedig a chymhleth, mae gweithredwyr rhyngwladol yn wynebu ystod o heriau diogelwch. Mae’r rhain yn cynnwys gwrthdaro o fewn a rhwng gwladwriaethau, terfysgaeth fyd-eang, bygythiadau seiber, ymlediad arfau niwclear, pandemigau iechyd byd-eang, troseddu traws-wladol, dadleoli poblogaeth, trychinebau naturiol a newid hinsawdd. Bydd y radd hon yn ymwneud â syniadau o feysydd astudiaethau strategol, cudd-wybodaeth a diogelwch er mwyn deall a dadansoddi’r heriau hyn o waha nol bersbectifau, ac ymchwilio i ymatebion dyfeisgar a holistaidd.
Ar radd Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol byddwch yn ymchwilio i gymhlethdod casglu ac asesu cudd-wybodaeth cyn ei rhannu ymysg llunwyr penderfyniadau. Byddwch yn ystyried sut mae’r broses hon a’i chynnyrch yn dylanwadu ar ymatebion i fygythiadau diogelwch. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i werthuso pwysigrwydd gwybodaeth, cyfrinachedd a gwyliadwraeth (‘surveillance’) wrth ystyried y goblygiadau moesegol a deddfwriaethol sy’n deillio o ymwneud â gweithgareddau cudd-wybodaeth drwy astudiaethau achos hanesyddol.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 128 - 104
Safon Uwch ABB-BCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|