LLB

Cyfraith a Rheolaeth a Busnes

LLB Cyfraith a Rheolaeth a Busnes Cod MN11 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Mae gradd LLB yn y Gyfraith a Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn radd anrhydedd cyfun sy'n edrych ar ddwy ddisgyblaeth gyffrous a heriol, sy’n cyd-fynd yn dda â’i gilydd.

Ar gyfer yr agweddau ar y cwrs sy’n ymwneud â'r Gyfraith, fe’ch dysgir yn yr adran gyfraith hynaf a mwyaf sefydlog yng Nghymru gan staff arbenigol - y mae llawer ohonynt hefyd â phrofiad o weithio fel cyfreithwyr - gan sicrhau golwg ymarferol ar eich astudiaethau damcaniaethol.

Yn yr agweddau ar y cwrs sy’n ymdrin â Busnes a Rheolaeth, byddwch yn cael eich dysgu yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, gan academyddion gweithgar sydd ag ystod eang o ddiddordebau ym meysydd marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifeg, strategaeth, rheoli adnoddau dynol, a menter.

Drwy gyfuno’r meysydd hyn mae’r radd hon wedi’i llunio ar gyfer myfyrwyr sydd am lwyddo mewn gyrfa gyfreithiol neu mewn ymarfer rheoli busnes byd-eang.

Trosolwg o'r Cwrs

Gradd ymarferol yw hon, wedi’i chynllunio i fodloni anghenion cyflogwyr, ac fe’i dysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol. Fe’ch dysgir gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda sefydliadau mawr e.e. GRETA, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Byddwch yn elwa o gyfleoedd cymdeithasol a phroffesiynol rhagorol, e.e. ymweliadau â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytai’r Brawdlys yn Llundain. Cewch gyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau ein Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau allweddol wrth gyfreitha ac eirioli.

Ar y modiwlau Busnes a Rheolaeth cewch ddealltwriaeth am fyd busnes, rheoli a menter. Byddwch yn cael dealltwriaeth am effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes e.e. digwyddiadau economaidd a gwleidyddol, yn meithrin dealltwriaeth eang am reolaeth ymarferol, ac yn datblygu gwybodaeth fanwl am fasnach yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Fe ddatblygwch hefyd afael gadarn ar gymhlethdod yr heriau sy'n wynebu rheolwyr, ac effaith gyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol sy’n wynebu arweinwyr.

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT10420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contract Law LC13820 20
Criminal Law LC10520 20
Cyfraith Camwedd CT11120 20
Cyfraith Cytundebau CT13820 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Tort LC11120 20

Gyrfaoedd

Bydd eich gradd LLB yn y Gyfraith a Busnes a Rheolaeth yn agor amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous i chi. 

Byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer hyfforddiant pellach i ddod yn gyfreithiwr, neu fe allwch ystyried llwybr gyrfaol arall. 

Mae ein graddedigion wedi cael gwaith yn y meysydd canlynol:

  • troseddeg
  • rheolaeth ariannol
  • busnes
  • adnoddau dynol
  • cysylltiadau rhyngwladol
  • newyddiaduraeth
  • addysg
  • cyfrifeg siartredig
  • bancio buddsoddi
  • yswiriant
  • gwarantu
  • rheoli risg
  • rheoli marchnata
  • rheoli manwerthu
  • rheoli logisteg a dosbarthu.

Bydd astudio am y radd hon yn rhoi’r sgiliau a’r medrau isod i chi: 

  • hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol
  • y gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth
  • y gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • sgiliau effeithiol wrth ddadansoddi, datrys problemau, a meddwl yn greadigol
  • gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio yn unol â therfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun
  • gweithio mewn tîm a'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil
  • deall ymddygiad a strwythur sefydliadau
  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol 
  • dealltwriaeth ddofn o’r hyn sy’n achosi newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill, ac o’u heffeithiau;
  • gwneud penderfyniadau.

Pa gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael i fi fel myfyriwr yn Aberystwyth?

Dysgwch fwy am y cyfleoedd amrywiol y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) a reolir gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael hyfforddiant craidd yn hanfodion cyfrifeg a chyllid, rheolaeth a busnes, a'r systemau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn ymdrin â Rheoli Adnoddau Dynol ac yn cael dewis o blith ystod eang o fodiwlau’r Gyfraith a Rheoli Busnes gan gynnwys cyfraith fasnachol, cyfraith droseddol, hawliau dynol, cyfraith ryngwladol, rheoli marchnata, mentergarwch a chreu mentrau newydd.

Yn y drydedd flwyddyn, canolbwyntir ar fodiwlau sy'n gysylltiedig â'r Gyfraith yn unig. Cewch naill ai adeiladu ar y modiwlau sy'n gysylltiedig â’r gyfraith a ddewiswyd yn eich ail flwyddyn neu ddewis modiwlau hollol newydd. Mae'r rhain yn amrywio, o’r gyfraith fasnachol i sut y mae troseddwyr yn cael eu trin a’u hadsefydlu.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar a safonol a fydd yn eich cynorthwyo i wireddu eich potensial. Drwy ddysgu ar sail gwahanol fodiwlau fe gewch deilwra’ch dysgu at eich diddordebau’ch hun. Yn eich darlithoedd cewch gyflwyniad i gysyniadau allweddol ac i wybodaeth gyfredol a pherthnasol. Bydd recordiadau o ddarlithoedd hefyd ar gael i chi, ond ni ddylid defnyddio’r rhain yn lle mynd i’r darlithoedd eich hunan. Mae’r sesiynau tiwtora a'r seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau penodol ym meysydd y gyfraith a busnes, ac i gloriannu a chael adborth ar eich dysgu’ch hunan, gan wella sut rydych yn llunio’ch dadleuon ar yr un pryd.  

Sut y caf fy asesu?

Cewch eich asesu drwy gymysgedd o draethodau, arholiadau, adroddiadau, prosiectau unigol ac mewn grwpiau, a chyflwyniadau, gan gynnwys ymarferion ymryson cyfreithiol.

Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich amser yn Aberystwyth. Eich tiwtor personol fydd eich prif gyswllt os bydd gennych faterion i’w codi neu ymholiadau, yn academaidd ac anacademaidd fel ei gilydd.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|