Pam astudio Gwyddeleg: Iaith a Llên/Addysg?
- Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o'r amgylcheddau academaidd a deallusol mwyaf bywiog yn y byd ar gyfer astudiaethau Celtaidd.
- Mae'r Ysgol Addysg wedi bod yn darparu cyrsiau gradd arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth ers canrif a mwy.
- Mae'r adran yn gartref i dîm ysbrydoledig o arbenigwyr sy'n arwain y byd ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban.
- Bydd cyfle i fyfyrwyr ddysgu Gaeleg yr Alban, Llydaweg a Manaweg yn ogystal â'u llenyddiaeth.
- Bydd gradd mewn Astudiaethau Celtaidd yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous i chi.
- Gallwch ffynnu yn ein cymuned Gymraeg fywiog a chyffrous yma yn Aberystwyth. Nid yn unig mae ganddon ni Undeb Myfyrwyr cyffredinol, ond mae UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a chymdeithasau ar gyfer pobl sydd am fod yn rhan o'r gymuned Gymraeg.
- Mae'r Llyfrgell Genedlaethol dafliad carreg o Gampws Penglais. Mae'n unigryw yng Nghymru, ac yn caniatáu mynediad diderfyn i fyfyrwyr i'w chasgliad prin o lenyddiaeth.
- O fewn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, bydd gennych opsiynau eang o fodiwlau difyr i ddewis o'u plith, fel ysgrifennu creadigol, Cymraeg proffesiynol, cyfieithu, y Gymraeg a'r cyfryngau, Llenyddiaeth Gymraeg, Llên Gwerin a llawer mwy.
- Gall myfyrwyr gael cyfle i astudio mewn gwlad arall o dan raglen Erasmus+ neu'r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol.
- Mae'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd wedi'i lleoli yn Aberystwyth hefyd.
- Bydd astudio yma yn rhoi cyfle i chi fynychu llu o ddarlithoedd cyhoeddus, lansiadau llyfrau, perfformiadau a sgyrsiau yn yr Adran ei hun a'r tu hwnt.
- Gall myfyrwyr archwilio ein cyfleoedd partneriaeth cyffrous i astudio mewn Prifysgolion yn Norwy, yr Iseldiroedd, yr Almaen, a Ffrainc.
Ein Staff
Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.
Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.
Pa ragolygon gyrfa fydd ar gael i fi?
Mae ein rhaglenni gradd yn cynnig cyfleoedd gwaith addawol. Mae ein graddedigion wedi dilyn llwybrau yn y meysydd canlynol:
- sefydliadau dyngarol
- addysgu ac addysg (gan gynnwys anghenion addysgol arbennig)
- gofal cymdeithasol
- nyrsio
- therapi lleferydd
- gwaith cymdeithasol
- lles plant
- therapi chwarae
- y diwydiant hamdden
- cyfraith plant
- ymchwil plentyndod.
Sut galla i wella fy nghyfleoedd gyrfaol?
Mae'r Brifysgol yn cynnig cyfle i bob myfyriwr gymryd rhan yn ein cynllun BMG (Blwyddyn mewn Gwaith) neu leoliadau cyfnod penodol drwy GO Wales.
Rydym yn annog ein myfyrwyr i ymgymryd â gweithgarwch interniaeth ehangach dros gyfnod yr haf. Bydd ein tîm gyrfaoedd yn eich helpu i ddod o hyd i'ch lleoliad.
Sut bydd y radd hon o fudd i fi yn y dyfodol?
Bydd ein gradd mewn Addysg a Datblygiad Rhyngwladol yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
- y gallu i weithio'n annibynnol
- sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
- y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
- y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
- sgiliau ymchwil.
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Cydlynydd Cyflogadwyedd Academaidd
O'r flwyddyn gyntaf, eich cyflogadwyedd yw ein blaenoriaeth, ac er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau cywir mae gennym gydlynydd cyflogadwyedd academaidd pwrpasol, sy'n cydweithio gyda'n hymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt er mwyn teilwra pecyn o addysg gyrfaoedd, cysylltiad â chyflogwyr a chefnogaeth adrannol unigol. Bydd yr unigolyn hwn yn cydweithio â'r gwasanaeth gyrfaoedd a sefydliadau allanol i greu cysylltiadau, sy'n cael eu bwydo i fyfyrwyr yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd am waith gwirfoddol a gwaith cyflogedig yn ystod eich astudiaethau ac ar ôl hynny. O fewn yr adran, cewch gyfle i gymryd rhan yn ein cynhadledd cyflogadwyedd myfyrwyr flynyddol.
Cynllun mentora myfyrwyr
Mae ein cynllun mentora myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gyfoedion, ond hefyd i ddatblygu sgiliau mentora a hyfforddi wrth gefnogi cyd-fyfyrwyr. Mae'r cynllun yn cael ei gydnabod gan y Brifysgol am werth y sgiliau, ac mae'r rhai sy'n dod yn fentoriaid yn cael cydnabyddiaeth o hynny ar eu hadysgrif gradd.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech archwilio:
- modiwlau craidd sydd wedi'u cynllunio i roi sylfaen gadarn i chi ym maes Addysg a Datblygiad Rhyngwladol, a fydd yn eich cyflwyno i ddatblygiad unigol a chymunedol, datblygiad rhyngwladol ac addysg fyd-eang
- Gwyddeleg
- barddoniaeth merched yn Iwerddon
- llenyddiaeth Saga Wyddeleg Gynnar
- barddoniaeth beirdd Gaeleg
- hen Wyddeleg a Chymraeg Canol.
Gallai modiwlau opsiynol yn ystod y flwyddyn gyntaf gynnwys gweithio gydag eraill, rhywedd, datblygiad, addysg a phlentyndod mewn cymdeithas.
Yn yr ail flwyddyn, gall y modiwlau craidd ac opsiynol gynnwys:
- tirwedd a llenyddiaeth Geltaidd
- y Mabinogion
- ieitheg Geltaidd gymharol
- archwilio ac asesu'n feirniadol ddamcaniaethau cymuned ac addysg
- dadansoddi effeithiau mudo a symudedd ar addysg
- datblygiad llythrennedd
ac yn y flwyddyn olaf:
- safbwyntiau byd-eang ar hawliau ac iechyd yn y byd datblygol
- ffactorau sy'n effeithio ar addysg a datblygiad
- materion cymunedol
- y Brenin Arthur
- barddoniaeth beirdd Gaeleg
- rôl unigolion a'r llywodraeth
- cymhwyso hawliau a deddfwriaeth
- effaith tlodi.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Caiff ein cwrs gradd ei addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol a gweithdai. Caiff yr holl ddarlithoedd eu recordio fel bod modd i chi wrando arnyn nhw gymaint o weithiau ag y dymunwch.
Caiff rhai modiwlau eu hasesu ar ffurf arholiadau a thraethodau, ond gellir hefyd ddefnyddio prosiectau, ymarferion llyfryddiaethol, dyddiaduron myfyriol, posteri a chyflwyniadau. Nid yw pwysoliad ein harholiadau yn fwy na 50% mewn unrhyw fodiwl.