Eidaleg a Ffrangeg
BA Eidaleg a Ffrangeg Cod RR31 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio – 0800 121 40 80
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
RR31-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
Ar gael ar gyfer
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrWyt ti’n ysytried dy hun yn ddinesydd Ewropeaidd a byd-eang? Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, ein Gradd Gyfun mewn Eidaleg a Ffrangeg yw’r cwrs i ti. Bacha ar y cyfle hwn i feithrin gwybodaeth helaeth am iaith a diwylliant dau wareiddiad sydd ymysg yr hynaf yn ardal Môr y Canoldir o Ewrop. Wrth astudio am y radd hon, byddi’n datblygu cymhwysedd ar draws yr holl sgiliau iaith yn Eidaleg a Ffrangeg. Byddi hefyd yn ymchwilio i gymdeithas a diwylliant yr Eidal a Ffrainc trwy ein amrywiaeth eang o opsiynau.
Yn ystod dy drydedd flwyddyn, cei gychwyn ar antur fwyaf dy fywyd hyd yma. Byddi’n byw dramor ac yn gallu manteisio ar lond gwlad o gyfleoedd i hogi dy sgiliau iaith wrth i ti ymgolli yn niwylliant cyfoethog cymunedau Eidalaidd a Ffrengig dy ddewis leoliadau. Ac fe wnei di ffrindiau newydd ar yr un pryd.
Erbyn diwedd y cwrs, a chyda llond llaw o sgiliau trosglwyddadwy sy’n bwysig yng ngolwg cyflogwyr, bydd amrwyiaeth eang o yrfaoedd ar gael i ti gartref a thramor.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|