BA

Eidaleg a Ffrangeg

BA Eidaleg a Ffrangeg Cod RR31 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Wyt ti’n ysytried dy hun yn ddinesydd Ewropeaidd a byd-eang? Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, ein Gradd Gyfun mewn Eidaleg a Ffrangeg yw’r cwrs i ti. Bacha ar y cyfle hwn i feithrin gwybodaeth helaeth am iaith a diwylliant dau wareiddiad sydd ymysg yr hynaf yn ardal Môr y Canoldir o Ewrop. Wrth astudio am y radd hon, byddi’n datblygu cymhwysedd ar draws yr holl sgiliau iaith yn Eidaleg a Ffrangeg. Byddi hefyd yn ymchwilio i gymdeithas a diwylliant yr Eidal a Ffrainc trwy ein amrywiaeth eang o opsiynau.

Yn ystod dy drydedd flwyddyn, cei gychwyn ar antur fwyaf dy fywyd hyd yma. Byddi’n byw dramor ac yn gallu manteisio ar lond gwlad o gyfleoedd i hogi dy sgiliau iaith wrth i ti ymgolli yn niwylliant cyfoethog cymunedau Eidalaidd a Ffrengig dy ddewis leoliadau. Ac fe wnei di ffrindiau newydd ar yr un pryd.

Erbyn diwedd y cwrs, a chyda llond llaw o sgiliau trosglwyddadwy sy’n bwysig yng ngolwg cyflogwyr, bydd amrwyiaeth eang o yrfaoedd ar gael i ti gartref a thramor.

Trosolwg o'r Cwrs

Why study Italian and French at Aberystwyth University?

  • Aberystwyth is a small town with a big heart and a cosmopolitan outlook. As a vibrant and friendly University, we attract students from all corners of the world, and the intimate atmosphere makes it a great place to get to know people.
  • You will easily find people with whom to practise your Italian and French and you might want to take advantage of Aberystwyth University's Language Exchange Platform for tandem learning. Learners work together with a partner from another country or with one who speaks the language they wish to learn in an informal setting.
  • We're a small, friendly department and we get to know our students well. Our lecturers are always on hand if you need to discuss anything.
  • All students in our department thrive in our multilingual environment. We teach most of our modules and classes through the target language, many of our teaching staff are native speakers and all are experts in their respective languages.
  • From the outset, you will receive a minimum of 4 hours of language tuition per week in each of the target languages, plus modules on Italian and French culture taught in the target language. All our classes are designed to provide you with the solid foundation to enable you to become fluent in Italian and French and to gain a deep knowledge of French and Italian culture.
  • This degree is available to students who wish to study Italian from complete Beginners level together with French post-A level. For the Italian half of the course you will receive intensive language classes to bring you up to post-A level standard in your second year.
  • In addition to specific classes in speaking, listening, translation and grammar, all students are offered core and optional modules that explore literature, culture, language, politics and business.
  • The highlight of this degree for all of our students is the year abroad. As you will study two languages, you will be required to spend your year abroad (your third year) split equally between Italy (or an Italian-speaking country) and France (or a French-speaking country). There are a number of options for your year abroad, including studying as part of the Erasmus programme or undertaking a work placement. Find out what your options are by visiting our Studying Abroad page.


Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfa

Mae cyflogadwyedd wedi’i wreiddio yn ein dysgu ar draws yr Adran Ieithoedd Modern. Yr hyn sy’n tynnu sylw at eingraddedigion ymhlith y dorf yw’r flwyddyn dramor. Mae myfyrwyr yn dychwelyd o’u blwyddyn dramor gyda set o sgiliau ehangach, hyfedredd cryf yn yr ieithoedd targed a’r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa.

Mae galw mawr am sgiliau iaith ac maen nhw’n creu agoriadau mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Yn y Complete University Guide 2021 (cyhoeddwyd 9 Mehefin 2020) roedd Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr ail safle allan o 49 adran o ran rhagolygon gyrfa.

Dyma rai o’r meysydd lle cafodd ein graddedigion lwyddiant yn dod o hyd i waith:

  • Cyfieithu a Dehongli
  • Darlledu
  • Addysg
  • Marchnata
  • Adnoddau Dynol
  • Datblygu gwefannau
  • Bancio Rhyngwladol
  • Y Gwasanaeth Sifil

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i ti o'r hyn y gallet ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd hon.

Byddi’n astudio modiwl iaith craidd lle byddi’n datblygu dy sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad, gwrando a chyfieithu, a nifer o fodiwlau opsiynol.

Yn y flwyddyn gyntaf, gall y modiwlau opsiynol gynnwys:

  • Cyflwyniad i Ffilm Ewropeaidd
  • Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth yn Ewrop
  • Cyflwyniad i Astudiaethau Ffrengig
  • Delweddau o Ffrainc: Y Teulu Ffrengig

Yn dy ail flwyddyn cei ddewis o blith:

  • Modiwl Traethawd Estynedig
  • Ailystyried Eidal diwedd yr ugeinfed ganrif
  • Dinasoedd yr Eidal
  • Adrodd a Dychmygu Trefedigaethedd Ffrainc
  • "...ISMES” Symudiadau Diwyllianol ac Artistig Ffrainc yr 20fed Ganrif
  • Yr Eidal Fodern
  • Iaith Busnes
  • Hunan-ysgrifennu yn Ffrainc (18ed-21ain Ganrif)
  • Hiwmor a Llenyddiaeth

Yn dy drydedd flwyddyn, byddi’n astudio neu’n gweithio dramor, yn rhannu’r amser yn gyfartal rhwng gwlad Eidaleg ei hiaith a Ffrangeg ei hiaith.

Yn dy flwyddyn olaf, cei ddewis o blith modiwlau sy’n cynnwys:

  • Modiwl Traethawd Hir
  • Modiwl Traethawd Estynedig
  • Dinasoedd yr Eidal
  • Ailystyried Eidal diwedd yr ugeinfed ganrif
  • Iaith Busnes a Materion Cyfoes
  • Hunan-ysgrifennu yn Ffrainc (18ed-21ain Ganrif)
  • Adrodd a Dychmygu Trefedigaethedd Ffrainc
  • Hiwmor a Llenyddiaeth
  • "...ISMES” Symudiadau Diwyllianol ac Artistig Ffrainc yr 20fed Ganrif

Sut bydda i’n cael fy addysgu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu yn y dosbarth. Bydd darlithoedd yn dy gyflwyno i bynciau, ac mewn seminarau bydd disgwyl i ti gymryd rhan mewn trafodaethau.

Byddi’n dysgu trwy gyfuniad o wersi mewn grwpiau bach, darlithoedd, a nifer fach o seminarau yn y flwyddyn gyntaf, ac yn gynyddol mewn seminarau yn y blynyddoedd wedi hynny. Byddi’n cael dy annog i ddarllen yn annibynnol er mwyn ategu a chyfnerthu’r hyn a ddysgir ac i ehangu dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth dy hun o’r pwnc.

 Sut bydda i’n cael fy asesu?

Byddi’n cael dy asesu ar sail cyflwyniadau llafar, profion gwrando, adroddiadau ysgrifenedig a chyfieithiadau sy’n mynd yn fwyfwy cymhleth yn y gwersi iaith, a hefyd ar sail arholiadau llafar ac ysgrifenedig. Yn y modiwlau cynnwys, mae’n bosib y bydd gofyn i ti ysgrifennu traethawd, ymgymryd â phrosiect ymchwil, rhoi cyflwyniad llafar, neu sefyll arholiad.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|